Saturday 21 May 2011

TYDI'R GARDDIO 'MA DDIM YN HAWDD!

Mae o'n ddiawl o beth rhyfedd fel mae un snag yn arwain i un arall. Yn gyntaf mae'r tomatos yn cael haint sy'n anhysbys i bawb heb unrhyw eglurhad am beth sydd wedi ei achosi, wedyn pan es ati i drawsblannu'r cenin y 'Welsh Seedling' i'r gwely tu allan mi ges i siom mawr gan ddarganfod fod un wedi dechrau pydru yn ei waelod wrth y gwreiddiau.
 Tydw i ddim yn hollol siwr pam fod hyn wedi digwydd ond mae o'n fy ngwneud i yn hynnod betrusgar fod y gweddill am ddilyn yr un cwrs. Does dim byd gwaeth na phlanu rhes o lysiau a chael gwagle yn ei ganol, lwcus tro yma mai'r cenin olaf yr oeddwn yn ei blanu oedd yr un drwg.

Yr unig beth dwi angen wneud i rhain ydi adeiladu ffram i'r dail gael gorwedd arni felly'n rhoi cymorth i'r cenin gael ymestyn ar i fynu. Mae'r ffram wedi ei godi eisioes i'r cenin yn y twnel.
Fel mae'r wythnos diwethaf wedi bod yn mynd yn ei flaen gwaethygu mae fy mhroblemau. Y trydydd peth i ddigwydd oedd colli un o'r nionod mawr, am ryw reswm roedd y diawl wedi penderfynu 'boltio'. Term sy'n golygu fod y planhigyn wedi penderfynu taflu hadyn allan ('gone to seed' fel fuasai'r sais yn ei ddweud), felly bu'n rhaid ei godi o'r gwely rhag ofn i'r gweddill ei ddilyn.
Erbyn hyn roeddwn yn teimlo reit siomedig ond yn gobeithio fy mod dros y gwaethaf oherwydd roedd yna dri anffawd wedi disgyn ar yr ardd ar ol eu gilydd!
Ond na, i wneud pethau'n waeth pan es lawr i'r ardd bore dydd Iau cefais y siom fwyaf o'r wythnos i gyd. Roedd y tyllwr bychan blewog dall yn ei ol! Mi drodd y siom yn reit sur a dweud y gwir ac yna yn wylltineb pur. O am gael garddio yn yr Iwerddon, gwlad di-dwrch daear yn ol y son. I ychwanegu halen ar y briw roedd y twat wedi codi o fewn troedfedd i'r 'crynwr daear'.
 Mai'n amlwg fod hwn yn declyn sy'n wastraff arian a dweud y lleiaf.
Yn ffodus dwi'n 'nabod daliwr proffesiynol ac mae o wedi bod yma heddiw yn gosod trapiau felly gyda lwc bydd y basdad bach yn hongian ar y ffens erbyn diwedd wythnos nesa.

No comments:

Post a Comment