Tuesday 14 December 2010

Y TWNEL YN CYRRAEDD

 Mae'r tywydd wedi bod yn ofnadwy ers y tro diwethaf imi gael cyfle i 'sgwennu yma. Heb gael amser o gwbl i dendio ar yr ardd, er  fuaswn i heb allu gwneud rhyw lawer oherwydd yr eira a'r rhew dychrynllyd. Yn ol themomedr y ty gwydyr aeth hi lawr i -11.5C nifer o nosweithiau er gwaetha'r bubble wrap sy'n insiwleiddo'r tu mewn.

Er gwaethaf y tywydd garw roedd rhaid rhoi y twnel i fyny! Dydd Gwener y 10ed oedd yr unig ddiwrnod oedd 'Haygrove Garden Tunnels' yn gallu dod i'r safle i'w adeiladu, neu mi fuaswn yn gorfod aros tan wedi'r 'dolig, rhywbeth doeddwn ddim yn awyddus i'w wneud gan fy mod eisiau treulio'r gwyliau yn paratoi y gwlau oddi fewn y twnel tra mae'r amser ar gael cyn cyffro'r gwanwyn.


Roedd safle codi'r twnel yn hynod o fwdlyd a dweud y lleiaf!


Ond roedd y ffram i fynu mewn dim o dro.
Fe'i adeiladwyd mewn cwta pedair awr, gan wneud y gwaith caled edrych yn hawdd iawn. Duw a wyr faint o amser fyddai hi wedi cymeryd i mi ei godi ar ben fy hun.
Dyma un or prif resymau imi ddewis 'Haygrove' oherwydd roeddynt yn cynnig y gwasanaeth cyflawn o ran ansawdd a safon uchel ei wneuthuriad, yn ogystal a'r dewis o gael arbenigwyr i'w adeiladu.

                              Fel y gwelwch mae siap y twnel yn hollol wahanol i'r 'pollytunnel' confensiynol. Yn hytrach na chael siap hanner crwn yr hyn mae'r twnel hwn yn ei gynnig yw ochrau syth sy'n galluogi tyfu nifer fwy o gynnyrch yn agosach i'r ochrau.



Mantais mawr y twnel hwn ydi'r 'vents' sydd yn ymestyn hyd y twnel ar bob ochr. Mae modd agor rhain gan rolio'r plastig i fynnu gan adael yr awyr iach i mewn trwy rwydwaith man sy'n cadw'r plau a phryfaid allan ond yn cadw awyrgylch tu mewn i'r twnel yn berffaith ar gyfer tyfu cynnyrch iach.
Dwi'n gobeithio cael mynd ati dros gwyliau'r dolig i godi 3 'raised bed' tu mewn i'r twnel. Un ar gyfer y nionod, un ar gyfer y cenin a'r llall ar gyfer y moron byr.