Thursday 21 October 2010

Hadau

Un or pethau pwysicaf i feddwl amdano cyn cychwyn unrhyw waith yn yr ardd ydy'r llysiau mae rhywun yn bwriadu ei blannu. Ar ol penderfynnu pa lysiau, mae dewis yr hadau cywir yn holl bwysig os mai arddangos yw'r nod.
Mae prynnu'r hadau gorau ar cyltifar gorau ym mhob adran yn angenrheidiol os ydych eisiau cael llwyddiant ar fyrddau'r sioe. Hadau Medwyn Williams dwi'n ddefnyddio gyda'r mwyafrif o lysiau ac dwi'n prynnu planhigion sydd wedi eu cychwyn gan Medwyn sef y Nionod a'r Cenin. Y rheswm pennaf am hyn ydy'r gost o wresogi'r ty gwydyr. Dwi fel arfer yn derbyn y planhigion rhwng mis Chwefror a mis Mawrth syn golygu fod y tywydd yn dechrau cynhesu ychydig yn ogystal a'r dydd yn ymestyn.

O ran yr hadau Tatws, dwi wedi archebu rhain ddoe gan http://www.jbaseedpotatoes.co.uk/ sy'n arbennigo yn y maes hwn ac yn cynnig hadau o safon uchel ar gyfer arddangos. Mi gefais sgwrs reit ddifyr hefo Iain Barbour ar y dull gorau o dyfu, felly gobeithio gai dipyn o lwyddiant flwyddyn nesa.
Penderfynnais fynd am 3 gwahanol fath o daten:
  1. NVS AMOUR
  2. NVS SHERINE
  3. KESTREL
Mi siaradai fwy am y dull dwi am ei ddefnyddio i dyfu'r tatws yn agosach at amser eu plannu.

Dyma un dosbarth yn fy sioe lleol eleni. Doedd y safon ddim yn uchel o gwbl oherwydd fy nghasgliad i Wilja ennillodd, er doeddynt ddim yn gyltifar sy'n benodol ar gyfer sioe. Roedd nifer fawr or rhain wnes i godi yn dioddef o scab, rhywbeth dwin obeithio osgoi wrth ddewis cyltifar sydd mor amlwg ar y byrddau sioe.

Friday 15 October 2010

TESTIO'R PRIDD

Mae'r ardd yn edrych braidd yn druenus ar hyn o bryd. Mae yna ychydig o foron ar ol mewn un gwely ymysg y chwyn! Ac mai'n hen bryd tynnu gweddill y pys oherwydd mae hi di bod yn rhewi nosweithiau diwethaf.
Y dasg dwi angen wneud cyn dechrau gwneud unrhyw beth i'r tir yw gyrru samplau pridd i ffwrdd or gwahanol wlau er mwyn gwybod yn union beth dwi angen ychwanegu i'r pridd ar gyfer y tymor nesa.
Lancrop Laboratories dwin ei ddefnyddio oherwydd maent yn gwneud y dasg yn hynod o syml.

Bydd rhaid imi wneud dipyn o waith yn y ty gwydyr cyn rhoi unrhyw blanhigion ynddo. Mae'r tomatos wedi dioddef o 'botritis' trwy gydol y ddau dymor diwethaf, felly bydd rhaid imi lanhau'r gwydr a'r bubble wrap yn drylwyr hefo 'armillatox'. Dwi hefyd am newid y gwlau compost hefo pridd sydd heb ei arddio ers blynyddoedd gan obeithio cael ty gwydyr syn rhydd o unrhyw afiechydon neu phla. Y rheswm pennaf dwi'n credu fy mod wedi cael 'botritis' ydi'r diffyg aer ffres yn dod i mewn o amgylch y planhigion, yn sicr tydi'r bubble wrap ddim yn help dros yr haf ond ni allaf wneud hebddo trwyr gwanwyn oherwydd y nosweithiau rhwellyd mae gardd sydd 1000 o droedfeddi uwchben y mor yn dueddol o'i gael!
Dwi am osod ffenestr 'louvre' i'r talcen pellaf y ty gwydyr gan obeithio wnaiff hyn ddatrys y broblem. Amser a ddengys!

Friday 8 October 2010

Y GWAITH YN DECHRAU



Dyma'r amser dwi'n dechrau meddwl am baratoi yr ardd ar gyfer y flwyddyn nesa. Dwi'n gwbod fod hi'n andros o gynnar i fod yn meddwl am hynny, ond os ella i wneud y gwaith paratoi yn bell cyn amser plannu mae hynny'n golygu bydd y llysiau yn cael gwell cychwyn i'w bywyd.
Mae yna gymaint o waith tacluso ar ol y tymor sydd wedi pasio dwi ddim yn gwbod lle i gychwyn! Ond dwi am gael p'nawn cyfa yn yr ardd 'fory, mae'r wraig mewn priodas drwyr dydd ac yn lwcus imi i'r parti nos ges i wadd, felly gai lonydd i daclo dipyn ar y lle!
Dyma un o'r cennin wnes i dyfu eleni ar gyfer sioe Sir Feirionnydd, ac dwi'n gobeithio cael rhai ychydig yn fwy flwyddyn nesa.