Sunday 28 August 2011

PENCAMPWRIAETH YR NVS YN LLANGOLLEN 2011

Dwi ddim yn gwybod lle i gychwyn i ddweud y gwir oherwydd ddoe oedd y diwrnod gorau a mwyaf llwyddiannus imi ei gael hyd yma ers dechrau arddangos llysiau. Pan es i am Langollen bore ddoe am dri y bore, i fod yn onest roeddwn yn cachu yn fy nghlos ac yn cwestiynnu fy hun beth oedd ar fy mhen yn cystadlu mewn sioe mor fawr. Ond roedd hi rhy hwyr i droi yn ol!

Er imi roi moron byr a moron hir yn o gystal a blodfresych ar byrddau arddangos hefo'r pedwar dosbarth tatws wnes i wneud fy marc. Yn syfrdanol mi enillais dosbarth y tatws lliw hefo 5 Kestrel, cael ail yn dosbarth yr NVS Amour a dau drydydd hefo dosbarth y tatws gwyn hefo 5 Casablanca a dosbarth yr NVS Sherine.




Rhaid cyfaddef fy mod wedi bod yn hynod o lwcus eleni gan mai hwn ydi'r flwyddyn gyntaf imi ddefnyddio'r ffordd hyn o dyfu'r tatws. Hefyd roeddwn yn hynod ffodus o allu prynnu'r compost wedi ei gymysgu yn barod gan Medwyn Williams. Gall pawb wneud yr un fath felly does dim rhaid bod ofn trio ac yn enwedig nid oes rhaid poeni am anelu am y sioeau mwyaf yn y wlad. Os alla i ei wneud o gall unrhyw un.

Roedd pawb o'r arddangoswyr eraill i gyd yn hynod groesawgar ac yn barod i roi cyngor am unrhyw beth.

Gawn ni weld os mai 'one hit wonder' fyddai flwyddyn nesa!?

Yn olaf rhaid imi ddiolch i fy ngwraig Maria sydd wedi helpu'n fawr iawn i sortio'r holl datws ar gyfer pob sioe ac wedi bod yn gefn imi drwy gydol y flwyddyn.

Friday 26 August 2011

LLANGOLLEN

Wel dwi wedi llwytho'r van yn barod i gychwyn lawr i Langollen am dri y bore! Allan o 11 dosbarth oeddwn wedi bwriadu cystadlu dim on 7 dwi am wneud oherwydd safon gwael rhai o'r llysiau.
Dwi'n obeithiol am safon y moron byr, na fyddant yn edrych allan o le ymysg y mawrion fydd yn cystadlu. Felly ffwrdd a ni a gobeithio am y gorau.

Nai drio rhoi'r canlyniadau yma nos yfory.

Wednesday 24 August 2011

CANLYNIADAU SIOE SIR MEIRION 2011

Bu heddiw yn ddiwrnod go lewyrchus imi gan gael 7 cyntaf, 3 ail ac 1 trydydd. Roedd hi'n agos iawn yn nifer fawr o'r dosbarthiadau ond dwi'n hynod falch ar y cyfan sut yr aeth hi. Dyma luniau o'r holl ddosbartiadau llwyddiannus:









Roeddwn yn hynod o falch hefo safon fy nhatws yn enwedig. Roedd cyflwr y croen yn sefyll allan i ddweud y gwir ond mi gawn ni weld sut fydd y rhai dwi wedi gadw i Langollen yn sefyll i fynu yn erbyn y goreuon yn y wlad!? Yn anffodus tydi safon y cenin ddim wedi cyraedd y nod eleni a dim ond trydydd ges i hefo rhain.

Mae cyflwr y dail a'r barel cystal a rhai llynedd ond am ryw reswm nes i fethu a chael yr hyd angenrheidiol i gystadlu. Rhaid ar y pwynt hwn cyfaddef fod y cenin a enillodd ben a sgwyddau uwchben rhain felly pob clod i Gwyn Davies o Lansannan. (mi gai di flwyddyn nesa!) Dyma lun ohonynt i brofi fy mhwynt.


Llangollen ydi'r sioe nesa lle bydd rhaid cael perffeithrwydd i gystadlu am y cardiau. Amser a ddengys!

Sunday 21 August 2011

PARATOI'R TATWS

Bu heddiw yn uffen o ddiwrnod blinedig gan wagu a sortio'r bagiau tatws. 80 ohonynt i gyd ac roeddynt wedi bod dan do yn y sied ers pythefnos er mwyn iddynt sychu a rhoi cyfle i'r croen galedu a setio. Braidd yn siomedig oedd y Cassablanca o ran maint er fod yna ddigon o datws yn y bagiau doeddynt ddim yn agos i fod yn 7oz, gyda'r mwyafrif o gwmpas 5 i 6oz. Doeddwn ddim yn disgwyl cael gymaint o datws i ddweud y gwir, dyma lun o datws Kestrel ddaeth o jest un polypot!
Roedd yna lot o waith sortio'r holl datws mewn i setiau ar gyfer pob dosbarth a phob sioe. Y peth cyntaf oeddwn yn ei wneud oedd cadw'r rhai oedd ddim yn cyrraedd y safon priodol mewn i hessian bags ar gyfer unai eu gwerthu neu i fwyta dros y flwyddyn nesa.

7 oz oedd y pwysau oeddwn yn obeithio ei gael ond roedd hyn yn anoddach nac oeddwn yn ei ddigwyl gyda'r mwyafrif o gwmpas y 6oz.
Roedd hi'n cymeryd cryn amser i sortio'r holl datws priodol mewn i setiau.

Ar ol eu rhoi mewn i setiau mae hi'n holl bwysig eu storio mewn mawn sych a glan er mwyn eu cadw mewn tywyllwch hollol. Bydd rhain yn cael glanhau noson cyn y sioe. Mae'r holl datws yn cael eu storio fel hyn gan labelu phob bocs ar gyfer y sioeau priodol.



Dwi hefyd wedi cadw'r compost mewn bagiau tunnell yn barod i'e ddwfnyddio yng ngweddill yr ardd flwyddyn nesa.

Mae hi'n anodd credu fy mod wedi defnyddio dau dunnell a hanner o gompost, na i ddim dweud faint mae hyn wedi gostio imi!






Wednesday 17 August 2011

DIM TROI YN OL RWAN!

Wel mae'r ffurfleni cystadlu wedi cael eu postio heddiw, felly does yna ddim troi yn ol rwan! Mae'r adeg hwn cyn y sioeau yn amser reit nerfus ac llawn amheuon am safon fy nghynyrch. Dwi'n credu fy mod braidd yn uchelgeisiol yn cystadlu mewn cynifer ddosbarthiadau yn y 'National' yn Llangollen, ond mi fydd hi'n help at flwyddyn nesa i gael gweld lle dwi angen gwella. Mae hi'n holl bwysig anfon ffuflen gystadlu yn brydlon ond dwi wedi aros tan y munud ola i ddweud y gwir oherwydd roeddwn mewn penbleth pa ddosbarthiadau i gystadlu. Y cur pen mwyaf sy gen i ydi'r cenin, mae'r Pendle Improved sydd yn tyfu yn y twnel yn edrych yn addawol ond tydynt heb gyraedd 14" i'r button eto sydd yn angenrheidiol o dan reolau'r gystadleuaeth.

Sioe Sir Meirion ydi'r sioe gyntaf ar ddydd Mercher Awst 24ain ac dwi'n bwriadu cystadlu mewn 13 o ddosbarthiadau, ond tydw i ddim yn siwr os nai allu trio ym mhob un o'r dosbarthiadau hyn tan ddiwrnod codi'r holl lysiau. Dyna'r adeg pan mae rhywun yn cael gweld am y tro cyntaf os ydi'r moron hir neu'r moron byr am gyrraedd y safon dwi'n anelu ato.

Ar y dydd Sadwrn 27ed o Awst byddaf yn mentro lawr i'r sioe fwyaf y flwyddyn o ran llysiau sef y 'National Vegetable Society Championships' yn Llangollen. Dwi'n gobeithio cael llwyfanu hyd at 11 dosbarth yn y sioe hwn gan drio cadw'r llysiau gorau yn yr ardd i'r sioe yma, tasg anodd iawn hefo'r moron yn enwedig.

Dwi'n hynnod obeithiol fod gen i datws o safon reit uchel ac mae'r holl polypots wedi cael eu codi ac eu symud dan do i'r garej yn gannol yr holl deiars! Pwrpas hyn ydi rhoi amser i'r compost sychu yn gyfan gwbl cyn codi'r tatws o'r pridd. Mae hyn yn galluogi i groen y daten setio a chaledu rhywfaint felly yn gwneud hi'n anoddach eu marcio.
Mae'r gwlydd i gyd wedi cael eu torri ac wedi mynd i gael eu compostio oherwydd roeddynt yn rhydd o unrhyw afiechyd. Dydd Sul nesa 'ma byddaf yn gwagu'r holl fagiau ac yn sortio'r tatws i gyd mewn i rai sy'n dangos potensial ar gyfer y bwrdd arddangos ac bydd y gweddill yn mynd i fagiau hessian ar gyfer eu gwerthu yn Caffi Cerrig. Bydd y tatws sioe i gyd yn cael eu pwyso ac eu sortio i'r gwahanol ddosbarthiadu wedyn yn cael eu storio yn ol mewn mawn sych yn barod i'w golchi bore'r sioe.

Yng ngweddill yr ardd mae'r nionod bwyta i gyd wedi cael eu codi ac angen eu sychu er mwyn iddynt gadw drwy'r gaeaf. Tydi safon rhain ddim mor uchel a'r rhai wnes i dyfu yn y twnel ond dwi'n edrych ymlaen i'w defnyddio nhw yn y gegin. (be ddylwn i ddweud ydi dwin edrych ymlaen i weld Maria yn defnyddio nhw i wneud swper!)
Mae'r blodfresych wedi cychwyn blodeuo hefyd, braidd yn gynnar ar gyfer sioe sir i ddweud y gwir ond dylai'r gweddill wnes i blannu wythnos yn hwyrach fod yn berffaith ar gyfer Llangollen hei lwc. Y rhai sydd wedi dechrau dod a blodyn dwi wedi clymu'r dail at eu gilydd o amgylch y blodyn er mwyn atal unrhyw olau. Mae hyn yn cadw'r blodyn yn glaer wyn er gyfer arddangos.

Bydd rhaid rhoi mwy o amser i'r ardd dros y pythefnos nesa er mwyn gwneu yn siwr fod pob dim ar ei orau i'r sioeau.

Friday 5 August 2011

Y GYSTADLEUAETH GYNTAF WEDI EI HENNILL

Wel! Mae'r twrch daear wedi ei ddal o'r diwedd, mewn trap yng ngwely'r cenin. Beth sy'n syfrdannol ydi'r ffaith imi ddal dau arall y noson wedyn jest wrth gerdded drwy'r ardd a sylwi ar un wedi codi i'r wyneb wrth y blodfresych ac mi gododd yr ail yn sydyn ar ei ol! Mae'r tri yn hongian ar y ffens ar hyn o bryd ac roeddwn wedi bwriadu dangos llun ohonynt ond dwi di dewis peidio rhag ofn fod yna rai ohonoch yn credu'n gryf mewn 'animal rights'!(rhaid i rywun watcho be mae on ddeud ai ddangos ar y we ma).

Mae pethau yn edrych weddol dda ar hyn o bryd gyda nifer o bethau yn barod i'w codi neu tynnu fel y tomatos. Dwi'n lwcus fod gen i gaffi dros y ffordd sy'n cael y mwyafrif ohonynt ond mae'r blas sydd arnynt yn hollol wahanol i rhai siop felly heidiwch i'r caffi yn Cerrig i gael brechdan!

Mae'r nionod i gyd bellach wedi eu codi ac wedi cael eu storio yn y garej i gael aeddfedu. Does gen i ddim llun ohonynt ond nai drio rhoi un yma tro nesa. Yn anffodus braidd yn drychinebus oedd y nionod mawr eleni gyda'r mwyafrif yn cael 'botritis' felly yn ddiwerth ar gyfer sioe yn o gystal ar gyfer bwyta. Dwi wedi gallu cael 5 i faint go lew sef 16" o'i amgylch, tua 2" yn llai na llynedd ond dylent fod ddigon da i'r sioeau lleol.

Wnes i orfod taflu rhain i gyd i ffwrdd, felly allan o ugain o nionod dim ond pump dwi'n gallu defnyddio. Tydi hyn dda i ddim felly bydd rhaid ffendio ffordd arall o'u tyfu flwyddyn nesa.

Dwi wedi plannu'r french beans yn y gwely gwag yn y twnel bellach gan obeithio cael digon o safon uchel i arddangos yn y sioe yn Llangollen ond braidd yn uchelgeisiol ydi hyn gan gofio mai hon yw'r flwyddyn gyntaf imi eu tyfu.


Braidd yn fach ydi dail y blodfresych hyd yma felly ros i ddos o fwyd 20-20-20 NPK iddynt neithiwr gan obeithio y gwnan dal i dyfu am ryw bythefnos arall cyn dechrau dod a blodyn. Mae'r blodfresych yn un o'r llysiau anoddaf i'w cael yn berffaith ar gyfer diwrnod y sioe.

Erbyn hyn mae'r moron byr wedi bod yn tyfu am bron i ugain wythnos felly dwi'n gobeithio fod y 'stump end' y dechrau ffurfio syddyn angenrheidiol ar gyfer arddangos, felly pan sylwais ar un wedi hollti wrth eu dyfrio neithiwr mi godais i o i gael gweld sut oeddynt yn dod yn eu blaenau.

Mae maint y moryn yn aruthrol ac mae'r stump end yn sicr yn ffurfio. Jest gobeithio fod gweddill y moron yn rhydd o unrhyw dyllau pry a holltau fel hwn.

I orffen dwi wedi sylwi fy mod wedi cyraedd ffigyrau dwbwl o ran dilynwyr erbyn hyn felly os oes gan unrhyw un gwestiwn i'w ofyn am unrhyw beth peidiwch a bod yn shei! Mi dria i ateb unrhyw beth o fewn rheswm, tydw i ddim yn cadw unrhyw gyfrinachau ar sut dwi'n tyfu fy nghynyrch.

Monday 1 August 2011

PRYD I GODI?

Bellach mae yna 13 wythnos wedi pasio ers imi blannu'r tatws felly noson o'r blaen mi godais fag o NVS Amour, bag o Kestrel a bag o Cassablanca i weld os oedd hi'n amser eu codi.
Y Kestrel yw'r rhain ac maent yn ymddangos ynrhydd o unrhyw farc neu afiechyd a dau neu dri yn dangos potensial o fod ddigon da i arddangos. Ychydig yn fach o ran maint ydynt ar hyn o bryd gyda'r gorau yn pwyso jest dros 6oz, y pwysau delfrydol ydi 7oz. Roedd canlyniadau y bag Amour tua'r un fath ond roedd y Cassablanca i gyd yn fach iawn.
Dwi wedi penderfynnu eu gadael i dyfu am tua wythnos arall ond am adael i'r Cassablanca gael o leiaf pythefnos arall.

Mae pob dim arall i'w gweld yn dod reit dda, er imi orfod codi un moryn hir neithiwr ar ol sylwi ei fod wedi rhedeg i hadyn. Jest gobeithio fod y lleill ddim am wneud yr un peth.


Yr unig beth da am gael codi un ohonynt ydi'r ffaith nad ydio wedi fforchio o gwbl felly dwi'n gobeithio fod y gweddill sydd ar ol yn y gwely yr un fath.