Saturday 14 May 2011

YR HADYN PWYSICAF WEDI EGINO!

Ddoe es i a fy ngwraig i'r ysbyty i weld fod yr hadyn pwysicaf dwi wedi ei blanu eleni wedi egino yn llwyddianus. Roedd i'w weld yn hapus braf gan chwifio ei ddwylo a'i draed o gwmpas. Gobeithio fod hyn yn arwydd da am y tymor sydd i ddod.
Mae Lleucu yn edrych ymlaen i gael brawd neu chwaer fach i gael chware hefo a Maria yn edrych ymlaen ata i yn rhedeg o gwmpas yn tendio arni dros y 6 mis nesa!
Y dyddiad pwysig ydi 16 o Dachwedd.

3 comments:

  1. Llongyfarchiadau i chi Wmff. Pa gompost/fertilizer ddefnyddiest ti ir hadun yma?!!!

    ReplyDelete
  2. Llongyfarchiadau i'r ddau ohonoch! Yn ol y llun o'r sgan mae'n fwy na chdi'n barod Wmff!!!!!!

    ReplyDelete
  3. A mwy o wallt na chdi Llyr!!!

    ReplyDelete