Monday 25 April 2011

CEDRICO

Mi ges i gyfle neithiwr i blannu'r tomatos hyd un ochr i'r ty gwydyr. Dwi wedi penderfynnu eleni am roi'r Cedrico lawr un ochr a'r Meccano ochr arall gan arbrofi gyda ffordd gwahanol o'u tyfu. Mae'r Cedrico wedi profi i fod yn domato sydd yn ennill ar y lefel uchaf posib a hynny yn gyson ers rhai blynyddoedd felly mae rhain am gael yr un modd a phob blwyddyn flaenorol o'u tyfu.

Fel a welwch roedd hi'n hen bryd iddynt fynd i'w safle terfynnol gyda rhwydwaith dda o wreiddiau wedi datblygu yn y potiau 4". Er mwyn sicrhau fy mod yn cael planhigion o safon uchel mae hi'n holl bwysig plannu pob planhigyn mor ddyfn ac y gallwch, mae hyn yn galluogi i'r planhigyn gynnal coesyn cryf hyd nes bydd y planhigyn yn cyrraedd crib y ty gwydyr. Llynedd mi gefais ambell i blanhigyn gyda coesyn oedd yn mynd yn deneuach yr uchaf yr oedd yn mynd felly roedd y tomatos yn mynd yn llai o ran maint erbyn ichi gyrraedd y 6ed ar 7ed 'truss'.

Y gyfrinach ydi torri nifer o'r dail gwaelod i ffwrdd yn gyfan gwbl gan adael coesyn reit hir gan bod yn ofalus i beidio cyffwrdd yn y blew man sydd hyd y coesyn.
Wedyn plannu'r planhigyn mor ddyfn ac y gallwch hyd nes fod y dail cyntaf jest yn cyffwrdd top y gwely.
Dylai'r blew man oedd a'r hyd y coesyn ddatblygu yn wreiddiau newydd i'r planhigyn felly'n ei gryfahau yn ogystal. O ran y cymysgedd yn y gwely dwi wedi rhoi haen ta 6" o ddyfnder o dail ceffyl ar ei waelod yna 3 bag o Levington Growbag, 3 bag o Miracle Grow compost wedi eu cymysgu hefo 3 llond berfa o bridd o'r ardd. Ychwanegais 300g oPerlka a'r un faint o Nutrimate powder gan ei gymysgu yn drylwyr.
Dim ond 8 planhigyn dwi wedi ei roi yn y gwely eleni gan obeithio na gai botritis arnynt fel llynedd. Dylent gael fwy o awyr iach o'u hamgylch oherwydd mi blannais 12 o blanhigion yma llynedd.

Saturday 23 April 2011

RHYWBETH WEDI CODI EI BEN!

Ers dechrau'r flwyddyn dwi wedi sylwi fod yna dwmpathau o bridd yn codi yma ac acw hyd yr ardd. Does dim modd gwadu fod yna dwrch daear yn rhydd yn yr ardd. Mae'r diawl bach yn codi 'i ben ar draws y lle ac yn bygwth gwneud cythgam o lanast pan fydd pob dim wedi ei blannu yn y gwlau.


Ychydig wythnosau yn ol daeth fy nhad a rhywbeth imi oedd yn edrych yn hynnod o amheus a dweud y lleiaf! Roedd o'n dweud y buasai yn cael gwared o'r basdard bach oedd yn creu hafoc yn yr ardd. Does dim bwys gen i sut dwi'n cael ei wared ond pan weles i beth oedd fy nhad wedi ei brynnu imi roeddwn yn amau os oedd yn mynd i weithio o gwbl, roedd yn edrych yn depycach i beth fuasai rhywun yn ei ddarganfod mewn siop stryd gefn a hwnw hefo golau coch uwch ei ben!
Ond dwi wastad yn dweud mi dria i rhywbeth unwaith felly mi blannais hwn yn gannol yr ardd gan obeithio wnaff y 'sonic pulse' mae o'n ei daflu allan bob munud ddychryn yr hen gebust i ffwrdd. Amser a ddengys!


Thursday 21 April 2011

Y GWAITH YN DWYSAU!

Mae adeg yma o'r flwyddyn yn hynod o brysur enwedig os ydi'r tywydd yn braf. Mae'r holl lysiau sydd wedi eu cychwyn hyd yma wedi cael y cychwyn gorau posib eleni oherwydd y dau fis mwyn sydd wedi pasio, yr unig fai ydi fod pob dim angen eu plannu yn eu safleoedd olaf i gyd ar unwaith. Golygai hyn fod y gwaith dwi'n ei wynebu dros y pythefnos nesaf yn restr llawer mwy nac yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Cefais y cyfle penwythnos diwethaf i blannu'r shallots gan eu dyfrio reit drwm. Bydd rhaid teneuo rhain yn yr wythnosau nesaf lawr i 4 ym mhob clwstwr er mwyn gwneud yn siwr fy mod yn cael y siap gorau posib arnynt, er ni fydd rhaid teneuo nifer ohonynt oherwydd dim ond 3 neu 4 sydd wedi datblygu ar y mwyafrif.

Dwi'n gobeithio cael plannu'r tatws i gyd penwythnos yma gan fod genai ambell i ddiwrnod ffwrdd or gwaith. Y bwriad eleni ydi eu plannu mewn 'pollypots'. Bagiau plastig ydynt hefo nifer o dyllau ar y gwaelod ar gyfer draeniad. Yn anffodus tydw erioed wedi gallu tyfu tatws o ryw safon i ddweud y gwir ond dwi'n gobeithio fod y dull hwn o'u tyfu am newid hyn.

Mae pob pollypot yn dal oddeutu 17ltr o gompost yn ol y paced, ond ar ol dechrau eu llenwi mi ddaeth hi'n amlwg fod y potiau plastig yn dal llawer iawn mwy. Roeddwn wedi prynnu 20 o fagiau 75ltr gan Medwyn Williams oedd wedi ei wneud yn benodol ar gyfer tyfu tatws, felly dylai 20 o fagiau fod wedi llenwi 80 o pollypots. Yn anffodus roedd pob potyn yn cymeryd jest i 25ltr o gompost felly dim ond 60 o fagiau o ni'n mynd i allu ei llenwi. Penderfynais brynu 10 bag o Levington M3 ar gyfer y gweddill, yn ol Medwyn mae cynhwysion y ddau gompost yn reit debyg, mi gawn ni weld ar ddiwedd y tymor!

Yn ol pob tebyg mawn wedi ei falu'n fan iawn ydi mwyafrif y compost gyda Vitax Q4 a Calcified Seaweed a Nutrimate wedi ai adio ato. Dyma'r cynhwysion mae'r mwyafrif o'r goreuon yn ei ddefnyddio.


Mi blannais 12 o nionod vento yn y twnel noson or blaen hefyd. Maent reit agos at ei gilydd ond mae yna gryn dipyn o ddyfnder a digon o dail ceffyl wedi ei roi yn y pridd ar eu cyfer.
Cefais y cyfle hefyd i denauo'r moron byr lawr i un ym mhob twll gan fod y dail cyntaf yn dechrau ymddangos. Yn o gystal dwi wedi symud pob dim o'r ty gwydyr i'r twnel onibai am y tomatos. mae hi'n hen bryd iddynt gael eu plannu yn y gwely.
 Penderfynnais hefyd ddechrau coleru'r cenin gan ddechrau hefo coler 9" o uchder gan ddefnyddio 'pipe lagging' a 'bubble wrap' arian i gadw'r cenin rhag mynd rhy boeth.

Mae hi'n syfrdanol sut mae'r Pendle Improved wedi dod yn ei flaen gan fod yr un maint a'r Welsh erbyn hyn. Dwi'n gobeithio cael plannu'r Pendle yn y twnel wythnos nesa ma ond bydd rhaid aros tan ddechrau mis nesa cyn plannu'r Welsh yn y gwely tu allan.



Tuesday 12 April 2011

MAE PETHAU'N SAETHU FYNU!

Mae'r tywydd wedi bod yn hynod ffafriol dros yr wythnosau diwethaf gyda mwyafrif o'r planhigon yn saethu i fynnu. Yn sicr mae'r cyfnod mwyn wedi galluogi i'r hadau moron egino reit rhwydd yn y twnel gyda 47 allan o 48 twll wedi dod allan i'r wyneb.
Mae hi'n hen bryd i'r shallots fynd allan i'r gwely terfynnol gyda nifer o'r Hative de Niort wedi dechrau hollti.

Mae'r dail i gyd yn edrych yn iach ac mae'r gwreiddiau wedi dechrau dod allan o'r tyllau yn waelod y polypots. Dwi wedi palu'r gwely tu allan yn barod, i gyd dwi angen ei wneud ydi adio'r gwrtaith sef Fish, Blood and Bone a Calcified Seaweed i'r pridd. Dyle hyn fod yn ddigon i'r planhigon dyfu i'w llawn potensial erbyn gannol mis Mehefin gyda lwc.

Mae'r ty gwydyr jest a byrstio oherwydd yr holl dyfiant sydd wedi bod. Dwi wedi gorfod ail botio pob dim yn y pythefnos diwethaf ac hynny yn ei dro wedi rhoi hwb arall iddynt dyfu ymlaen. Roedd yna dipyn o waith ail botio'r nionod 250g y Vento oherwydd roedd yna 100 ohonynt angen symud i botiau 4" mewn cymysgedd o Levington M3 gyda top soil, vermiculite a Nutrimate powder.

Mi ddefnyddiais yr un cymysgedd ar gyfer y nionod mawr. Mae'r rhain mewn potiau 6" erbyn hyn ac iw gweld yn tyfu ymlaen yn gryf, felly mi bendefynnais symud rhain i'r twnel iddynt gael dod i arfer i awyrgylch eu safle terfynnol. Bydd rhaid plannu rhain yn eu gwely terfynnol yn yr wythnosau nesaf.

Gall y ty gwydyr adeg yma o'r flwyddyn fynd yn eithriadol o boeth ac mae hi'n hynod o anodd rheoli'r tymheredd ynddo. Oherwydd hyn dwi am drio symud y mwyafrif o'r planhigion i'r twnel ble mae hi'n haws cadw'r tymheredd i lawr oherwydd fod yr ochrau'n rolio i fynnu gan adael yr awyr iach i mewn. Ond mae'r gwres yn y ty gwydyr wedi galluogi i'r tomatos ddod yn eu blaenau ar gryn gyfymder ers eu hail botio mewn Levington M3.
Bydd rhaid meddwl am ddechrau paratoi ar gyfer eu plannu yn y pridd lawr bob ochr i'r ty gwydyr.

Os oes yna un gystadleuaeth dwi eisiau gadael fy marc arni yn Llangollen dosbarth y cennin ydi hwnnw. Mae safon y cennin  hyd yma yn addawol iawn gyda'r Welsh Seedling dipyn mwy nac yr oedd adeg yma llynedd. Ond mae lliw y Pendle Improved yn ymddangos dipyn gwell na'r Welsh er ei fod yn llai o ran maint hyd yma.
Oherwydd hyn mi benderfynnais ail botio'r Welsh mwen i botiau 8" a'r Pendle mewn potiau 7" gan roi dos o SB Plant Invigorator iddynt. Mi ges i cryn lwyddiant yn defnyddio hwn llynedd gan dyfu cennin oedd yn rhydd o unrhyw afiechyd a marciau o phlau ar y dail. Byddaf yn trio chwistrellu hwn arnynt oddeuetu pob pythefnos o hyn o mlaen. Dwi'n hefyd am ddechrau eu coleru wythnos yma ar ol eu symud i'r twnel. Mwy am hynny tro nesa.

Fel y gwelwch o'r lluniau uchod mae hi'n amlwg pa un yw prun o liw y dail.

Un dasg arall wnes i gyflawni wythnos yma oedd gosod y peipiau yma i fynnu ar gyfer y beetroot hir. Dwi ddim yn hollol siwr pa gymysgedd dwi am ddefnyddio and bydd rhaid meddwl am blannu'r hadau cyn ddiwedd y mis.

Saturday 2 April 2011

MORON HIR A PARSNIPS

Mae hadau y moron hir wedi eu hau erbyn hyn ac dwi'n gobeithio gai well lwc eleni. Llynedd cefais uffen o helynt cael yr hadau i egino, oherwydd fod Cerrig rhy oer dwi'n meddwl! Rhaid i'r moron gael beth bynnag 20 wythnos o hau i amser eu codi o'r ddaear felly rhaid iddynt gael eu plannu oddeutu diwedd Mawrth i gael digon o amser i fod yn barod ar gyfer sioeau mis Awst.

Roeddwn yn defnyddio yr un dechneg ar gyfer creu y 'bore hole' a ddefnyddiais ar gyfer y moron byr ond fod y twll beth bynnag 5 troedfedd o ddyfnder. Y gwahanieth mwyaf rhwng y gwreiddiau hir ydi'r cymysgedd dwi'n ei ddefnyddio.

Dyma cynhwysion y moron hir:

75ltr o Levington F2+S (wedi cael ei basio trwy ridyll 1/4 modfedd)
12oz o Seaweed Meal
12oz o Kev 4
40ml o Nutrimate Powder
10ltr o ddwr yn cynnwys Nutrimate Liquid

Mae yna 32 o foron hir ac 16 o parsnips yn mynd i'r gwely hwn. Oherwydd y trafferth ges i llynedd o egino hadau'r moron hir mi bendarfynnais drio techneg gwahanol o egino, rhywbeth ma nhw'n ei alw'n 'chitio' sy'n golygu yr un peth a chitio tatws i raddau.

I gyd sydd angen ei wneud ydi gwlychu darn o 'kitchen towel' yna gwasgaru'r hadau hyd y papur yna rhoi darn arall o 'kitchen towel' drosto gan wlychu'r darn hwnnw hefyd. Yna ei roi mewn lle tywyll gan ei arsylwi bob dydd tan welch y 'radicle' neu'r gwreiddyn yn dechrau dod allan. Yn ddelfrydol dylai hyd y gwreiddyn fod tua 1mm i 2mm pan rydych yn ei drosglwyddo i'r compost yn y gwely.
Roedd yr hadau wedi ffurfio 'radicle' mewn cwta 5 diwrnod felly byddant yn fwy tebygol o egino yn y compost eleni dwi'n obeithio. Roeddwn wedi bwriadu gwnud yr un peth hefo hadau'r parsnips nad mi sychodd y kitchen towel genai heb imi ddallt felly dyna ddiwedd ar yr hadau hynny! Plannu hadau yn syth yn y compost wnes i yn hytrach.

Cryn dipyn yn wahanol yw cymysgedd y parsnips. Maent angen dipyn mwy o fwyd arnynt ac mae'r tyllau dwi wedi ei wneud iddynt ychydig yn fwy hefyd. 3" yw lled tyllau y moron hir ond mae tyllau'r parsnips yn cael eu lledu gyda trosol i fod oddeutu 4".

Dyma gynhwysion cymysgedd y parsnips:

75ltr o Levington F2+S wedi ei basio trwy ridyll 1/4 modfedd
40ltr o Top Soil wedi ei basio trwy ridyll 1/4 modfedd
20ltr o Silver Sand
20ltr o Vermiculite gradd canolig
680g o Seaweed Meal
100ml o Nutrimate Powder
7oz o Superphosphate
6oz o Potash
6oz o Galch

Ar ol hau yr holl hadau mi orchuddiais y gwely hefo plastig clir ermwyn cadw'r tymheredd reit gyson ac eu hamddiffyn rhag oerfel a gwynt. Dylai'r hadu egino rhwng 14 i 21 diwrnod gyda lwc.