Tuesday 1 May 2012

MAI RHY BLYDI OER!

Dwi di bod yn poeni dros yr wythnosau diwethaf fod y moron hir ar moron byr ddim am egino oherwydd y tywydd oer rydym wedi ei gael dros y mis diwethaf ond ar ol 17 diwrnod maent wedi penderfynnu dod i'r wyneb. Adeg yma llynedd roeddwn wedi gorffen plannu fy nhatws ac yn paratoi y ty gwydyr yn barod i blannu'r tomatos yn y borderi ond eleni mae'r tywydd shit 'ma rydym yn ei gael yn gohirio pob cyfle o ddal i fynnu!

Er gwaethaf hyn mae yna lot wedi digwydd ers y tro diwethaf imi 'sgwennu 'ma.

Mae'r ffaith fod gan y ty gwydyr wres yn fantais mawr felly digon hawdd oedd cael y tomatos i egino. Eleni mae gen i ddau deip, Goldstar a Zenith ac yn ol bob son mae'r ail un 'ma yn berig o drechu Cedrico sy'n ennill ym mhob man ar hyn o bryd. Erbyn hyn mewn cwta mis ers egino maent wedi eu potio mewn potiau 4" ac yn sefyll o ddeutu troedfedd ac y trws cyntaf yn dechrau ffurfio!
Un dasg dwi wedi cael amser i'w orffen ydi plannu'r moron byr yn y gwely newydd. Mae'r moron yn yr hen wely wedi egino ac dyle rhain wneud imi i'r sioeau lleol.
Ond dwi wedi dal y gwely newydd yn ol ar gyfer y 'National' yn Malvern diwedd mis Medi. Yr un cymysgedd a llynedd dwi wedi ei ddefnyddio sef:

1 bag o Levington F2S wedi ei roi drwy ridyll
12oz o Calcified Seaweed Powder
12oz o gwrtaith Tev4
4 1/2oz o Nutrimate Powder
25ltr o Vermiculite (medium grade)
Dwr yn cynnwys Nutrimate Liquid

Sweet Candle ydi'r hadau dwi wedi ei ddefnyddio eto eleni ond dwi wedi llwyddo i gael hadau reit gyffrous i'r moron hir gan neb llai na Graeme Watson sydd wedi ennill y 'National' nifer o weithau. Mae gen i obeithion uchel hefo rhain oherwydd maent wedi egino erbyn hyn sy'n golygu fod ganddynt llawer mwy o amser i gyrraedd eu llawn potensial gan fod y 'National' mis yn hwyrach eleni.
Yr un cymysgedd ar moron byr dwi wedi ei ddefnyddio gawn ni weld os ydi hyn yn ddewis doeth.
 
Daw amser teneuo'r holl foron wythnos nesa 'ma ond mae hi'n hen bryd imi deneuo'r parsnips lawr i'r un cryfa.
Braidd yn araf ydi datblygiad y cenin dwi'n teimlo eleni. Er imi eu coleru yn gynt er mwyn eu tynnu ar i fynnu, siomedig ydw i ddweud y gwir oherwydd maent yn parhau i fod yn weddol fach hyd yma ac yn tyfu yn araf deg.

Mae hi'n hen bryd eu potio ymlaen oherwydd mae'r gwreiddiau wedi cychwyn dod allan o waelod y potiau 5".

Y pryder mwyaf sydd gen i ar hyn o bryd ydi trio cael amser i blannu'r tatws. erbyn hyn mae yna 108 o fagiau wedi cael eu llenwi ond mae'r tywydd yn fy atal rhag paratoi'r rhesi. Mae'r gwely yn hynnod o wlyb ar hyn o bryd ac mae'r bagiau o dan orchudd ar hyn o bryd.

Dwi'n gobeithio cael llenwi 150 o fagiau i gyd a'r bwriad ydi eu plannu i gyd erbyn y penwythnos nesa 'ma.

Y nionod 250g sydd edrych orau hyd yma. Mae gen i 40 wedi eu potio mewn potiau 10ltr a'r gobaith ydi eu cynaeafu cychwyn Gorffennaf.