Monday 16 May 2011

PROBLEMAU

Er gwaethaf fy holl ymdrechion i newid y ffordd dwi'n tyfu'r tomatos oherwydd yr holl afiechydon dwi wedi ei gael dros y tymhorau blaenorol, tydi'r tymor hwn ddim i'w weld yn mynd dim gwell.
I gychwyn cafodd y tomatos Meccano oedd un ochr i'r ty gwydyr rhyw fath o afiechyd ffwng ar rhai o'r dail gwaelod.

Yn rhyfedd dim ond rhai o'r planhigion oedd yn dioddef ohono. Rhaid imi gyfaddef nad oedd gen i unrhyw syniad beth oedd yr afiechyd ac yn sicr doeddwn ddim yn gwybod beth oedd wedi ei achosi, felly mi roddais y lluniau ar fforwm yr NVS gan obeithio buasai rhywyn yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar y mater. Mae cael defnydd o'r fforwm hwn ar wefan y gymdeithas yn ufflon o handi i gael gwybodaeth a chyngor gan arddwyr profiadol o bob cwr o'r wlad.
Daeth dau ohonynt i'r casgliad mai'r dwr oeddwn yn ei ddefnyddio oedd achos y clefyd, ac roeddynt yn argymell imi dorri'r dail heintus i ffwrdd a sterileiddio'r dwr yn y 'water butts' hefo 'Permanganate of Potash'.
Ar ol dilyn yr argymhellion mae'r planhigion wedi dod yn eu blaenau yn eithriadol o dda ac yn sefyll dros dwy drodfedd a'r tomatos cyntaf yn dechrau ffurfio.

Tua wythnos ar ol yr helynt hefo'r Meccano cafodd y tomatos ochr arall i'r ty gwydyr rhyw fath o haint. Roedd y dail uchaf i gyd i'w gweld yn crebachu am ryw reswm ac doedd neb ar fforwm yr NVS yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddynt chwaith y tro hwn.
Yr unig beth dwi wedi ei wneud iddynt ydi dechrau rhoi bwyd yn y dwr gan fod y truss cyntaf o damatos wedi setio. Mae hyn yn golygu fod y blodau cyntaf i gyd wedi blodeuo'n llawn ac ar fin dechrau ffurfio ffrwyth, dyma'r adeg pan mae'n rhaid dechrau rhoi bwyd a gwahanol fwynion i'r planhigion. Gobeithio gnaiff hyn eu haltro a rhoi hwb iddynt a chryfder i ddod dros yr anffawd hwn.

Gan fy mod wedi dechrau eu bwydo gyda 'Maxicrop Tomato Feed' bydd rhaid cario 'mlaen hefo hyn trwy gydol y tymor. Eleni dwi am rhoi gwahanol fathau o fwyd iddynt, un ar ol y llall yn eu tro.
Y cymysgedd cyntaf fydd y Maxicrop, yna 'Nettle Brew'! Yn syml dail danadl poethion wedi eu malu'n fan mewn bwced ac wedi mwydo mewn dwr am tua pythefnos ydi 'nettle brew'. Mae'r dwr wedyn yn cael ei hidlo mewn i boteli pop ac yn cael ei ychwanegu hefo'r dwr gan greu cymysgedd sy'n debyg i gwpan o de gwan. Mae'r cymysgedd hwn yn llawn o nitrogen felly'n rhoi bywd i'r dail.

Byddaf yn gwneud dau math arall o gymysgedd hefyd hefo cynhwysion tra wahanol, ond mwy am hynny nes ymlaen.

No comments:

Post a Comment