Roedd rhaid i'r tatws gael eu plannu erbyn diwedd mis Ebrill er mwyn imi gael eu codi erbyn diwedd Gorffennaf. Y rheswm dwi eisiau eu codi nhw mor gynnar ydi cael digon o amser cyn y sioeau imi eu sortio nhw allan ar gyfer pob dosbarth a sioe. Pan mae yna 80 o fagiau angen eu sortio tydi hi ddim yn rhywbeth allaf ei adael tan y noson cyn y sioe fel sy'n digwydd hefo mwyafrif y llysiau.
Dwi wedi plannu 4 math eleni, 20 bag o bob un gan obeithio bydd hyn yn ddigon i allu llwyfanu safon reit uchel.
Mae'r 60 bag cyntaf yn cynnwys cymysgedd Medwyn Williams sydd wedi ei wneud yn arbenig ar gyfer tatws, felly aeth y Kestrel, NVS Sherine a'r NVS Amour mewn i'r rhain, ond yn yr 20 bag olaf Levington M3 ydi'r cymysgedd felly aeth y Cassablanca mewn i rhain.
Y gyfrinach hefo cael tatws o safon ar gyfer y sioeau arddangos ydi cwtogi nifer y 'shoots' sydd ar bob hadyn i 2 neu 3 gan dorri y rhai gwanaf i ffwrdd y gyfan gwbl gan adael y rhai cryfa i dyfu. Wrth wneud hyn rydym yn fwy tebygol o gael tatws mwy yn hytrach na nifer mawr o rai bychain. Tatws oddeutu 7oz ydi'r maint delfrydol ar gyfer arddangos ac wrth ddefnyddio'r techneg hwn dwi'n gobeithio gwella y safon dwi wedi arfer ei gael.
Dyma'r holl fagiau wedi eu gosod allan. Dylai'r dail cyntaf ymddangos yn y diwrnodau nesaf gobeithio.
Mae'r cenin wedi dod yn eu blaenau yn hynod o dda ers iddynt gael eu symud i'r twnel, enwedig y Pendle Improved. Erbyn hyn maen't wedi dal y Welsh Seedling i fynu felly mi benderfynnais eu plannu yn y gwely dwi wedi ei baratoi lawr cannol y twnel.
Byddaf yn newid y coleri wythnos nesa o rhai 9" i 12" oerwydd eu bod yn ymestyn ar i fynu yn dda iawn ar hyn o bryd.
Pipe lagging dwi'n ei ddefnyddio i'w blancho, gan gychwyn hefo 1" bore.
O amgylch y pipe lagging dwi'n rhoi bubble wrap sydd gyda haen o foil arno er mwyn cadw'r barel yn oerach na'r tymheredd uchel yn y twnel.
Mae yna 10 yn mynd i'r gwely, gobeithio gai amser wythnos yma i wneud rhywbeth i roi cymorth i'r dail. Ar ochr chwith y twnel mae'r nionod mawr i gyd wedi cael eu planu yn ogystal a 12 o nionod 250g sef y Vento. Mae hyn yn golygu fod yna 24 o nionod 250g yn y twnel ond dwi wedi planu 50 yn y gwely tu allan.
Tan tro nesa...
No comments:
Post a Comment