Thursday 20 January 2011

NIONOD DODWY

Es ati heddiw i blannu'r nionod dodwy neu shallots yn saesneg. Braidd yn fach ydynt i ddweud y gwir oherwydd i'r dosbarth y shallots mawr oeddwn yn bwriadu eu tyfu.
Hative de Niort ydi'r enw ar y math dwi am dyfu eleni, rhain yn ol bob son ydi'r gorau ar gyfer y bwrdd arddangos ac sydd yn ennill y ticedi coch ar y lefel uchaf.
Fel y gwelwch maent yn amrywio o ran maint, wrach buasai yn well eu tyfu ar gyfer dosbarth y shallots bach (dim mwy na 30mm). Dwi wedi eu plannu heddiw beth bynnag yn y modd roeddwn yn bwriadu tyfu y rhai mawr felly gawn ni weld sut eith hi dros y flwyddyn.
Y compost dwi'n ei ddefnyddio hefo'r shallots mawr ydi Levington M3, sydd yn golygu ei fod yn gompost gradd canolig o ran gwead ac yn uchel mewn mwynau.
Dwi'n ei gymusgu yn drylwyr er mwyn cael gwared o unrhyw lympiau ac gwneud yn siwr fod yna ddigon o ocsigen ynddo i'r gwreiddiau gael ffynnu.






Yr unig wrtaith dwi'n ei adio iddo ydi calcified seaweed wedi dorri lawr yn llwch. Dwi'n adio 12oz i bob bag 75ltr o gompost ac yn ei gymysgu yn drylwyr hefo rhaw nol a mlaen.
Mi allwch ddefnyddio concrete mixer os ydych eisiau lot o gymysgedd ond dwi'n dueddol o ddefnyddio bon braich!






Polypot 6" dwi'n ei ddefnyddio i gychwyn y shallots.
Bagiau plastig hefo tyllau yn y gwaelod ydynt, yr un fath a'r bagiau fyddai'n ddefnyddio i blannu tatws nes ymlaen yn y tymor.









Ar ol llenwi'r bagiau hefo'r cymysgedd byddaf yn gwthio'r shallot tua hanner ffordd mewn i'r compost yna gadael iddo tan i'r tyfiant newydd gychwyn.










Dyma'r holl Hative de Niort wedi eu plannu, 30 i gyd.
Byddant yn aros yn y ty gwydyr oer am tua 12 wythnos cyn cael eu plannu allan yn yr ardd tua diwedd Ebrill dechrau Mai.

Monday 17 January 2011

VENTO AMDANI

Dydd Sul mi gefais gyfle i blannu hadau nionod 250g. Vento ydi'r math dwi am fentro hefo eleni, yn ol y son maent yn ennill ar y lefel uchaf yn gyson.  

 Mae'r hadau wedi dod gan Medwyn Williams, felly maent o'r ansawdd gorau posib.
 Y compost dwin ei ddefnyddio i'w cychwyn ydi Levington F1 sydd wedi ei gymysgu yn arbennig ar gyfer cychwyn hadau. Ni fydd y planhigion yn y compost hwn yn hir ar ol iddynt egino felly mae lefel y bwyd yn y compost yn isel.
Mantais y compost hwn ydi fod y planhigion yn chael hi'n hawdd magu gwreiddyn cryf yn sydyn, oherwydd natur ysgafn a rhydd y compost.
 Mae'r hadau wedi cael eu gorchuddio gan haen gwyrdd golau. Dwn im beth ydio ond mae o i fod i helpu yn y broses o egino.
 Dwi'n gwasgaru'r hadau reit fras ar ben y compost sydd wedi cael ei ddyfrio yn barod.
 Yna ei orchuddio gyda haen ysgafn o 'vermiculite' gan gofio gwlychu'r haen hwn gyda chwistrellydd man na wnaiff amharu ar yr hadau o gwbl.
Yn olaf eu gorchuddio gyda plastig clir er mwyn cadw y tymheredd yn gyson. Erbyn hyn mae'r gwres yn y ty gwydyr yn cael ei gadw od ucha 10C/50F gan y gwresogydd trydan.
Yr unig beth alla i wneud rwan ydi croesi bysedd a gobeithio daw yna rai o'r 150 hadau i'r wyneb.

Y CYFFRO YN CYCHWYN

Wel! Lle dwi'n cychwyn?
A dweud y gwir mae cyflwr yr ardd a lle dwi arni i'w gymharu a llynedd dipyn gwell eleni, hyd yma beth bynnag. Er mai cychwyn y flwyddyn ydi hi, mae'r mwyafrif o'r ardd wedi cael ei balu ac y ty gwydyr wedi cael ei olchi  hefo Armillatox sy'n lladd unrhyw afiechydon a phlau sy'n llechu yno. Mae pob twll a chornel wedi cael ei sterileiddio yn barod ar gyfer y tymor newydd.













Mae hin anodd credu cwta pythefnos yn ol roedd yr ardd o golwg dan flanced o eira ac wedi bod felly ers tua pedair wythnos. Er gwathaf hyn mi gefais gyfle i sortio'r ty gwydyr yn barod ar gyfer plannu hadau.

Wythnos diwethaf derbynniais fy archeb gan 'JBA Seed Potatoes' ac es ati y noson honno i'w sortio ac eu glanhau. Does dim rhaid eu glanhau, ond dwi'n hoff o wneud er mwyn cael gweld os oes yna rai sydd ag afiechyd yn bresennol neu os oes yna unrhyw fath o nam arnynt.

Ar y cyfan roeddwn yn hynod o hapus hefo safon yr hadau, enwedig yr 'NVS Amour'.

Kestrel
NVS Sherine

NVS Amour

                                                                          Fel y gwelwch dwi wedi eu gosod allan ar hen focsys dal wyau hefo'r 'rose end' yn gwynebu i fynnu. Pwrpas hyn ydi eu 'chitio'. Beth mae hyn yn ei olygu ydi fod pen y daten sydd gyda'r llygaid yn datblygu 'shoot' byr fydd yn galluogi i'r daten ddatblygu yn sydyn unwaith mae hi'n cael ei phlannu yn y tir. Yn anffodus roedd yna dipyn o'r Kestrel scab arnynt, rhai ohonynt reit ddrwg. Ond mae yna ddigon o safon uchel fel mi allai anwybyddu rheini ac eu rhoi i fy Nhad i blannu!

Sunday 2 January 2011

2011

Ar ddechrau blwyddyn mae rhywun yn edrych ymlaen i gael cychwyn o ddifri ar y gwaith ar tyfu.
Dwi wedi prunu y mwyafrif or hadau erbyn hyn ac wedi archebu'r cenin ar nionod. Y bwriad ydi canolbwyntio ar y cenin, y nionod, y tomatos, y moron byr a'r tatws ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen, ond byddaf yn tyfu nifer mwy o bethau ar gyfer y sioeau lleol.

Y sioe fawr yn Llangollen ydi pinacl y sioeau llysiau sef sioe y 'National Vegetable Society' sy'n symud o le i le pob blwyddyn. I unrhyw un sydd a diddordeb mewn tyfu llysiau mae ymuno ar gymdeithas hwn yn hanfodol oherwydd y cyngor arbennig mae rhywun yn ei dderbyn, yn ogystal a chylchgrawn tymhorol sydd yn llawn o syniadau a adroddiadau diddorol. Mae cael golwg ar eu gwefan www.nvsuk.org.uk  yn esbonio pob dim mae'r gymdeithas yn ei wneud.

Mae'r llysiau sy'n cael ei arddangos yn y sioe hwn o'r safon uchaf posib felly bydd rhaid imi wella ar y cynnyrch wnes i dyfu llynedd, er imi gael fy mlwyddyn mwyaf llwyddianus eto.







Dyma rhai o'r cynnyrch fues i yn llwyddiannus hefo yn sioe sir Feirionnydd a sioe Cerrig.
 
Dyma restr o'r llysiau a'r cyltifar dwi'n bwriadu tyfu eleni:
  1. Cenin - Welsh Seedling a Pendle Improved
  2. Nionod Mawr - Kelsae Exhibition [straen Medwyn Williams]
  3. Nionod dan 250g - Vento
  4. Moron Hir - New Red Intermediate [straen Medwyn Williams]
  5. Moron Byr - Sweet Candle
  6. Parsnip - Duchess F1
  7. Tomato - Cedrico a Meccano
  8. Cauliflower - Cornell a Beauty
  9. Cabbage - Brigadier
  10. Beetroot Hir - Long Black Beet [straen Medwyn Williams]
  11. Beetroot Crwn - Pablo
  12. Shallots - Hative de Niort a Jermore
Wrth edrych ar y rhestr faith uchod mae hi'n ymddangos fod gen i lot o waith o mlaen!