Wednesday 12 October 2011

PARATOI'R TWNEL

Ar ol blwyddyn go lewyrchus mae paratoadau tuag at tymor 2012 yn cychwyn rwan! Dwi'n hoff o glirio'r ardd yn gyfan gwbl er mwyn cael cychwyn hefo darn o dir sydd yn rhydd o unrhyw chwyn a llanast sydd yn tyfu yn raddol dros y flwyddyn. Mae cael canfas newydd i weithio hefo pob amser yn gwneud hi'n haws cychwyn ar y gwaith.

Dwi wedi penderfynnu canolbwyntio ar 5 neu 6 o wahanol lysiau flwyddyn nesa yn hytrach na trio tyfu pob dim. Pwrpas hyn ydi trio meistroli rhai llysiau er mwyn cael safon uchel yn hytrach na nifer fawr o lysiau sydd o safon gweddol.

Bydd tatws yn cymeryd rhan fawr o'r ardd oherwydd dwi'n bwriadu plannu oddeutu 120 o polypots flwyddyn nesa er mwyn tyfu mwy o amrywiaeth yn o gystal a chael mwy o datws i ddewis ohonynt ar gyfer y sioeau. Un mantais arall am dyfu tatws ydi'r ffaith fod yna llai o waith edrych ar eu holau i'w gymharu a nionod mawr a chenin er enghraifft felly yn gadael mwy o amser imi ganolbwyntio ar dyfu tomatos. Dros y blynyddoedd diwethaf tydw i heb allu meistroli rhain am ryw reswm, yn anffodus maent wedi dioddef o botritis pob tymor hyd yma er gwaethaf fy ymdrechion i'w atal.

Dwi am barhau i dyfu moron hir a byr ar ol cael cryn lwyddiant yn lleol eleni ac wedi dechrau paratoi y gwely yn y twnel yn barod gan dynnu'r mix compost o'r tywod yn defnyddio'r beipen ddraenio wnes i ddefnyddio i wneud y 'bore holes'.
Wrth wneud hyn mae hi'n golygu byddaf yn gallu ail ddefnyddio'r tywod am rai blynyddoedd cyn ei newid am dywod newydd. Byddaf yn sterileiddio'r tywod hefyd cyn plannu eto flwyddyn nesa.
Dwi wedi bod mewn penbleth i ddweud y gwir ynglyn a tyfu nionod mawr flwyddyn nesa oherwydd dwi methu'n lan a chael hwyl arni. Felly pan ges i alwad ffon noson o'r blaen gan Graeme Watson , arbenigwr mewn tyfu moron sydd wedi ennill yn gyson ar y lefel uchaf, dwi wedi penderfynnu gwneud gwely arall ar gyfer tyfu moron byr ar ochr ddeheuol y twnel . Mae hyn yn golygu peidio a thyfu nionod mawr ac sy'n galluogi imi gael mwy o ddewis adeg codi'r moron ar gyfer y sioeau.

Mi gefais sgwrs ddifyr iawn yn trafod dyfrio a gwahanol hadau, roeddwn wedi dotio ei fod mor barod i helpu a rhoi cyngor, rhywbeth sydd yn unigryw i umrhyw fath o gystadlu. Mae pawb yn barod i helpu o fewn y 'National Vegetable Society' sydd yn gwneud y gymdeithas yn arbenig ac angenrheidiol os ydych yn tyfu llysiau.
Felly flwyddyn nesa bydd yna wely arall o dywod yn rhedeg lawr y twnel ond bydd yna res o genin yn parhau i fod lawr y cannol. Y gobaith ydi fod y cenin yn mynd i fod mewn dipyn o gysgod tu ol i'r gwely moron newydd felly yn gwneud i'r cenin dynnu ar i fyny yn gynt.

Tuesday 20 September 2011

Y TYMOR YN DOD I BEN

Er fod y tymor arddangos wedi dod i ben erbyn hyn mae yna ddigon o bethau dwi angen wneud yn yr ardd er mwyn paratoi tuag at flwyddyn nesa. Y peth cyntaf wnes i wneud ar ol Sioe Cerrig oedd dechrau'r broses o gael 'gwair cenin' (leek grass). I gyd ydi hyn ydi ail blannu'r cenin ac ei dyfu ymlaen fel ei fod yn mynd i hadyn er mwyn cynhyrchu cenin fy hun.
Mae'r broses reit hawdd mewn theori, ond dwi'n benderfynnol o roi cynnig arni. Proses sy'n cael ei alw'n 'vegetative propogation', y mantais mwyaf ydi fod rhywun yn gallu cario'r un straen ymlaen felly yn cadw'r safon yn uchel.
Dyma'r broses o gychwyn ar y daith:

Yn gyntaf dwi'n dewis y cenin gorau ac yn torri oddeutu 6" o'r barel ac yn cwtogi'r gwreiddiau yn barod i'w ail blannu mewn potyn. Penderfynais ddefnyddio compost Levington M3, dwn im os ydi'r math o gompost yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ddweud y gwir. Gwneud y siwr fod gennych help i lenwi'r potyn!

Yna plannu'r ddau tua 2 i 3 modfedd i lawr yn y compost a gobeithio erbyn tua mis Hydref 2012 bydd genai flodyn yn llawn o wair cenin yn barod i'w potio.

Mae'r potyn wedi cael ei roi yn y twnel rwan tan y gwanwyn lle gaiff fynd allan bryd hynny. Ni fydd rhaid ei ddyfrio yn aml dim ond gwneud yn siwr eu bod yn tician drosodd dros y misoedd nesa.

Mae gweddill yr ardd yn erdych yn druenus o llwm ar hyn o bryd, dim ond y beetroot sydd ar ol bellach ac bydd rhain yn cael eu codi rwet fuan er mwyn eu piclo. Un peth dwi'n hynnod falch ohono ydi'r blodfresych 'graffiti' wnes i blannu reit hwyr yn y dydd. Maent i gyd wedi eu codi bellach oherwydd roeddynt mor flasus, yn sicr byddaf yn plannu mwy o rhain flwyddyn nesa, roeddynt wedi gadael cryn argraff ar nifer o fobl gan  gynnwys plant yn meithrinfa 'Twt Lol'.

Monday 5 September 2011

SIOE CERRIG

Hon ydi'r sioe lleiaf o ran maint rydw i yn cystadlu ynddi ond gan mai hon ydi fy sioe lleol hon ydi'r pwysicaf hefyd. Heb y sioeau bach nid oes modd cynnal y sioeau mawr oherwydd yma ar y gwaelod mae rhywun yn dysgu ei grefft o arddangos ac sydd yn gam cyntaf tuag at arddangos ar y lefel uchaf.
Roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus er gwaethaf y tywydd. Enillais dair cwpan i gyd yn cynnwys yr 'Arddangosfa Gorau yn Adran y Llysiau', 'Arddangosfa Gorau yn Adran y Tatws' ac hefyd 'Mwyaf o Bwyntiau yn yr Adran Garddwriaeth'

Erbyn hyn doedd safon fy llysiau ddim mor uchel a'r sioeau cynharaf ond er gwaethaf hyn mi gefais 12 cynta i gyd. Dyma rhai o luniau o'r rhai buddigol:








Y casgliad yma o dri math o datws oedd yr arddangofa gorau yn adran y llysiau, ond roedd rhanfwyaf o fobl yn holi a son am y moron hir ar stump enfawr oeddwn yn arddangos. Mae rhywun yn cael gwell golwg ohono pan mae fy merch Lleucu yn gafael ynddo.


Wel dyne ni blwyddyn arall wedi dod i ben ac heb os nac oni bai y flwyddyn orau erioed. Dwi'n erdrych ymlaen yn barod i flwyddyn nesa ac wedi bod yn pendroni yn barod ar sut dwi'n mynd i wella rhai pethau dros y gaeaf yn barod i'r tymor newydd. Dyma lun o'r holl gwpanau dwi wedi eu hennill eleni, gobeithio caf ur un llwyddiant flwyddyn nesa.

Sunday 28 August 2011

PENCAMPWRIAETH YR NVS YN LLANGOLLEN 2011

Dwi ddim yn gwybod lle i gychwyn i ddweud y gwir oherwydd ddoe oedd y diwrnod gorau a mwyaf llwyddiannus imi ei gael hyd yma ers dechrau arddangos llysiau. Pan es i am Langollen bore ddoe am dri y bore, i fod yn onest roeddwn yn cachu yn fy nghlos ac yn cwestiynnu fy hun beth oedd ar fy mhen yn cystadlu mewn sioe mor fawr. Ond roedd hi rhy hwyr i droi yn ol!

Er imi roi moron byr a moron hir yn o gystal a blodfresych ar byrddau arddangos hefo'r pedwar dosbarth tatws wnes i wneud fy marc. Yn syfrdanol mi enillais dosbarth y tatws lliw hefo 5 Kestrel, cael ail yn dosbarth yr NVS Amour a dau drydydd hefo dosbarth y tatws gwyn hefo 5 Casablanca a dosbarth yr NVS Sherine.




Rhaid cyfaddef fy mod wedi bod yn hynod o lwcus eleni gan mai hwn ydi'r flwyddyn gyntaf imi ddefnyddio'r ffordd hyn o dyfu'r tatws. Hefyd roeddwn yn hynod ffodus o allu prynnu'r compost wedi ei gymysgu yn barod gan Medwyn Williams. Gall pawb wneud yr un fath felly does dim rhaid bod ofn trio ac yn enwedig nid oes rhaid poeni am anelu am y sioeau mwyaf yn y wlad. Os alla i ei wneud o gall unrhyw un.

Roedd pawb o'r arddangoswyr eraill i gyd yn hynod groesawgar ac yn barod i roi cyngor am unrhyw beth.

Gawn ni weld os mai 'one hit wonder' fyddai flwyddyn nesa!?

Yn olaf rhaid imi ddiolch i fy ngwraig Maria sydd wedi helpu'n fawr iawn i sortio'r holl datws ar gyfer pob sioe ac wedi bod yn gefn imi drwy gydol y flwyddyn.

Friday 26 August 2011

LLANGOLLEN

Wel dwi wedi llwytho'r van yn barod i gychwyn lawr i Langollen am dri y bore! Allan o 11 dosbarth oeddwn wedi bwriadu cystadlu dim on 7 dwi am wneud oherwydd safon gwael rhai o'r llysiau.
Dwi'n obeithiol am safon y moron byr, na fyddant yn edrych allan o le ymysg y mawrion fydd yn cystadlu. Felly ffwrdd a ni a gobeithio am y gorau.

Nai drio rhoi'r canlyniadau yma nos yfory.

Wednesday 24 August 2011

CANLYNIADAU SIOE SIR MEIRION 2011

Bu heddiw yn ddiwrnod go lewyrchus imi gan gael 7 cyntaf, 3 ail ac 1 trydydd. Roedd hi'n agos iawn yn nifer fawr o'r dosbarthiadau ond dwi'n hynod falch ar y cyfan sut yr aeth hi. Dyma luniau o'r holl ddosbartiadau llwyddiannus:









Roeddwn yn hynod o falch hefo safon fy nhatws yn enwedig. Roedd cyflwr y croen yn sefyll allan i ddweud y gwir ond mi gawn ni weld sut fydd y rhai dwi wedi gadw i Langollen yn sefyll i fynu yn erbyn y goreuon yn y wlad!? Yn anffodus tydi safon y cenin ddim wedi cyraedd y nod eleni a dim ond trydydd ges i hefo rhain.

Mae cyflwr y dail a'r barel cystal a rhai llynedd ond am ryw reswm nes i fethu a chael yr hyd angenrheidiol i gystadlu. Rhaid ar y pwynt hwn cyfaddef fod y cenin a enillodd ben a sgwyddau uwchben rhain felly pob clod i Gwyn Davies o Lansannan. (mi gai di flwyddyn nesa!) Dyma lun ohonynt i brofi fy mhwynt.


Llangollen ydi'r sioe nesa lle bydd rhaid cael perffeithrwydd i gystadlu am y cardiau. Amser a ddengys!

Sunday 21 August 2011

PARATOI'R TATWS

Bu heddiw yn uffen o ddiwrnod blinedig gan wagu a sortio'r bagiau tatws. 80 ohonynt i gyd ac roeddynt wedi bod dan do yn y sied ers pythefnos er mwyn iddynt sychu a rhoi cyfle i'r croen galedu a setio. Braidd yn siomedig oedd y Cassablanca o ran maint er fod yna ddigon o datws yn y bagiau doeddynt ddim yn agos i fod yn 7oz, gyda'r mwyafrif o gwmpas 5 i 6oz. Doeddwn ddim yn disgwyl cael gymaint o datws i ddweud y gwir, dyma lun o datws Kestrel ddaeth o jest un polypot!
Roedd yna lot o waith sortio'r holl datws mewn i setiau ar gyfer pob dosbarth a phob sioe. Y peth cyntaf oeddwn yn ei wneud oedd cadw'r rhai oedd ddim yn cyrraedd y safon priodol mewn i hessian bags ar gyfer unai eu gwerthu neu i fwyta dros y flwyddyn nesa.

7 oz oedd y pwysau oeddwn yn obeithio ei gael ond roedd hyn yn anoddach nac oeddwn yn ei ddigwyl gyda'r mwyafrif o gwmpas y 6oz.
Roedd hi'n cymeryd cryn amser i sortio'r holl datws priodol mewn i setiau.

Ar ol eu rhoi mewn i setiau mae hi'n holl bwysig eu storio mewn mawn sych a glan er mwyn eu cadw mewn tywyllwch hollol. Bydd rhain yn cael glanhau noson cyn y sioe. Mae'r holl datws yn cael eu storio fel hyn gan labelu phob bocs ar gyfer y sioeau priodol.



Dwi hefyd wedi cadw'r compost mewn bagiau tunnell yn barod i'e ddwfnyddio yng ngweddill yr ardd flwyddyn nesa.

Mae hi'n anodd credu fy mod wedi defnyddio dau dunnell a hanner o gompost, na i ddim dweud faint mae hyn wedi gostio imi!






Wednesday 17 August 2011

DIM TROI YN OL RWAN!

Wel mae'r ffurfleni cystadlu wedi cael eu postio heddiw, felly does yna ddim troi yn ol rwan! Mae'r adeg hwn cyn y sioeau yn amser reit nerfus ac llawn amheuon am safon fy nghynyrch. Dwi'n credu fy mod braidd yn uchelgeisiol yn cystadlu mewn cynifer ddosbarthiadau yn y 'National' yn Llangollen, ond mi fydd hi'n help at flwyddyn nesa i gael gweld lle dwi angen gwella. Mae hi'n holl bwysig anfon ffuflen gystadlu yn brydlon ond dwi wedi aros tan y munud ola i ddweud y gwir oherwydd roeddwn mewn penbleth pa ddosbarthiadau i gystadlu. Y cur pen mwyaf sy gen i ydi'r cenin, mae'r Pendle Improved sydd yn tyfu yn y twnel yn edrych yn addawol ond tydynt heb gyraedd 14" i'r button eto sydd yn angenrheidiol o dan reolau'r gystadleuaeth.

Sioe Sir Meirion ydi'r sioe gyntaf ar ddydd Mercher Awst 24ain ac dwi'n bwriadu cystadlu mewn 13 o ddosbarthiadau, ond tydw i ddim yn siwr os nai allu trio ym mhob un o'r dosbarthiadau hyn tan ddiwrnod codi'r holl lysiau. Dyna'r adeg pan mae rhywun yn cael gweld am y tro cyntaf os ydi'r moron hir neu'r moron byr am gyrraedd y safon dwi'n anelu ato.

Ar y dydd Sadwrn 27ed o Awst byddaf yn mentro lawr i'r sioe fwyaf y flwyddyn o ran llysiau sef y 'National Vegetable Society Championships' yn Llangollen. Dwi'n gobeithio cael llwyfanu hyd at 11 dosbarth yn y sioe hwn gan drio cadw'r llysiau gorau yn yr ardd i'r sioe yma, tasg anodd iawn hefo'r moron yn enwedig.

Dwi'n hynnod obeithiol fod gen i datws o safon reit uchel ac mae'r holl polypots wedi cael eu codi ac eu symud dan do i'r garej yn gannol yr holl deiars! Pwrpas hyn ydi rhoi amser i'r compost sychu yn gyfan gwbl cyn codi'r tatws o'r pridd. Mae hyn yn galluogi i groen y daten setio a chaledu rhywfaint felly yn gwneud hi'n anoddach eu marcio.
Mae'r gwlydd i gyd wedi cael eu torri ac wedi mynd i gael eu compostio oherwydd roeddynt yn rhydd o unrhyw afiechyd. Dydd Sul nesa 'ma byddaf yn gwagu'r holl fagiau ac yn sortio'r tatws i gyd mewn i rai sy'n dangos potensial ar gyfer y bwrdd arddangos ac bydd y gweddill yn mynd i fagiau hessian ar gyfer eu gwerthu yn Caffi Cerrig. Bydd y tatws sioe i gyd yn cael eu pwyso ac eu sortio i'r gwahanol ddosbarthiadu wedyn yn cael eu storio yn ol mewn mawn sych yn barod i'w golchi bore'r sioe.

Yng ngweddill yr ardd mae'r nionod bwyta i gyd wedi cael eu codi ac angen eu sychu er mwyn iddynt gadw drwy'r gaeaf. Tydi safon rhain ddim mor uchel a'r rhai wnes i dyfu yn y twnel ond dwi'n edrych ymlaen i'w defnyddio nhw yn y gegin. (be ddylwn i ddweud ydi dwin edrych ymlaen i weld Maria yn defnyddio nhw i wneud swper!)
Mae'r blodfresych wedi cychwyn blodeuo hefyd, braidd yn gynnar ar gyfer sioe sir i ddweud y gwir ond dylai'r gweddill wnes i blannu wythnos yn hwyrach fod yn berffaith ar gyfer Llangollen hei lwc. Y rhai sydd wedi dechrau dod a blodyn dwi wedi clymu'r dail at eu gilydd o amgylch y blodyn er mwyn atal unrhyw olau. Mae hyn yn cadw'r blodyn yn glaer wyn er gyfer arddangos.

Bydd rhaid rhoi mwy o amser i'r ardd dros y pythefnos nesa er mwyn gwneu yn siwr fod pob dim ar ei orau i'r sioeau.

Friday 5 August 2011

Y GYSTADLEUAETH GYNTAF WEDI EI HENNILL

Wel! Mae'r twrch daear wedi ei ddal o'r diwedd, mewn trap yng ngwely'r cenin. Beth sy'n syfrdannol ydi'r ffaith imi ddal dau arall y noson wedyn jest wrth gerdded drwy'r ardd a sylwi ar un wedi codi i'r wyneb wrth y blodfresych ac mi gododd yr ail yn sydyn ar ei ol! Mae'r tri yn hongian ar y ffens ar hyn o bryd ac roeddwn wedi bwriadu dangos llun ohonynt ond dwi di dewis peidio rhag ofn fod yna rai ohonoch yn credu'n gryf mewn 'animal rights'!(rhaid i rywun watcho be mae on ddeud ai ddangos ar y we ma).

Mae pethau yn edrych weddol dda ar hyn o bryd gyda nifer o bethau yn barod i'w codi neu tynnu fel y tomatos. Dwi'n lwcus fod gen i gaffi dros y ffordd sy'n cael y mwyafrif ohonynt ond mae'r blas sydd arnynt yn hollol wahanol i rhai siop felly heidiwch i'r caffi yn Cerrig i gael brechdan!

Mae'r nionod i gyd bellach wedi eu codi ac wedi cael eu storio yn y garej i gael aeddfedu. Does gen i ddim llun ohonynt ond nai drio rhoi un yma tro nesa. Yn anffodus braidd yn drychinebus oedd y nionod mawr eleni gyda'r mwyafrif yn cael 'botritis' felly yn ddiwerth ar gyfer sioe yn o gystal ar gyfer bwyta. Dwi wedi gallu cael 5 i faint go lew sef 16" o'i amgylch, tua 2" yn llai na llynedd ond dylent fod ddigon da i'r sioeau lleol.

Wnes i orfod taflu rhain i gyd i ffwrdd, felly allan o ugain o nionod dim ond pump dwi'n gallu defnyddio. Tydi hyn dda i ddim felly bydd rhaid ffendio ffordd arall o'u tyfu flwyddyn nesa.

Dwi wedi plannu'r french beans yn y gwely gwag yn y twnel bellach gan obeithio cael digon o safon uchel i arddangos yn y sioe yn Llangollen ond braidd yn uchelgeisiol ydi hyn gan gofio mai hon yw'r flwyddyn gyntaf imi eu tyfu.


Braidd yn fach ydi dail y blodfresych hyd yma felly ros i ddos o fwyd 20-20-20 NPK iddynt neithiwr gan obeithio y gwnan dal i dyfu am ryw bythefnos arall cyn dechrau dod a blodyn. Mae'r blodfresych yn un o'r llysiau anoddaf i'w cael yn berffaith ar gyfer diwrnod y sioe.

Erbyn hyn mae'r moron byr wedi bod yn tyfu am bron i ugain wythnos felly dwi'n gobeithio fod y 'stump end' y dechrau ffurfio syddyn angenrheidiol ar gyfer arddangos, felly pan sylwais ar un wedi hollti wrth eu dyfrio neithiwr mi godais i o i gael gweld sut oeddynt yn dod yn eu blaenau.

Mae maint y moryn yn aruthrol ac mae'r stump end yn sicr yn ffurfio. Jest gobeithio fod gweddill y moron yn rhydd o unrhyw dyllau pry a holltau fel hwn.

I orffen dwi wedi sylwi fy mod wedi cyraedd ffigyrau dwbwl o ran dilynwyr erbyn hyn felly os oes gan unrhyw un gwestiwn i'w ofyn am unrhyw beth peidiwch a bod yn shei! Mi dria i ateb unrhyw beth o fewn rheswm, tydw i ddim yn cadw unrhyw gyfrinachau ar sut dwi'n tyfu fy nghynyrch.