Saturday 21 May 2011

TYDI'R GARDDIO 'MA DDIM YN HAWDD!

Mae o'n ddiawl o beth rhyfedd fel mae un snag yn arwain i un arall. Yn gyntaf mae'r tomatos yn cael haint sy'n anhysbys i bawb heb unrhyw eglurhad am beth sydd wedi ei achosi, wedyn pan es ati i drawsblannu'r cenin y 'Welsh Seedling' i'r gwely tu allan mi ges i siom mawr gan ddarganfod fod un wedi dechrau pydru yn ei waelod wrth y gwreiddiau.
 Tydw i ddim yn hollol siwr pam fod hyn wedi digwydd ond mae o'n fy ngwneud i yn hynnod betrusgar fod y gweddill am ddilyn yr un cwrs. Does dim byd gwaeth na phlanu rhes o lysiau a chael gwagle yn ei ganol, lwcus tro yma mai'r cenin olaf yr oeddwn yn ei blanu oedd yr un drwg.

Yr unig beth dwi angen wneud i rhain ydi adeiladu ffram i'r dail gael gorwedd arni felly'n rhoi cymorth i'r cenin gael ymestyn ar i fynu. Mae'r ffram wedi ei godi eisioes i'r cenin yn y twnel.
Fel mae'r wythnos diwethaf wedi bod yn mynd yn ei flaen gwaethygu mae fy mhroblemau. Y trydydd peth i ddigwydd oedd colli un o'r nionod mawr, am ryw reswm roedd y diawl wedi penderfynu 'boltio'. Term sy'n golygu fod y planhigyn wedi penderfynu taflu hadyn allan ('gone to seed' fel fuasai'r sais yn ei ddweud), felly bu'n rhaid ei godi o'r gwely rhag ofn i'r gweddill ei ddilyn.
Erbyn hyn roeddwn yn teimlo reit siomedig ond yn gobeithio fy mod dros y gwaethaf oherwydd roedd yna dri anffawd wedi disgyn ar yr ardd ar ol eu gilydd!
Ond na, i wneud pethau'n waeth pan es lawr i'r ardd bore dydd Iau cefais y siom fwyaf o'r wythnos i gyd. Roedd y tyllwr bychan blewog dall yn ei ol! Mi drodd y siom yn reit sur a dweud y gwir ac yna yn wylltineb pur. O am gael garddio yn yr Iwerddon, gwlad di-dwrch daear yn ol y son. I ychwanegu halen ar y briw roedd y twat wedi codi o fewn troedfedd i'r 'crynwr daear'.
 Mai'n amlwg fod hwn yn declyn sy'n wastraff arian a dweud y lleiaf.
Yn ffodus dwi'n 'nabod daliwr proffesiynol ac mae o wedi bod yma heddiw yn gosod trapiau felly gyda lwc bydd y basdad bach yn hongian ar y ffens erbyn diwedd wythnos nesa.

Monday 16 May 2011

PROBLEMAU

Er gwaethaf fy holl ymdrechion i newid y ffordd dwi'n tyfu'r tomatos oherwydd yr holl afiechydon dwi wedi ei gael dros y tymhorau blaenorol, tydi'r tymor hwn ddim i'w weld yn mynd dim gwell.
I gychwyn cafodd y tomatos Meccano oedd un ochr i'r ty gwydyr rhyw fath o afiechyd ffwng ar rhai o'r dail gwaelod.

Yn rhyfedd dim ond rhai o'r planhigion oedd yn dioddef ohono. Rhaid imi gyfaddef nad oedd gen i unrhyw syniad beth oedd yr afiechyd ac yn sicr doeddwn ddim yn gwybod beth oedd wedi ei achosi, felly mi roddais y lluniau ar fforwm yr NVS gan obeithio buasai rhywyn yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar y mater. Mae cael defnydd o'r fforwm hwn ar wefan y gymdeithas yn ufflon o handi i gael gwybodaeth a chyngor gan arddwyr profiadol o bob cwr o'r wlad.
Daeth dau ohonynt i'r casgliad mai'r dwr oeddwn yn ei ddefnyddio oedd achos y clefyd, ac roeddynt yn argymell imi dorri'r dail heintus i ffwrdd a sterileiddio'r dwr yn y 'water butts' hefo 'Permanganate of Potash'.
Ar ol dilyn yr argymhellion mae'r planhigion wedi dod yn eu blaenau yn eithriadol o dda ac yn sefyll dros dwy drodfedd a'r tomatos cyntaf yn dechrau ffurfio.

Tua wythnos ar ol yr helynt hefo'r Meccano cafodd y tomatos ochr arall i'r ty gwydyr rhyw fath o haint. Roedd y dail uchaf i gyd i'w gweld yn crebachu am ryw reswm ac doedd neb ar fforwm yr NVS yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddynt chwaith y tro hwn.
Yr unig beth dwi wedi ei wneud iddynt ydi dechrau rhoi bwyd yn y dwr gan fod y truss cyntaf o damatos wedi setio. Mae hyn yn golygu fod y blodau cyntaf i gyd wedi blodeuo'n llawn ac ar fin dechrau ffurfio ffrwyth, dyma'r adeg pan mae'n rhaid dechrau rhoi bwyd a gwahanol fwynion i'r planhigion. Gobeithio gnaiff hyn eu haltro a rhoi hwb iddynt a chryfder i ddod dros yr anffawd hwn.

Gan fy mod wedi dechrau eu bwydo gyda 'Maxicrop Tomato Feed' bydd rhaid cario 'mlaen hefo hyn trwy gydol y tymor. Eleni dwi am rhoi gwahanol fathau o fwyd iddynt, un ar ol y llall yn eu tro.
Y cymysgedd cyntaf fydd y Maxicrop, yna 'Nettle Brew'! Yn syml dail danadl poethion wedi eu malu'n fan mewn bwced ac wedi mwydo mewn dwr am tua pythefnos ydi 'nettle brew'. Mae'r dwr wedyn yn cael ei hidlo mewn i boteli pop ac yn cael ei ychwanegu hefo'r dwr gan greu cymysgedd sy'n debyg i gwpan o de gwan. Mae'r cymysgedd hwn yn llawn o nitrogen felly'n rhoi bywd i'r dail.

Byddaf yn gwneud dau math arall o gymysgedd hefyd hefo cynhwysion tra wahanol, ond mwy am hynny nes ymlaen.

Saturday 14 May 2011

YR HADYN PWYSICAF WEDI EGINO!

Ddoe es i a fy ngwraig i'r ysbyty i weld fod yr hadyn pwysicaf dwi wedi ei blanu eleni wedi egino yn llwyddianus. Roedd i'w weld yn hapus braf gan chwifio ei ddwylo a'i draed o gwmpas. Gobeithio fod hyn yn arwydd da am y tymor sydd i ddod.
Mae Lleucu yn edrych ymlaen i gael brawd neu chwaer fach i gael chware hefo a Maria yn edrych ymlaen ata i yn rhedeg o gwmpas yn tendio arni dros y 6 mis nesa!
Y dyddiad pwysig ydi 16 o Dachwedd.

Sunday 8 May 2011

Y TATWS A'R CENIN

Roedd rhaid i'r tatws gael eu plannu erbyn diwedd mis Ebrill er mwyn imi gael eu codi erbyn diwedd Gorffennaf. Y rheswm dwi eisiau eu codi nhw mor gynnar ydi cael digon o amser cyn y sioeau imi eu sortio nhw allan ar gyfer pob dosbarth a sioe. Pan mae yna 80 o fagiau angen eu sortio tydi hi ddim yn rhywbeth allaf ei adael tan y noson cyn y sioe fel sy'n digwydd hefo mwyafrif y llysiau.
Dwi wedi plannu 4 math eleni, 20 bag o bob un gan obeithio bydd hyn yn ddigon i allu llwyfanu safon reit uchel.
Mae'r 60 bag cyntaf yn cynnwys cymysgedd Medwyn Williams sydd wedi ei wneud yn arbenig ar gyfer tatws, felly aeth y Kestrel, NVS Sherine a'r NVS Amour mewn i'r rhain, ond yn yr 20 bag olaf Levington M3 ydi'r cymysgedd felly aeth y Cassablanca mewn i rhain.
Y gyfrinach hefo cael tatws o safon ar gyfer y sioeau arddangos ydi cwtogi nifer y 'shoots' sydd ar bob hadyn i 2 neu 3 gan dorri y rhai gwanaf i ffwrdd y gyfan gwbl gan adael y rhai cryfa i dyfu. Wrth wneud hyn rydym yn fwy tebygol o gael tatws mwy yn hytrach na nifer mawr o rai bychain. Tatws oddeutu 7oz ydi'r maint delfrydol ar gyfer arddangos ac wrth ddefnyddio'r techneg hwn dwi'n gobeithio gwella y safon dwi wedi arfer ei gael.
Dyma'r holl fagiau wedi eu gosod allan. Dylai'r dail cyntaf ymddangos yn y diwrnodau nesaf gobeithio.

Mae'r cenin wedi dod yn eu blaenau yn hynod o dda ers iddynt gael eu symud i'r twnel, enwedig y Pendle Improved. Erbyn hyn maen't wedi dal y Welsh Seedling i fynu felly mi benderfynnais eu plannu yn y gwely dwi wedi ei baratoi lawr cannol y twnel.
     Byddaf yn newid y coleri wythnos nesa o rhai 9" i 12" oerwydd eu bod yn ymestyn ar i fynu yn dda iawn ar hyn o bryd.
Pipe lagging dwi'n ei ddefnyddio i'w blancho, gan gychwyn hefo 1" bore.

O amgylch y pipe lagging dwi'n rhoi bubble wrap sydd gyda haen o foil arno er mwyn cadw'r barel yn oerach na'r tymheredd uchel yn y twnel.

Mae yna 10 yn mynd i'r gwely, gobeithio gai amser wythnos yma i wneud rhywbeth i roi cymorth i'r dail. Ar ochr chwith y twnel mae'r nionod mawr i gyd wedi cael eu planu yn ogystal a 12 o nionod 250g sef y Vento. Mae hyn yn golygu fod yna 24 o nionod 250g yn y twnel ond dwi wedi planu 50 yn y gwely tu allan.
Tan tro nesa...

MECCANO

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn hynnod o rhai prysur yn yr ardd gyda pob dim yn cael eu plannu yn eu safleoedd olaf. Erbyn hyn mae hi wedi callio rhyw fymryn cyn y plwc nesa pan fydd angen cychwyn y blodfresych a'r beetroot.
Mae'r holl domatos wedi eu plannu erbyn hyn gyda'r Meccano yn llenwi ochr arall i'r ty gwydyr, ond dwi wedi defnyddio dull gwahanol o'u tyfu.
Arbrawf ydi hwn i ddweud y gwir ond wrth wneud hyn dwi'n gobeithio cael planhigion sy'n rhydd o unrhyw afiechyd. Beth dwi wedi trio ei greu mewn gwirionedd ydi growbag enfawr gan lenwi'r ochr gyda cymysgedd o dail ceffyl, compost a pridd o'r ardd sy'n golygu fod gen i ddyfnder o tua trodfedd i'r gwreiddiau gael ymestyn i lawr. Ni fuasai rhywyn yn cael y dyfnder hwn mewn growbag cyffredin. Mi orchuddiais y cymysgedd gyda plastig sy'n ddu ar un ochr ac yn wyn yr ochr arall, dylai hwn gadw'r chwyn draw yn ogystal a chadw lleithder yn y cymysgedd.
Penderfynnais ddefnyddio'r growpots plastig sy'n galluogi imi gael hyd yn oed mwy o ddyfnder i'r gwreiddiau ond sydd hefyd yn galluogi imi ddyfrio'r planhigion heb orfod gwlychu gwyneb y pridd fel dwi'n gorfod gwneud hefo'r Cedrico. Mae tomatos yn hoff o gael awyrgylch sych felly mae gwlychu gwyneb y pridd yn creu awyrgylch reit llaith felly yn galluogi i afiechydon fod yn fwy tebygol.
Dyma'r Meccano wedi eu plannu, tua wythnos yn hwyr i ddweud y gwir oherwydd mae yna olwg reit druenus arnynt ond dylent altro bob dydd o hyn ymlaen.