Mai'n anodd credu ond mi rewodd hi yma nos wener/bore sadwrn er ei bod hi'n fis mehefin i fod, a'r diwrnod hira nepell pythefnos i ffwrdd! Yn ffodus roedd fy nhad wedi rhagweld y digwyddiad ac roeddynt wedi gorchuddio'r tatws hefo fleece.
Yn syfrdannol roedd y dail oedd yn cyffwrdd y fleece wedi cael eu difrodi gan y rhew er gwaethaf y gorchydd. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn rew caled oherwydd roedd y themomedr yn y twnel yn dangos ei bod hi wedi disgyn i 0C tu mewn i'r twnel felly beth a wyr beth oedd hi tu allan?
Berig os na faswn wedi eu gorchuddio mi fuasai'n ta ta ar ddangos tatws o safon yn sioeau ha' ma'. Dylent ddod drwyddi ond bydd rhaid au gadael yn y tir am rhyw bythefnos yn ychwanegol nac oeddwn yn bwriadu er mwyn rhoi cyfle iddynt ddod dros y cam yn ol maent wedi ei gael.
Mi benderfynnais godi'r shallots i gyd wythnos diwethaf oherwydd sylwais fod rhai wedi cychwyn ar eu hail gyfnod o dyfiant felly roedd y bylbiau yn paratoi i dorri'n ddau eto. Mae hi'n bwysig eu codi cyn i hyn ddigwydd neu mae'r bylbiau yn mynd i fod yn ddiwerth ar gyfer sioe gan fynd allan o siap.
Y peth cyntaf wnes i oedd rhoi fforch o dan pob clwstwr er mwyn gwneud yn siwr fod y planhigion ddim yn cael unrhyw fath o fwyd na glaw tra roeddwn yn paratoi safle iddynt gael sychu. Tra roeddynt yn sychu ar wyneb y pridd mi es ati i wneud ffram hefo coed a 'chicken wire' i'r shallots gael gorwedd arni i gael sychu'n drylwyr er mwyn iddynt gadw at pob sioe ond yn bwysicach iddynt gadw at flwyddyn nesa er mwyn eu hail blannu.
Mae yna dros gant ohonynt ar y ffram yn sychu. Dwi wedi eu gosod allan fel fod y dail yn gwynebu ychydig ar i lawr fel fod y glaw neu unrhyw leithder yn llifo i ffwrdd o'r shallots felly yn lleihau y siawns o'r bylbiau yn troi yn ddrwg felly yn anhebygol o gadw at flwyddyn nesa. Er fod yna nifer fawr ohonynt yma a'r mwyafrif yn mesur rhwng 40mm a 50mm, anodd iawn fydd cael 12 yr un fath ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen.
Dros yr wythnosau diwethaf mae yna gryn dipyn wedi cael ei gyflawni ar y patch a phob dim bron iawn wedi ei blannu erbyn hyn. Wrthi'n plannu'r blodfresych dwi ar hyn o bryd gan blannu un rhes ar ol y llall gan adael chydig ddiwrnodau rhwng bob rhes dros gyfnod o bythefnos. Wrth wneud hyn dwi'n gobeithio cael planhigion fydd yn cyraedd eu gorau dros ddyddiadau y sioeau ac ddim yn dod hefo eu gilydd ar unwaith yn un haid fawr.
Mae batri'r camera'n fflat ar hyn o bryd ond mi roi luniau yma dros y penwythnos i ddangos sut mae pob dim yn dod yn ei flaen.
No comments:
Post a Comment