Thursday 20 January 2011

NIONOD DODWY

Es ati heddiw i blannu'r nionod dodwy neu shallots yn saesneg. Braidd yn fach ydynt i ddweud y gwir oherwydd i'r dosbarth y shallots mawr oeddwn yn bwriadu eu tyfu.
Hative de Niort ydi'r enw ar y math dwi am dyfu eleni, rhain yn ol bob son ydi'r gorau ar gyfer y bwrdd arddangos ac sydd yn ennill y ticedi coch ar y lefel uchaf.
Fel y gwelwch maent yn amrywio o ran maint, wrach buasai yn well eu tyfu ar gyfer dosbarth y shallots bach (dim mwy na 30mm). Dwi wedi eu plannu heddiw beth bynnag yn y modd roeddwn yn bwriadu tyfu y rhai mawr felly gawn ni weld sut eith hi dros y flwyddyn.
Y compost dwi'n ei ddefnyddio hefo'r shallots mawr ydi Levington M3, sydd yn golygu ei fod yn gompost gradd canolig o ran gwead ac yn uchel mewn mwynau.
Dwi'n ei gymusgu yn drylwyr er mwyn cael gwared o unrhyw lympiau ac gwneud yn siwr fod yna ddigon o ocsigen ynddo i'r gwreiddiau gael ffynnu.






Yr unig wrtaith dwi'n ei adio iddo ydi calcified seaweed wedi dorri lawr yn llwch. Dwi'n adio 12oz i bob bag 75ltr o gompost ac yn ei gymysgu yn drylwyr hefo rhaw nol a mlaen.
Mi allwch ddefnyddio concrete mixer os ydych eisiau lot o gymysgedd ond dwi'n dueddol o ddefnyddio bon braich!






Polypot 6" dwi'n ei ddefnyddio i gychwyn y shallots.
Bagiau plastig hefo tyllau yn y gwaelod ydynt, yr un fath a'r bagiau fyddai'n ddefnyddio i blannu tatws nes ymlaen yn y tymor.









Ar ol llenwi'r bagiau hefo'r cymysgedd byddaf yn gwthio'r shallot tua hanner ffordd mewn i'r compost yna gadael iddo tan i'r tyfiant newydd gychwyn.










Dyma'r holl Hative de Niort wedi eu plannu, 30 i gyd.
Byddant yn aros yn y ty gwydyr oer am tua 12 wythnos cyn cael eu plannu allan yn yr ardd tua diwedd Ebrill dechrau Mai.

No comments:

Post a Comment