Dwi di plannu mwy o shallots ddoe. Jermor ydi'r cyltifar yma, mae hwn hefyd i'w weld ar byrddau arddangos ond mae hefyd yn ffefryn gan y cogyddion enwog am ei flas.
Y bwriad ydi arbrofi hefo rhain gan eu tyfu mewn ffyrdd gwahanol i'r Hative de Niort.
Dwi di plannu 14 yn yr un cymysgedd a'r Hative de Niort mawr gan obeithio yr awn mor fawr a rheini.
Dwi di plannu 10 mewn potiau 3" gyda compost sy'n isel mewn mwynau a gwrtaith er mwyn eu dal yn ol. Y bwriad ydi cadw rhain i'r dosbarth y 'pickling shallots'.
Rhaid i'r pickling shallots fod dim mwy na 30mm o led a phasio drwy modrwy sydd union 30mm.
Tydi 10 ohonynt ddim yn hanner digon i gael casgliad fydd yn ddigon da ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen ond gobeithio fydd yna rai digon da i'r sioeau lleol.
Mae siap y Jermor yn hollol wahanol i'r Hative de Niort. Fel a welwch ar y chwith mae'r Jermor yn fwy hirgrwn ac yn cael ei alw gan y cogyddion yn "banana shallot".
Amser a ddengys os fydd hwn yn gallu herio'r Hative de Niort!
No comments:
Post a Comment