Monday, 17 January 2011

VENTO AMDANI

Dydd Sul mi gefais gyfle i blannu hadau nionod 250g. Vento ydi'r math dwi am fentro hefo eleni, yn ol y son maent yn ennill ar y lefel uchaf yn gyson.  

 Mae'r hadau wedi dod gan Medwyn Williams, felly maent o'r ansawdd gorau posib.
 Y compost dwin ei ddefnyddio i'w cychwyn ydi Levington F1 sydd wedi ei gymysgu yn arbennig ar gyfer cychwyn hadau. Ni fydd y planhigion yn y compost hwn yn hir ar ol iddynt egino felly mae lefel y bwyd yn y compost yn isel.
Mantais y compost hwn ydi fod y planhigion yn chael hi'n hawdd magu gwreiddyn cryf yn sydyn, oherwydd natur ysgafn a rhydd y compost.
 Mae'r hadau wedi cael eu gorchuddio gan haen gwyrdd golau. Dwn im beth ydio ond mae o i fod i helpu yn y broses o egino.
 Dwi'n gwasgaru'r hadau reit fras ar ben y compost sydd wedi cael ei ddyfrio yn barod.
 Yna ei orchuddio gyda haen ysgafn o 'vermiculite' gan gofio gwlychu'r haen hwn gyda chwistrellydd man na wnaiff amharu ar yr hadau o gwbl.
Yn olaf eu gorchuddio gyda plastig clir er mwyn cadw y tymheredd yn gyson. Erbyn hyn mae'r gwres yn y ty gwydyr yn cael ei gadw od ucha 10C/50F gan y gwresogydd trydan.
Yr unig beth alla i wneud rwan ydi croesi bysedd a gobeithio daw yna rai o'r 150 hadau i'r wyneb.

No comments:

Post a Comment