Sunday, 2 January 2011

2011

Ar ddechrau blwyddyn mae rhywun yn edrych ymlaen i gael cychwyn o ddifri ar y gwaith ar tyfu.
Dwi wedi prunu y mwyafrif or hadau erbyn hyn ac wedi archebu'r cenin ar nionod. Y bwriad ydi canolbwyntio ar y cenin, y nionod, y tomatos, y moron byr a'r tatws ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen, ond byddaf yn tyfu nifer mwy o bethau ar gyfer y sioeau lleol.

Y sioe fawr yn Llangollen ydi pinacl y sioeau llysiau sef sioe y 'National Vegetable Society' sy'n symud o le i le pob blwyddyn. I unrhyw un sydd a diddordeb mewn tyfu llysiau mae ymuno ar gymdeithas hwn yn hanfodol oherwydd y cyngor arbennig mae rhywun yn ei dderbyn, yn ogystal a chylchgrawn tymhorol sydd yn llawn o syniadau a adroddiadau diddorol. Mae cael golwg ar eu gwefan www.nvsuk.org.uk  yn esbonio pob dim mae'r gymdeithas yn ei wneud.

Mae'r llysiau sy'n cael ei arddangos yn y sioe hwn o'r safon uchaf posib felly bydd rhaid imi wella ar y cynnyrch wnes i dyfu llynedd, er imi gael fy mlwyddyn mwyaf llwyddianus eto.







Dyma rhai o'r cynnyrch fues i yn llwyddiannus hefo yn sioe sir Feirionnydd a sioe Cerrig.
 
Dyma restr o'r llysiau a'r cyltifar dwi'n bwriadu tyfu eleni:
  1. Cenin - Welsh Seedling a Pendle Improved
  2. Nionod Mawr - Kelsae Exhibition [straen Medwyn Williams]
  3. Nionod dan 250g - Vento
  4. Moron Hir - New Red Intermediate [straen Medwyn Williams]
  5. Moron Byr - Sweet Candle
  6. Parsnip - Duchess F1
  7. Tomato - Cedrico a Meccano
  8. Cauliflower - Cornell a Beauty
  9. Cabbage - Brigadier
  10. Beetroot Hir - Long Black Beet [straen Medwyn Williams]
  11. Beetroot Crwn - Pablo
  12. Shallots - Hative de Niort a Jermore
Wrth edrych ar y rhestr faith uchod mae hi'n ymddangos fod gen i lot o waith o mlaen!

No comments:

Post a Comment