Wel! Mae'r twrch daear wedi ei ddal o'r diwedd, mewn trap yng ngwely'r cenin. Beth sy'n syfrdannol ydi'r ffaith imi ddal dau arall y noson wedyn jest wrth gerdded drwy'r ardd a sylwi ar un wedi codi i'r wyneb wrth y blodfresych ac mi gododd yr ail yn sydyn ar ei ol! Mae'r tri yn hongian ar y ffens ar hyn o bryd ac roeddwn wedi bwriadu dangos llun ohonynt ond dwi di dewis peidio rhag ofn fod yna rai ohonoch yn credu'n gryf mewn 'animal rights'!(rhaid i rywun watcho be mae on ddeud ai ddangos ar y we ma).
Mae pethau yn edrych weddol dda ar hyn o bryd gyda nifer o bethau yn barod i'w codi neu tynnu fel y tomatos. Dwi'n lwcus fod gen i gaffi dros y ffordd sy'n cael y mwyafrif ohonynt ond mae'r blas sydd arnynt yn hollol wahanol i rhai siop felly heidiwch i'r caffi yn Cerrig i gael brechdan!
Mae'r nionod i gyd bellach wedi eu codi ac wedi cael eu storio yn y garej i gael aeddfedu. Does gen i ddim llun ohonynt ond nai drio rhoi un yma tro nesa. Yn anffodus braidd yn drychinebus oedd y nionod mawr eleni gyda'r mwyafrif yn cael 'botritis' felly yn ddiwerth ar gyfer sioe yn o gystal ar gyfer bwyta. Dwi wedi gallu cael 5 i faint go lew sef 16" o'i amgylch, tua 2" yn llai na llynedd ond dylent fod ddigon da i'r sioeau lleol.
Wnes i orfod taflu rhain i gyd i ffwrdd, felly allan o ugain o nionod dim ond pump dwi'n gallu defnyddio. Tydi hyn dda i ddim felly bydd rhaid ffendio ffordd arall o'u tyfu flwyddyn nesa.
Dwi wedi plannu'r french beans yn y gwely gwag yn y twnel bellach gan obeithio cael digon o safon uchel i arddangos yn y sioe yn Llangollen ond braidd yn uchelgeisiol ydi hyn gan gofio mai hon yw'r flwyddyn gyntaf imi eu tyfu.
Braidd yn fach ydi dail y blodfresych hyd yma felly ros i ddos o fwyd 20-20-20 NPK iddynt neithiwr gan obeithio y gwnan dal i dyfu am ryw bythefnos arall cyn dechrau dod a blodyn. Mae'r blodfresych yn un o'r llysiau anoddaf i'w cael yn berffaith ar gyfer diwrnod y sioe.
Erbyn hyn mae'r moron byr wedi bod yn tyfu am bron i ugain wythnos felly dwi'n gobeithio fod y 'stump end' y dechrau ffurfio syddyn angenrheidiol ar gyfer arddangos, felly pan sylwais ar un wedi hollti wrth eu dyfrio neithiwr mi godais i o i gael gweld sut oeddynt yn dod yn eu blaenau.
Mae maint y moryn yn aruthrol ac mae'r stump end yn sicr yn ffurfio. Jest gobeithio fod gweddill y moron yn rhydd o unrhyw dyllau pry a holltau fel hwn.
I orffen dwi wedi sylwi fy mod wedi cyraedd ffigyrau dwbwl o ran dilynwyr erbyn hyn felly os oes gan unrhyw un gwestiwn i'w ofyn am unrhyw beth peidiwch a bod yn shei! Mi dria i ateb unrhyw beth o fewn rheswm, tydw i ddim yn cadw unrhyw gyfrinachau ar sut dwi'n tyfu fy nghynyrch.
No comments:
Post a Comment