Wednesday 17 August 2011

DIM TROI YN OL RWAN!

Wel mae'r ffurfleni cystadlu wedi cael eu postio heddiw, felly does yna ddim troi yn ol rwan! Mae'r adeg hwn cyn y sioeau yn amser reit nerfus ac llawn amheuon am safon fy nghynyrch. Dwi'n credu fy mod braidd yn uchelgeisiol yn cystadlu mewn cynifer ddosbarthiadau yn y 'National' yn Llangollen, ond mi fydd hi'n help at flwyddyn nesa i gael gweld lle dwi angen gwella. Mae hi'n holl bwysig anfon ffuflen gystadlu yn brydlon ond dwi wedi aros tan y munud ola i ddweud y gwir oherwydd roeddwn mewn penbleth pa ddosbarthiadau i gystadlu. Y cur pen mwyaf sy gen i ydi'r cenin, mae'r Pendle Improved sydd yn tyfu yn y twnel yn edrych yn addawol ond tydynt heb gyraedd 14" i'r button eto sydd yn angenrheidiol o dan reolau'r gystadleuaeth.

Sioe Sir Meirion ydi'r sioe gyntaf ar ddydd Mercher Awst 24ain ac dwi'n bwriadu cystadlu mewn 13 o ddosbarthiadau, ond tydw i ddim yn siwr os nai allu trio ym mhob un o'r dosbarthiadau hyn tan ddiwrnod codi'r holl lysiau. Dyna'r adeg pan mae rhywun yn cael gweld am y tro cyntaf os ydi'r moron hir neu'r moron byr am gyrraedd y safon dwi'n anelu ato.

Ar y dydd Sadwrn 27ed o Awst byddaf yn mentro lawr i'r sioe fwyaf y flwyddyn o ran llysiau sef y 'National Vegetable Society Championships' yn Llangollen. Dwi'n gobeithio cael llwyfanu hyd at 11 dosbarth yn y sioe hwn gan drio cadw'r llysiau gorau yn yr ardd i'r sioe yma, tasg anodd iawn hefo'r moron yn enwedig.

Dwi'n hynnod obeithiol fod gen i datws o safon reit uchel ac mae'r holl polypots wedi cael eu codi ac eu symud dan do i'r garej yn gannol yr holl deiars! Pwrpas hyn ydi rhoi amser i'r compost sychu yn gyfan gwbl cyn codi'r tatws o'r pridd. Mae hyn yn galluogi i groen y daten setio a chaledu rhywfaint felly yn gwneud hi'n anoddach eu marcio.
Mae'r gwlydd i gyd wedi cael eu torri ac wedi mynd i gael eu compostio oherwydd roeddynt yn rhydd o unrhyw afiechyd. Dydd Sul nesa 'ma byddaf yn gwagu'r holl fagiau ac yn sortio'r tatws i gyd mewn i rai sy'n dangos potensial ar gyfer y bwrdd arddangos ac bydd y gweddill yn mynd i fagiau hessian ar gyfer eu gwerthu yn Caffi Cerrig. Bydd y tatws sioe i gyd yn cael eu pwyso ac eu sortio i'r gwahanol ddosbarthiadu wedyn yn cael eu storio yn ol mewn mawn sych yn barod i'w golchi bore'r sioe.

Yng ngweddill yr ardd mae'r nionod bwyta i gyd wedi cael eu codi ac angen eu sychu er mwyn iddynt gadw drwy'r gaeaf. Tydi safon rhain ddim mor uchel a'r rhai wnes i dyfu yn y twnel ond dwi'n edrych ymlaen i'w defnyddio nhw yn y gegin. (be ddylwn i ddweud ydi dwin edrych ymlaen i weld Maria yn defnyddio nhw i wneud swper!)
Mae'r blodfresych wedi cychwyn blodeuo hefyd, braidd yn gynnar ar gyfer sioe sir i ddweud y gwir ond dylai'r gweddill wnes i blannu wythnos yn hwyrach fod yn berffaith ar gyfer Llangollen hei lwc. Y rhai sydd wedi dechrau dod a blodyn dwi wedi clymu'r dail at eu gilydd o amgylch y blodyn er mwyn atal unrhyw olau. Mae hyn yn cadw'r blodyn yn glaer wyn er gyfer arddangos.

Bydd rhaid rhoi mwy o amser i'r ardd dros y pythefnos nesa er mwyn gwneu yn siwr fod pob dim ar ei orau i'r sioeau.

No comments:

Post a Comment