Monday 1 August 2011

PRYD I GODI?

Bellach mae yna 13 wythnos wedi pasio ers imi blannu'r tatws felly noson o'r blaen mi godais fag o NVS Amour, bag o Kestrel a bag o Cassablanca i weld os oedd hi'n amser eu codi.
Y Kestrel yw'r rhain ac maent yn ymddangos ynrhydd o unrhyw farc neu afiechyd a dau neu dri yn dangos potensial o fod ddigon da i arddangos. Ychydig yn fach o ran maint ydynt ar hyn o bryd gyda'r gorau yn pwyso jest dros 6oz, y pwysau delfrydol ydi 7oz. Roedd canlyniadau y bag Amour tua'r un fath ond roedd y Cassablanca i gyd yn fach iawn.
Dwi wedi penderfynnu eu gadael i dyfu am tua wythnos arall ond am adael i'r Cassablanca gael o leiaf pythefnos arall.

Mae pob dim arall i'w gweld yn dod reit dda, er imi orfod codi un moryn hir neithiwr ar ol sylwi ei fod wedi rhedeg i hadyn. Jest gobeithio fod y lleill ddim am wneud yr un peth.


Yr unig beth da am gael codi un ohonynt ydi'r ffaith nad ydio wedi fforchio o gwbl felly dwi'n gobeithio fod y gweddill sydd ar ol yn y gwely yr un fath.

1 comment:

  1. Ah wedi dotio at y blog Wmff, da de! Nai edrych yn amalch o hyn ymlaen - edrych mlaen i ddarllen hanes yr hen dwrch daear!! W x

    ReplyDelete