Es ati heddiw i blannu'r nionod dodwy neu shallots yn saesneg. Braidd yn fach ydynt i ddweud y gwir oherwydd i'r dosbarth y shallots mawr oeddwn yn bwriadu eu tyfu.
Hative de Niort ydi'r enw ar y math dwi am dyfu eleni, rhain yn ol bob son ydi'r gorau ar gyfer y bwrdd arddangos ac sydd yn ennill y ticedi coch ar y lefel uchaf.
Fel y gwelwch maent yn amrywio o ran maint, wrach buasai yn well eu tyfu ar gyfer dosbarth y shallots bach (dim mwy na 30mm). Dwi wedi eu plannu heddiw beth bynnag yn y modd roeddwn yn bwriadu tyfu y rhai mawr felly gawn ni weld sut eith hi dros y flwyddyn.
Y compost dwi'n ei ddefnyddio hefo'r shallots mawr ydi Levington M3, sydd yn golygu ei fod yn gompost gradd canolig o ran gwead ac yn uchel mewn mwynau.
Dwi'n ei gymusgu yn drylwyr er mwyn cael gwared o unrhyw lympiau ac gwneud yn siwr fod yna ddigon o ocsigen ynddo i'r gwreiddiau gael ffynnu.
Yr unig wrtaith dwi'n ei adio iddo ydi calcified seaweed wedi dorri lawr yn llwch. Dwi'n adio 12oz i bob bag 75ltr o gompost ac yn ei gymysgu yn drylwyr hefo rhaw nol a mlaen.
Mi allwch ddefnyddio concrete mixer os ydych eisiau lot o gymysgedd ond dwi'n dueddol o ddefnyddio bon braich!
Polypot 6" dwi'n ei ddefnyddio i gychwyn y shallots.
Bagiau plastig hefo tyllau yn y gwaelod ydynt, yr un fath a'r bagiau fyddai'n ddefnyddio i blannu tatws nes ymlaen yn y tymor.
Ar ol llenwi'r bagiau hefo'r cymysgedd byddaf yn gwthio'r shallot tua hanner ffordd mewn i'r compost yna gadael iddo tan i'r tyfiant newydd gychwyn.
Dyma'r holl Hative de Niort wedi eu plannu, 30 i gyd.
Byddant yn aros yn y ty gwydyr oer am tua 12 wythnos cyn cael eu plannu allan yn yr ardd tua diwedd Ebrill dechrau Mai.
Dwi wedi bod yn tyfu llysiau ers 2008, yn bennaf ar gyfer arddangos mewn sioeau. Pwrpas y blog hwn yw dangos sut mae mynd ati i dyfu cynnyrch sydd yn haeddu ei le nid yn unig ar y bwrdd arddangos ond hefyd ar y bwrdd bwyta.
Thursday, 20 January 2011
Monday, 17 January 2011
VENTO AMDANI
Dydd Sul mi gefais gyfle i blannu hadau nionod 250g. Vento ydi'r math dwi am fentro hefo eleni, yn ol y son maent yn ennill ar y lefel uchaf yn gyson.
Mae'r hadau wedi dod gan Medwyn Williams, felly maent o'r ansawdd gorau posib.
Y compost dwin ei ddefnyddio i'w cychwyn ydi Levington F1 sydd wedi ei gymysgu yn arbennig ar gyfer cychwyn hadau. Ni fydd y planhigion yn y compost hwn yn hir ar ol iddynt egino felly mae lefel y bwyd yn y compost yn isel.
Mantais y compost hwn ydi fod y planhigion yn chael hi'n hawdd magu gwreiddyn cryf yn sydyn, oherwydd natur ysgafn a rhydd y compost.
Mae'r hadau wedi cael eu gorchuddio gan haen gwyrdd golau. Dwn im beth ydio ond mae o i fod i helpu yn y broses o egino.
Dwi'n gwasgaru'r hadau reit fras ar ben y compost sydd wedi cael ei ddyfrio yn barod.
Yna ei orchuddio gyda haen ysgafn o 'vermiculite' gan gofio gwlychu'r haen hwn gyda chwistrellydd man na wnaiff amharu ar yr hadau o gwbl.
Yn olaf eu gorchuddio gyda plastig clir er mwyn cadw y tymheredd yn gyson. Erbyn hyn mae'r gwres yn y ty gwydyr yn cael ei gadw od ucha 10C/50F gan y gwresogydd trydan.
Yr unig beth alla i wneud rwan ydi croesi bysedd a gobeithio daw yna rai o'r 150 hadau i'r wyneb.

Y CYFFRO YN CYCHWYN
Wel! Lle dwi'n cychwyn?
A dweud y gwir mae cyflwr yr ardd a lle dwi arni i'w gymharu a llynedd dipyn gwell eleni, hyd yma beth bynnag. Er mai cychwyn y flwyddyn ydi hi, mae'r mwyafrif o'r ardd wedi cael ei balu ac y ty gwydyr wedi cael ei olchi hefo Armillatox sy'n lladd unrhyw afiechydon a phlau sy'n llechu yno. Mae pob twll a chornel wedi cael ei sterileiddio yn barod ar gyfer y tymor newydd.
Mae hin anodd credu cwta pythefnos yn ol roedd yr ardd o golwg dan flanced o eira ac wedi bod felly ers tua pedair wythnos. Er gwathaf hyn mi gefais gyfle i sortio'r ty gwydyr yn barod ar gyfer plannu hadau.
Wythnos diwethaf derbynniais fy archeb gan 'JBA Seed Potatoes' ac es ati y noson honno i'w sortio ac eu glanhau. Does dim rhaid eu glanhau, ond dwi'n hoff o wneud er mwyn cael gweld os oes yna rai sydd ag afiechyd yn bresennol neu os oes yna unrhyw fath o nam arnynt.
Ar y cyfan roeddwn yn hynod o hapus hefo safon yr hadau, enwedig yr 'NVS Amour'.
Fel y gwelwch dwi wedi eu gosod allan ar hen focsys dal wyau hefo'r 'rose end' yn gwynebu i fynnu. Pwrpas hyn ydi eu 'chitio'. Beth mae hyn yn ei olygu ydi fod pen y daten sydd gyda'r llygaid yn datblygu 'shoot' byr fydd yn galluogi i'r daten ddatblygu yn sydyn unwaith mae hi'n cael ei phlannu yn y tir. Yn anffodus roedd yna dipyn o'r Kestrel scab arnynt, rhai ohonynt reit ddrwg. Ond mae yna ddigon o safon uchel fel mi allai anwybyddu rheini ac eu rhoi i fy Nhad i blannu!

Kestrel |
NVS Sherine |
NVS Amour |

Sunday, 2 January 2011
2011
Ar ddechrau blwyddyn mae rhywun yn edrych ymlaen i gael cychwyn o ddifri ar y gwaith ar tyfu.
Dwi wedi prunu y mwyafrif or hadau erbyn hyn ac wedi archebu'r cenin ar nionod. Y bwriad ydi canolbwyntio ar y cenin, y nionod, y tomatos, y moron byr a'r tatws ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen, ond byddaf yn tyfu nifer mwy o bethau ar gyfer y sioeau lleol.
Y sioe fawr yn Llangollen ydi pinacl y sioeau llysiau sef sioe y 'National Vegetable Society' sy'n symud o le i le pob blwyddyn. I unrhyw un sydd a diddordeb mewn tyfu llysiau mae ymuno ar gymdeithas hwn yn hanfodol oherwydd y cyngor arbennig mae rhywun yn ei dderbyn, yn ogystal a chylchgrawn tymhorol sydd yn llawn o syniadau a adroddiadau diddorol. Mae cael golwg ar eu gwefan www.nvsuk.org.uk yn esbonio pob dim mae'r gymdeithas yn ei wneud.
Mae'r llysiau sy'n cael ei arddangos yn y sioe hwn o'r safon uchaf posib felly bydd rhaid imi wella ar y cynnyrch wnes i dyfu llynedd, er imi gael fy mlwyddyn mwyaf llwyddianus eto.
Dyma rhai o'r cynnyrch fues i yn llwyddiannus hefo yn sioe sir Feirionnydd a sioe Cerrig.
Dyma restr o'r llysiau a'r cyltifar dwi'n bwriadu tyfu eleni:

- Cenin - Welsh Seedling a Pendle Improved
- Nionod Mawr - Kelsae Exhibition [straen Medwyn Williams]
- Nionod dan 250g - Vento
- Moron Hir - New Red Intermediate [straen Medwyn Williams]
- Moron Byr - Sweet Candle
- Parsnip - Duchess F1
- Tomato - Cedrico a Meccano
- Cauliflower - Cornell a Beauty
- Cabbage - Brigadier
- Beetroot Hir - Long Black Beet [straen Medwyn Williams]
- Beetroot Crwn - Pablo
- Shallots - Hative de Niort a Jermore
Subscribe to:
Posts (Atom)