Monday 3 September 2012

PENCAMPWRIAETH CANGEN CYMRU 2012

Mae'r penwythnos diwethaf ma wedi bod yn un hynnod o brysur. Nid yn unig oeddwn yn cystadlu yn fy sioe lleol sef Sioe Cerrig roeddwn hefyd yn mentro lawr i dde Cymru i Bencampwriaeth yr NVS Cangen Cymru ynm Mharc Bryngarw, Penybont.

Wnes i gychwyn lawr i'r de am 1.30 yn y bore gan obeithio buasai'r llysiau yn ymddangos fwy ffres ar y byrddau arddangos, roedd y wraig yn meddwl mod i'n nyts yn gwneud ffasiwn beth, ond dwi o'r farn os de chi isio llwyddo ar y lefel uwch o arddangos mae'n rhaid trio cael pob mantais posib i guro'r gystadleuaeth, os ydi hynny yn golygu cael dim cwsg am noson dwi'n meddwl ei fod o werth y poen.

Roeddwn wedi fy syfrdanu ar cynifer o gystadleuwyr oedd wedi mentro i'r sioe ac i ddweud y gwir roeddwn yn teimlo fod y siwrne yn mynd i fod yn un gwag o weld safon y cynnyrch ar y byrddau.





Er gwaethaf fy mhryderon roeddwn yn hynod o falch o weld fy mod wedi ennill hefo tatws yn y dosbarth lliw yn ogystal ar 'Best Exibit in the Potato Classes'


Cafais drydydd yn y dosbarth tatws gwyn ac hefyd yn y dosbarth 'casgliad o datws'.


Yn mwy na dim y pleser mwyaf o ran y canlyniadau oedd y cenin yn y gystadleuaeth Prydeiniglle cefais drydydd.


Hoffwn ddiolch yn ofnadwy i Emlyn, Arwyn, Colin ac Andrew am y croeso a'r gwmniaeth gefais dros y dau ddiwrnod, dyma sy'n gwneud cystadlu yn y sioeau yma yn unigryw.

No comments:

Post a Comment