Thursday, 21 April 2011

Y GWAITH YN DWYSAU!

Mae adeg yma o'r flwyddyn yn hynod o brysur enwedig os ydi'r tywydd yn braf. Mae'r holl lysiau sydd wedi eu cychwyn hyd yma wedi cael y cychwyn gorau posib eleni oherwydd y dau fis mwyn sydd wedi pasio, yr unig fai ydi fod pob dim angen eu plannu yn eu safleoedd olaf i gyd ar unwaith. Golygai hyn fod y gwaith dwi'n ei wynebu dros y pythefnos nesaf yn restr llawer mwy nac yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Cefais y cyfle penwythnos diwethaf i blannu'r shallots gan eu dyfrio reit drwm. Bydd rhaid teneuo rhain yn yr wythnosau nesaf lawr i 4 ym mhob clwstwr er mwyn gwneud yn siwr fy mod yn cael y siap gorau posib arnynt, er ni fydd rhaid teneuo nifer ohonynt oherwydd dim ond 3 neu 4 sydd wedi datblygu ar y mwyafrif.

Dwi'n gobeithio cael plannu'r tatws i gyd penwythnos yma gan fod genai ambell i ddiwrnod ffwrdd or gwaith. Y bwriad eleni ydi eu plannu mewn 'pollypots'. Bagiau plastig ydynt hefo nifer o dyllau ar y gwaelod ar gyfer draeniad. Yn anffodus tydw erioed wedi gallu tyfu tatws o ryw safon i ddweud y gwir ond dwi'n gobeithio fod y dull hwn o'u tyfu am newid hyn.

Mae pob pollypot yn dal oddeutu 17ltr o gompost yn ol y paced, ond ar ol dechrau eu llenwi mi ddaeth hi'n amlwg fod y potiau plastig yn dal llawer iawn mwy. Roeddwn wedi prynnu 20 o fagiau 75ltr gan Medwyn Williams oedd wedi ei wneud yn benodol ar gyfer tyfu tatws, felly dylai 20 o fagiau fod wedi llenwi 80 o pollypots. Yn anffodus roedd pob potyn yn cymeryd jest i 25ltr o gompost felly dim ond 60 o fagiau o ni'n mynd i allu ei llenwi. Penderfynais brynu 10 bag o Levington M3 ar gyfer y gweddill, yn ol Medwyn mae cynhwysion y ddau gompost yn reit debyg, mi gawn ni weld ar ddiwedd y tymor!

Yn ol pob tebyg mawn wedi ei falu'n fan iawn ydi mwyafrif y compost gyda Vitax Q4 a Calcified Seaweed a Nutrimate wedi ai adio ato. Dyma'r cynhwysion mae'r mwyafrif o'r goreuon yn ei ddefnyddio.


Mi blannais 12 o nionod vento yn y twnel noson or blaen hefyd. Maent reit agos at ei gilydd ond mae yna gryn dipyn o ddyfnder a digon o dail ceffyl wedi ei roi yn y pridd ar eu cyfer.
Cefais y cyfle hefyd i denauo'r moron byr lawr i un ym mhob twll gan fod y dail cyntaf yn dechrau ymddangos. Yn o gystal dwi wedi symud pob dim o'r ty gwydyr i'r twnel onibai am y tomatos. mae hi'n hen bryd iddynt gael eu plannu yn y gwely.
 Penderfynnais hefyd ddechrau coleru'r cenin gan ddechrau hefo coler 9" o uchder gan ddefnyddio 'pipe lagging' a 'bubble wrap' arian i gadw'r cenin rhag mynd rhy boeth.

Mae hi'n syfrdanol sut mae'r Pendle Improved wedi dod yn ei flaen gan fod yr un maint a'r Welsh erbyn hyn. Dwi'n gobeithio cael plannu'r Pendle yn y twnel wythnos nesa ma ond bydd rhaid aros tan ddechrau mis nesa cyn plannu'r Welsh yn y gwely tu allan.



No comments:

Post a Comment