Tuesday 12 April 2011

MAE PETHAU'N SAETHU FYNU!

Mae'r tywydd wedi bod yn hynod ffafriol dros yr wythnosau diwethaf gyda mwyafrif o'r planhigon yn saethu i fynnu. Yn sicr mae'r cyfnod mwyn wedi galluogi i'r hadau moron egino reit rhwydd yn y twnel gyda 47 allan o 48 twll wedi dod allan i'r wyneb.
Mae hi'n hen bryd i'r shallots fynd allan i'r gwely terfynnol gyda nifer o'r Hative de Niort wedi dechrau hollti.

Mae'r dail i gyd yn edrych yn iach ac mae'r gwreiddiau wedi dechrau dod allan o'r tyllau yn waelod y polypots. Dwi wedi palu'r gwely tu allan yn barod, i gyd dwi angen ei wneud ydi adio'r gwrtaith sef Fish, Blood and Bone a Calcified Seaweed i'r pridd. Dyle hyn fod yn ddigon i'r planhigon dyfu i'w llawn potensial erbyn gannol mis Mehefin gyda lwc.

Mae'r ty gwydyr jest a byrstio oherwydd yr holl dyfiant sydd wedi bod. Dwi wedi gorfod ail botio pob dim yn y pythefnos diwethaf ac hynny yn ei dro wedi rhoi hwb arall iddynt dyfu ymlaen. Roedd yna dipyn o waith ail botio'r nionod 250g y Vento oherwydd roedd yna 100 ohonynt angen symud i botiau 4" mewn cymysgedd o Levington M3 gyda top soil, vermiculite a Nutrimate powder.

Mi ddefnyddiais yr un cymysgedd ar gyfer y nionod mawr. Mae'r rhain mewn potiau 6" erbyn hyn ac iw gweld yn tyfu ymlaen yn gryf, felly mi bendefynnais symud rhain i'r twnel iddynt gael dod i arfer i awyrgylch eu safle terfynnol. Bydd rhaid plannu rhain yn eu gwely terfynnol yn yr wythnosau nesaf.

Gall y ty gwydyr adeg yma o'r flwyddyn fynd yn eithriadol o boeth ac mae hi'n hynod o anodd rheoli'r tymheredd ynddo. Oherwydd hyn dwi am drio symud y mwyafrif o'r planhigion i'r twnel ble mae hi'n haws cadw'r tymheredd i lawr oherwydd fod yr ochrau'n rolio i fynnu gan adael yr awyr iach i mewn. Ond mae'r gwres yn y ty gwydyr wedi galluogi i'r tomatos ddod yn eu blaenau ar gryn gyfymder ers eu hail botio mewn Levington M3.
Bydd rhaid meddwl am ddechrau paratoi ar gyfer eu plannu yn y pridd lawr bob ochr i'r ty gwydyr.

Os oes yna un gystadleuaeth dwi eisiau gadael fy marc arni yn Llangollen dosbarth y cennin ydi hwnnw. Mae safon y cennin  hyd yma yn addawol iawn gyda'r Welsh Seedling dipyn mwy nac yr oedd adeg yma llynedd. Ond mae lliw y Pendle Improved yn ymddangos dipyn gwell na'r Welsh er ei fod yn llai o ran maint hyd yma.
Oherwydd hyn mi benderfynnais ail botio'r Welsh mwen i botiau 8" a'r Pendle mewn potiau 7" gan roi dos o SB Plant Invigorator iddynt. Mi ges i cryn lwyddiant yn defnyddio hwn llynedd gan dyfu cennin oedd yn rhydd o unrhyw afiechyd a marciau o phlau ar y dail. Byddaf yn trio chwistrellu hwn arnynt oddeuetu pob pythefnos o hyn o mlaen. Dwi'n hefyd am ddechrau eu coleru wythnos yma ar ol eu symud i'r twnel. Mwy am hynny tro nesa.

Fel y gwelwch o'r lluniau uchod mae hi'n amlwg pa un yw prun o liw y dail.

Un dasg arall wnes i gyflawni wythnos yma oedd gosod y peipiau yma i fynnu ar gyfer y beetroot hir. Dwi ddim yn hollol siwr pa gymysgedd dwi am ddefnyddio and bydd rhaid meddwl am blannu'r hadau cyn ddiwedd y mis.

No comments:

Post a Comment