Mae'r penwythnos hwn wedi bod yn braf iawn felly mi ges i gyfle i wneud dipyn yn yr ardd a'r polytunnel. Un peth dwi'n hynnod o falch hefo ydi'r tomatos, oherwydd mae'r Cedrico wedi dechrau egino yn barod.
Doeddwn ddim yn disgwyl iddynt ddod allan mor sydyn, ond mae hi'n amlwg fod y tywydd mwyn rydym wedi ei gael dros yr wythnos diwethaf wedi helpu cryn dipyn.
Tydi'r hadau eraill sef Meccano heb ddechrau codi eu pennau eto ond rwyf yn reit ffyddiog daw'r dail cyntaf i golwg yn y diwrnodau nesaf.
Mae hi'n amlwg fod y tywydd mwyn wedi bod yn ffafriol i'r shallots. Rwyf wedi symud y cwbl i'r polytunnel erbyn hyn oherwydd mae'r ty gwydyr yn brysur lenwi ac mae'r shallots yn gallu ymdopi reit hawdd hefo nosweithiau ble mae'r tymheredd yn mynd islaw pwynt rhewi.
Penderfynais hefyd drawsblannu 40 o nionod Vento mewn i botiau 3". Y cymysgedd oedd 3 rhan Levington M2, 1 rhan Top Soil wedi mynd trwy ridyll, 1 rhan Vermiculite gradd canolig ac ychydig o Nutrimate Powder.
Byddaf yn cynyddu lefel y pridd dwi'n ei roi yn y cymysgedd bob tro byddaf yn eu hail botio ermwyn iddynt ddod i arfer i'r gwely terfynnol byddant yn tyfu ynddo sef un gwely yn y polytunnel a gwely arall tu allan.
Dwi wedi gadael y gweddill yn y 40 cell tray tan i'r trydydd ddeilen ymddangos, teimlo fy mod wedi trawsblannu'r 40 cyntaf braidd yn fuan. Roedd yr ail ddeilen wedi ffurfio arnynt a'r gwreiddiau yn dechrau dod allan o waelod y tray, ond wrth eu trawsblannu sylwais fod strwythr y gwreiddiau ddim mor gryf ac yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld y gwahanieth rhyngddynt fel mae'r tymor yn mynd yn ei flaen.
Mae'r gwlau yn y polytunnel yn barod. Y gwely yn y cannol ydi gwely'r cennin, felly mi ros i tua 4" da o dail ceffyl yn ei waelod yna haen o bridd a chompost yna haen reit drwchus o Irish Moss Peat ar ei wyneb. Pwrpas hyn ydi cadw lefel gwlybaniaeth y gwely reit gyson ar hyd y tymor. Mae'r mawn yn hynnod o dda am gadw dwr yn y pridd, ac mae hi'n holl bwysig fod y cennin ddim yn cael ynrhyw adeg heb ddwr yn y gwely neu mae gwaelod y cennin yn dueddol o ffurfio siap bwlb, rhywbeth syn cael ei weld yn nam gan y beirniaid.
Mae'r gwely ar y chwith ar gyfer y nionod felly dwi wedi trio creu haenau o dail a pridd, naill ar ol y llall tan imi lenwi'r gwely. Yr unig wrtaith arall dwi wedi ai adio i'r ddau wely ydi Chempak BTD sy'n cynnwys nifer o 'trace elements' yn ogystal a Nitrogen, Phosfforws a Photash. Dylai hyn fod yn ddigon trwy gydol y tymor oherwydd ni fyddaf yn rhoi unrhyw fwyd arall i'r planhigion. Maent yn dweud mai bwydo'r pridd sy'n bwysig nid y planhigyn.
Dyma finnau a fy merch Lleucu ar ol yr holl waith caled yn teimlo reit bodlon hefo'n hunain!
No comments:
Post a Comment