Penderfynnais eleni drio dau fath sef y 'Welsh Seedling' ac y 'Pendle Improved'. Mae'r Pendle Improved i fod yn gryfach planhigyn yc i fod i fynd yn fwy na'r Welsh Seedling ac yn llai tebygol o ffurfio bwlb ar walod y barel, rhywbeth mae'r Welsh Seedling yn dueddol o'i wneud. Y gyfrinach ydi cadw'r gwely yn llaith a gwneud yn siwr fod gan y planhigion ddigon o ddwr a'r adegau poeth yn ystod y tymor. Mae unrhyw fath o straen ar y cenin yn dueddol o amlygu ei hun fel siap bwlb a'r waelod y barel.
Y Welsh Seedling yw'r rhain ac maen't wedi dod yn eu blaenau dipyn mwy eleni oherwydd dwi wedi eu potio nhw mewn potiau 5". Llynedd wnes i ddefnyddio potiau 3" i gychwyn yna ymlaen i 4" ac wedyn tua mis yn ddiweddarach i'r potiau 5" felly mae rhain yn edrych yn addawol iawn.
Mae'r Pendle Improved rhai wythnosau o ran tyfiant y tu ol i'r Welsh ond dwi'n siwr bydd y Pendle yn dal i fynu oherwydd dwi wedi penderfynnu mai'r Pendle sy'n mynd i'r gwely yn y twnel a'r welsh i'r un gwely a llynedd y tu allan. Y rheswm am hyn ydi fy mod yn gwybod o brofiad canlyniadau y llynedd fod y Welsh wedi rhagori yn y gwely tu allan felly pam newid.
Mae system gwreiddiau'r Welsh yn hynnod drawiadol ac yn sicr o gydio reit sydyn yn eu cymysgedd newydd.
Mae'r cymysgedd dwi wedi ei ddefnyddio yn debyg iawn i'r cymysgedd wnes i ar gyfer y nionod mawr sef 3 rhan o Levington M2, 1 rhan Top Soil, 1 rhan o Vermiculite ac ychydig o Nutrimate Powder.
Byddaf yn cynyddu lefel y pridd bob tro byddaf yn eu potio ymlaen yn barod ar gyfer eu plannu yn y gwely terfynnol.
Dyma'r Welsh Seedling ar ol eu potio. Dwi wedi rhoi cymorth i'r dail hefo'r clipiau gwyrdd plastig sy'n help hefyd i dynnu'r cenin ar i fynnu gan roi y clip reit uchel. Dwi ddim am ddechrau coleru eto, wnes i ddim dechrau tan oeddynt reit fawr llynedd felly dwi am wneud yr un fath eleni.
Mae'r planhigion yn fwy tebygol o ddioddef o afiechyd neu phlau os rydych yn coleru yn rhy gynnar felly dwi am aros tan fydd y planhigyn llawer cryfach tan dechrau coleru. Wrth gadw'r clipiau gwyrdd yn reit uchel i fynnu'r planhigyn mae hyn yn rhyw fath o blanshio'r cenin beth bynnag gan gadw'r dail reit dyn at eu gilydd.
Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn brysur yn sythu nifer o'r Welsh oherwydd mae barel rhai wedi tyfu braidd yn gam. Byddaf yn gwneud hyn yn raddol trwy roi ychydig o bwysau hefo fy mysedd ar y planhigyn a'i sythu yn araf deg.
No comments:
Post a Comment