Er gwathaf y flwyddyn gwaethaf erioed imi yn yr ardd mi wnes i allu llwyfanu mewn 7 dosbarth i gyd yn Nhywyn. Yn syfrdanol er fod y llysiau dipyn yn is o ran safon eleni mi wnes i gael 7 cyntaf!
Mae'r tatws yn bell o safon rhai llynedd ond dwi reit ffyddiog y caf ddigon o rai o weddill y bagiau ar gyfer y Welsh Branch a'r National oherwydd dim ond 4 bag o bob un wnes i orfod gwagu i gael y setiau yma.
Dwi braidd yn siomedig yn y moron byr ac bu'n rhaid imi godi mwy nac oeddwn wedi fwriadu er mwyn cael set dda o 3.
Mae'r nionod 250g wedi troi allan yn dda iawn eleni ac yn dangos fod modd eu tyfu heb lawer o ffwdan mewn potiau 10ltr yn cynnwys dim ond compost Levington M3. Yr unig fai sydd arnynt ydi eu bod braidd yn ysgafn ac dim ond yn pwyso tua 220g.
Heb os nac oni bai rhain ydi'r tomatos gorau imi eu tyfu erioed er fod yna nifer o farciau arnynt. Tydi'r marciau ddim i'w gweld ar y lluniau yma ond maent ar y mwyafrif yn y ty gwydyr ac dwn i ddim beth yw'r rheswm hyd yma, dwi'n gobeithio cael holi Charles Maisey yn dwll wythnos i ddydd sadwrn yn Mhen y Bont.
Hwn oedd y casgliad bychan o lysiau ac roeddwn yn hynod o falch o sgorio 13 a 1/2 allan o 15 am y nionod 250g, sy'n dangos er eu bod braidd yn ysgafn na fyddant yn edrych allan o le ar y bwrdd yn y National diwedd mis nesa.