Ar ol blwyddyn go lewyrchus mae paratoadau tuag at tymor 2012 yn cychwyn rwan! Dwi'n hoff o glirio'r ardd yn gyfan gwbl er mwyn cael cychwyn hefo darn o dir sydd yn rhydd o unrhyw chwyn a llanast sydd yn tyfu yn raddol dros y flwyddyn. Mae cael canfas newydd i weithio hefo pob amser yn gwneud hi'n haws cychwyn ar y gwaith.
Dwi wedi penderfynnu canolbwyntio ar 5 neu 6 o wahanol lysiau flwyddyn nesa yn hytrach na trio tyfu pob dim. Pwrpas hyn ydi trio meistroli rhai llysiau er mwyn cael safon uchel yn hytrach na nifer fawr o lysiau sydd o safon gweddol.
Bydd tatws yn cymeryd rhan fawr o'r ardd oherwydd dwi'n bwriadu plannu oddeutu 120 o polypots flwyddyn nesa er mwyn tyfu mwy o amrywiaeth yn o gystal a chael mwy o datws i ddewis ohonynt ar gyfer y sioeau. Un mantais arall am dyfu tatws ydi'r ffaith fod yna llai o waith edrych ar eu holau i'w gymharu a nionod mawr a chenin er enghraifft felly yn gadael mwy o amser imi ganolbwyntio ar dyfu tomatos. Dros y blynyddoedd diwethaf tydw i heb allu meistroli rhain am ryw reswm, yn anffodus maent wedi dioddef o botritis pob tymor hyd yma er gwaethaf fy ymdrechion i'w atal.
Dwi am barhau i dyfu moron hir a byr ar ol cael cryn lwyddiant yn lleol eleni ac wedi dechrau paratoi y gwely yn y twnel yn barod gan dynnu'r mix compost o'r tywod yn defnyddio'r beipen ddraenio wnes i ddefnyddio i wneud y 'bore holes'.
Wrth wneud hyn mae hi'n golygu byddaf yn gallu ail ddefnyddio'r tywod am rai blynyddoedd cyn ei newid am dywod newydd. Byddaf yn sterileiddio'r tywod hefyd cyn plannu eto flwyddyn nesa.
Dwi wedi bod mewn penbleth i ddweud y gwir ynglyn a tyfu nionod mawr flwyddyn nesa oherwydd dwi methu'n lan a chael hwyl arni. Felly pan ges i alwad ffon noson o'r blaen gan Graeme Watson , arbenigwr mewn tyfu moron sydd wedi ennill yn gyson ar y lefel uchaf, dwi wedi penderfynnu gwneud gwely arall ar gyfer tyfu moron byr ar ochr ddeheuol y twnel . Mae hyn yn golygu peidio a thyfu nionod mawr ac sy'n galluogi imi gael mwy o ddewis adeg codi'r moron ar gyfer y sioeau.
Mi gefais sgwrs ddifyr iawn yn trafod dyfrio a gwahanol hadau, roeddwn wedi dotio ei fod mor barod i helpu a rhoi cyngor, rhywbeth sydd yn unigryw i umrhyw fath o gystadlu. Mae pawb yn barod i helpu o fewn y 'National Vegetable Society' sydd yn gwneud y gymdeithas yn arbenig ac angenrheidiol os ydych yn tyfu llysiau.
Felly flwyddyn nesa bydd yna wely arall o dywod yn rhedeg lawr y twnel ond bydd yna res o genin yn parhau i fod lawr y cannol. Y gobaith ydi fod y cenin yn mynd i fod mewn dipyn o gysgod tu ol i'r gwely moron newydd felly yn gwneud i'r cenin dynnu ar i fyny yn gynt.