Er fod y tymor arddangos wedi dod i ben erbyn hyn mae yna ddigon o bethau dwi angen wneud yn yr ardd er mwyn paratoi tuag at flwyddyn nesa. Y peth cyntaf wnes i wneud ar ol Sioe Cerrig oedd dechrau'r broses o gael 'gwair cenin' (leek grass). I gyd ydi hyn ydi ail blannu'r cenin ac ei dyfu ymlaen fel ei fod yn mynd i hadyn er mwyn cynhyrchu cenin fy hun.
Mae'r broses reit hawdd mewn theori, ond dwi'n benderfynnol o roi cynnig arni. Proses sy'n cael ei alw'n 'vegetative propogation', y mantais mwyaf ydi fod rhywun yn gallu cario'r un straen ymlaen felly yn cadw'r safon yn uchel.
Dyma'r broses o gychwyn ar y daith:
Yn gyntaf dwi'n dewis y cenin gorau ac yn torri oddeutu 6" o'r barel ac yn cwtogi'r gwreiddiau yn barod i'w ail blannu mewn potyn. Penderfynais ddefnyddio compost Levington M3, dwn im os ydi'r math o gompost yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ddweud y gwir. Gwneud y siwr fod gennych help i lenwi'r potyn!
Yna plannu'r ddau tua 2 i 3 modfedd i lawr yn y compost a gobeithio erbyn tua mis Hydref 2012 bydd genai flodyn yn llawn o wair cenin yn barod i'w potio.
Mae'r potyn wedi cael ei roi yn y twnel rwan tan y gwanwyn lle gaiff fynd allan bryd hynny. Ni fydd rhaid ei ddyfrio yn aml dim ond gwneud yn siwr eu bod yn tician drosodd dros y misoedd nesa.
Mae gweddill yr ardd yn erdych yn druenus o llwm ar hyn o bryd, dim ond y beetroot sydd ar ol bellach ac bydd rhain yn cael eu codi rwet fuan er mwyn eu piclo. Un peth dwi'n hynnod falch ohono ydi'r blodfresych 'graffiti' wnes i blannu reit hwyr yn y dydd. Maent i gyd wedi eu codi bellach oherwydd roeddynt mor flasus, yn sicr byddaf yn plannu mwy o rhain flwyddyn nesa, roeddynt wedi gadael cryn argraff ar nifer o fobl gan gynnwys plant yn meithrinfa 'Twt Lol'.
Dwi wedi bod yn tyfu llysiau ers 2008, yn bennaf ar gyfer arddangos mewn sioeau. Pwrpas y blog hwn yw dangos sut mae mynd ati i dyfu cynnyrch sydd yn haeddu ei le nid yn unig ar y bwrdd arddangos ond hefyd ar y bwrdd bwyta.
Tuesday, 20 September 2011
Monday, 5 September 2011
SIOE CERRIG
Hon ydi'r sioe lleiaf o ran maint rydw i yn cystadlu ynddi ond gan mai hon ydi fy sioe lleol hon ydi'r pwysicaf hefyd. Heb y sioeau bach nid oes modd cynnal y sioeau mawr oherwydd yma ar y gwaelod mae rhywun yn dysgu ei grefft o arddangos ac sydd yn gam cyntaf tuag at arddangos ar y lefel uchaf.
Roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus er gwaethaf y tywydd. Enillais dair cwpan i gyd yn cynnwys yr 'Arddangosfa Gorau yn Adran y Llysiau', 'Arddangosfa Gorau yn Adran y Tatws' ac hefyd 'Mwyaf o Bwyntiau yn yr Adran Garddwriaeth'
Erbyn hyn doedd safon fy llysiau ddim mor uchel a'r sioeau cynharaf ond er gwaethaf hyn mi gefais 12 cynta i gyd. Dyma rhai o luniau o'r rhai buddigol:
Y casgliad yma o dri math o datws oedd yr arddangofa gorau yn adran y llysiau, ond roedd rhanfwyaf o fobl yn holi a son am y moron hir ar stump enfawr oeddwn yn arddangos. Mae rhywun yn cael gwell golwg ohono pan mae fy merch Lleucu yn gafael ynddo.
Wel dyne ni blwyddyn arall wedi dod i ben ac heb os nac oni bai y flwyddyn orau erioed. Dwi'n erdrych ymlaen yn barod i flwyddyn nesa ac wedi bod yn pendroni yn barod ar sut dwi'n mynd i wella rhai pethau dros y gaeaf yn barod i'r tymor newydd. Dyma lun o'r holl gwpanau dwi wedi eu hennill eleni, gobeithio caf ur un llwyddiant flwyddyn nesa.

Subscribe to:
Posts (Atom)