Mae prynnu'r hadau gorau ar cyltifar gorau ym mhob adran yn angenrheidiol os ydych eisiau cael llwyddiant ar fyrddau'r sioe. Hadau Medwyn Williams dwi'n ddefnyddio gyda'r mwyafrif o lysiau ac dwi'n prynnu planhigion sydd wedi eu cychwyn gan Medwyn sef y Nionod a'r Cenin. Y rheswm pennaf am hyn ydy'r gost o wresogi'r ty gwydyr. Dwi fel arfer yn derbyn y planhigion rhwng mis Chwefror a mis Mawrth syn golygu fod y tywydd yn dechrau cynhesu ychydig yn ogystal a'r dydd yn ymestyn.
O ran yr hadau Tatws, dwi wedi archebu rhain ddoe gan http://www.jbaseedpotatoes.co.uk/ sy'n arbennigo yn y maes hwn ac yn cynnig hadau o safon uchel ar gyfer arddangos. Mi gefais sgwrs reit ddifyr hefo Iain Barbour ar y dull gorau o dyfu, felly gobeithio gai dipyn o lwyddiant flwyddyn nesa.
Penderfynnais fynd am 3 gwahanol fath o daten:
- NVS AMOUR
- NVS SHERINE
- KESTREL
Dyma un dosbarth yn fy sioe lleol eleni. Doedd y safon ddim yn uchel o gwbl oherwydd fy nghasgliad i Wilja ennillodd, er doeddynt ddim yn gyltifar sy'n benodol ar gyfer sioe. Roedd nifer fawr or rhain wnes i godi yn dioddef o scab, rhywbeth dwin obeithio osgoi wrth ddewis cyltifar sydd mor amlwg ar y byrddau sioe.