Monday, 1 August 2011

PRYD I GODI?

Bellach mae yna 13 wythnos wedi pasio ers imi blannu'r tatws felly noson o'r blaen mi godais fag o NVS Amour, bag o Kestrel a bag o Cassablanca i weld os oedd hi'n amser eu codi.
Y Kestrel yw'r rhain ac maent yn ymddangos ynrhydd o unrhyw farc neu afiechyd a dau neu dri yn dangos potensial o fod ddigon da i arddangos. Ychydig yn fach o ran maint ydynt ar hyn o bryd gyda'r gorau yn pwyso jest dros 6oz, y pwysau delfrydol ydi 7oz. Roedd canlyniadau y bag Amour tua'r un fath ond roedd y Cassablanca i gyd yn fach iawn.
Dwi wedi penderfynnu eu gadael i dyfu am tua wythnos arall ond am adael i'r Cassablanca gael o leiaf pythefnos arall.

Mae pob dim arall i'w gweld yn dod reit dda, er imi orfod codi un moryn hir neithiwr ar ol sylwi ei fod wedi rhedeg i hadyn. Jest gobeithio fod y lleill ddim am wneud yr un peth.


Yr unig beth da am gael codi un ohonynt ydi'r ffaith nad ydio wedi fforchio o gwbl felly dwi'n gobeithio fod y gweddill sydd ar ol yn y gwely yr un fath.

Saturday, 23 July 2011

Y SIOEAU YN AGOSAU

Mae'r wythnosau nesaf yn holl bwysig os wyf am gystadlu am y cardiau coch yn y sioeau. Gall nifer o bethau fynd yn anghywir yr adeg yma, felly mae hi'n gyfnod prysur a phetrusgar er mwyn gwneud yn siwr fod pob dim yn dod yn ei flaen fel maent i fod a bod unrhyw broblemau sy'n codi ei ben yn cael ei ddatrys yn sydyn.
Cyfnod o dyfiant sydyn ydi'r mis nesaf  'ma gyda nifer o lysiau fel y blodfersych a'r moron yn gallu dyblu mewn maint mewn cwta pedair wythnos.

Bellach mae'r moron byr yn y twnel wedi bod yn tyfu ers tua 15 wythnos felly dwi'n gobeithio wnaiff y 6 i 7 wythnos nesa roi'r cyfle iddynt ddatblygu 'stump end' sy'n angenrheidiol ar gyfer y bwrdd arddangos. Un arwydd reit bendant fod hyn yn digwydd ydi gweld y moryn yn dechrau gwthio ei hun allan o'r tywod, felly mae'n rhaid codi'r tywod er mwyn ei orchuddio a'i ddiogelu rhag cael golau. Os wnaiff y moryn gael gormod o haul arno mi droith yn wyrdd gan ei wneud yn ddiwerth ar gyfer arddangos.

Yn anffodus noswaith or blaen mi sylwais ar un wedi hollti felly mi godais o yn syth i ddarganfod ei fod wedi ei fwyta gan bry! Jest gobeithio fod y gweddill ddim yr un fath.
Erbyn hyn mae nifer ohonynt yn ymddangos yn fawr iawn.
O ran y moron hir, mae rhain yn ymddangos llawer gwell na llynedd gyda'r dail yn ymestyn dros 2 droedfedd ac yn edrych yn iach eithriadol hyd yma. Y broblem hefo tyfu gwreiddiau hir ydi'r ffaith nad ydych yn gwybod safon y moron neu'r panas neu'r beetroot tan y diwrnod cyn y sioe pan mae hi'n amser eu codi. Jest gobeithio fod twf y gwraidd yr un mor dda a'r dail.

Y siom mwyafdwi wedi ei gael dros yr wythnosau diwethaf ydi'r cenin sy'n tyfu yn y twnel. Dwi'n trio rhoi dos o SB Plant Invigorator iddynt bob rhyw bythefnos er mwyn eu cadw rhag unrhyw blau neu afiechyd ond pan es i ati i'w ail coleru hefo coler 21" mi ddarganfyddiais nifer ohonynt hefo tullau reit ar waelod y 'shaft'.

Mae'r tyllau yn ymddangos reit ddyfn oherwydd mi dynnais nifer o haenau i ffwrdd dim ond i'r tyllau barhau i ddangos. Credaf mai malwod sydd wedi eu difrodi ond dwi ddim yn hollol siwr, dwi wedi gwasgaru dipyn pelets i drio eu dal. 
Heblaw am diawled bach mae safon y Pendle Improved yn reit dda ac maent dipyn mwy na'r Welsh Seedling sy'n tyfu tu allan.



Er fod y rhai sy'n tyfu tu allan llawr llai dwi'n hynod o hapus hefo'r safon ac hwyrach mai rhain byddaf yn arddangos yn Llangollen.

Yng ngweddill yr ardd mae pob dim i'w gweld yn dod yn eu blaenau yn dda gyda'r tomatos yn y ty gwydyr yn dechrau troi lliw, jest iawn i fis yn gynt na llynedd oherwydd y gwres ar cychwyn cynnar a gawsant.
Mae hi'n bwysig torri dipyn o ddail i ffwrdd o'r planhigion fel maent yn dechrau troi lliw er mwyn iddynt gael digon o awyr iach a golau o amgylch y ffrwythau.

Erbyn hyn mae'r blodfresych i gyd wedi cael eu gorchuddio gan 'Enviromesh' sy'n wych ar gyfer cadw'r gloynnod byw i ffwrdd ond yn gadael i'r glaw basio drwyddo. Dros y blynyddoedd diwethaf mae lindys wedi difrodi'r planhigion yn ofnadwy felly'n gwneud hi'n anodd cael digon ohonynt ar gyfer arddangos. Y gobaith ydi fod y mesh hwn am ddatrys y broblem.

Mae'r beetroot braidd yn araf deg ond dwio reit ffyddiog bydd gen i rai wedi dod i'r maint priodol erbyn sioe sir sydd ar y 24 o Awst yn y Bala. Ond mae'r beetroot hir yn y pibau i'w gweld yn tyfu'n gryf iawn.

Y gobaith yn y pythefnos nesa ydi codi'r holl datws gan groesi bysedd eu bod wedi cyraedd y maint priodol sef rhwng 6 a 7 owns. Mi godai un bag nos lun nesa ma i weld os ydynt wedi gwneud hyn neu os ydynt angen wythnos neu ddau arall. Tan tro nesa...

Sunday, 10 July 2011

BLASU TATWS

Doedd gen i ddim byd i swper neithiwr felly mi benderfynais godi bag o datws cynnar sef yr NVS Sherine. Roedd y dail ar rhain wedi tyfu llawer cynt na'r gweddill fell er mai dim ond 10 wythnos oedd wedi bod ers eu plannu roeddwn yn reit ffyddiog o gael tatws gweddol fawr. Erbyn hyn mae'r holl datws wedi tyfu yn eithriadol o dda ac un sicr rhain yw'r cnwd gorau imi eu tyfu, gyda'r dail yn ymddangos yn hynnod iach ar ol cael dau ddos o dithane a nutrimate. Tydi rhywun ddim yn ei weld cystal mewn llun ond coelich chi fi mae'r dail wedi tyfu i fod tua 4 troedfedd o uchder felly mae genai obeithion mawr am rhain eleni.

Roedd y gwreiddiau wdi llenwi'r polypot ac yn ymddangos wedi dod drwy'r tyllau yn ei wealod ac wedi ymestyn i'r pridd o tano.
Ond wrth falu'r compost i ddarganfod y tatws braidd yn siomedig oeddwn o ran maint y tatws.
Er gwaethaf hyn roedd safon croen a lliw y tatws yn eithriadol o uchel ac os ddaw y tatws o weddill y bagiau gyda'r un safon byddaf yn hynod o hapus. Mae hi'n amlwg eu bad angen o leiaf pythefnos arall cyn eu codi, ond dwi'n credu mi adawi iddynt am tua pedair wythnos oherwydd y rhew a gawsant rhai wythnosau yn ol. Beth oedd yn hynod o galonogol oedd pan es i a nhw i'w golchi roeddynt mor hawdd i gael yn lan. Dim ond eu rhedag dan y tap ac daeth pob mymryn o bridd oddi arnynt, tydi rhywun ddim cael hynny pan maent wedi eu plannu yn uniongyrchol yn y pridd. Yn sicr, y polypot a chompost ydi'r ffordd ymlaen.

Roeddwn yn disgwyl cael tatws di-flas i ddweud y gwir oherwydd eu bod wedi eu tyfu mewn compost, ond rhain oedd y tatws mwyaf blasus imi eu fwyta ers cryn amser. Edrychaf ymlaen at ddechrau mis nesa pan fyddaf yn codi'r cwbl.

Thursday, 7 July 2011

Y CENIN A'R FRENCH BEANS

Mae'r cenin bellach wedi cael coler 18" oherwydd y tyfiant cryf sydd wedi bod dros y mis diwethaf, enwedig y Pendle Improved. Yn sicr mae'r twnel wedi cael cryn effaith a'r gyflymder twf y planhigion ond hefyd a'r ansawdd a safon pob un.

Mae'r Pendle Improved tua mis o flaen lle'r o'n ni flwyddyn diwethaf ond mae'r Welsh Seedling sydd yn y gwely tu alln tua'r un lle a llynedd. Er gwathaf hyn dwi wedi coleru y cwbl hefo coleri 18" gan obeithio eu hymestyn yn gynt na wnes i llynedd.


Dwi wedi bod yn poeni ychydig fod i cenin yn y twnel yn dod yn eu blaenau rhy sydyn felly yn berig o chwythu eu plwc cyn diwedd awst gan fynd i hadyn cyn cael y siawns i'w harddangos. Ond hyd yma maent yn ymddangos yn iach ac i'w gweld yn tyfu bob dydd. Cawsant ddos o SB Plant Invigorator cyn cael eu coleru i fynnu, mi ddefnyddiais i hwn llynedd gyda canlyniadau gwych. Nid yn unig ydi o'n rhoi bwyd i'r planhigion drwy'r dail ond hefyd yn gweithio fel 'pestiside' yn erbyn nifer o phlau gwahanol.

Yn yr wythnosau nesaf dwi'n gobeithio codi rhanfwyaf o'r nionod fel maent yn tyfu i'r maint priodol felly y gobaith ydi plannu 'french beans' yn gwely. Mi wnes i hau'r hadau hyn ar y 15ed o Fehefin sydd rhwng 10 ac 11 wythnos cyn sioe Llangollen.
Eginodd yr hadau yn sydyn iawn o fewn wythnos ac erbyn maent wedi cael eu potio ymlaen i botiau 5".

Bydd rhaid potio rhain ymlaen eto nes fydd y gwely nionod wedi cael ei ryddhau ar au cyfer. Dyma'r tro cyntaf imi drio tyfu rhain ar gyfer arddangos felly mi fydd hi'n ddiddorol sut eith hi yn yr wythnosau nesaf!

Wednesday, 22 June 2011

BLIGHT!

Newydd gael text gan y Potato Council yn rhybuddio fod yna siawns o gael blight ar y tatws yn y diwrnodau nesaf yn fy ardal i. Mae'r gwasanhaeth hwn gan http://www.blightwatch.co.uk/ yn uffen o handi ermwyn cael cyfle i roi dos o Dithane i'r dail cyn i'r afiechyd gael siawns i daro'r cnwd. Mi ai ati i pnawn ma' rhyw ben gobeithio.

Sunday, 19 June 2011

SUL Y TADAU

Heddiw mi gefais ddiwrnod reit llewyrchus yn yr ardd gan dacluso dipyn ar y lle a chael gorffen paratoi rhesi y blodfresych. Dwi eisioes wedi plannu pedair rhes ohonynt, 2 res o Cornell a rhes yr un o Beauty a Trail Coli gan Medwyn. Gan blannu dwy res arall o Cornell wythnoss nesa 'ma dylai hyn alluogi imi gael nifer o blanhigion yn aeddfedu dros ddyddiadau y sioeau tua diwedd Awst. Dyma beth sy'n gwneud tyfu blodfresych mor anodd. Hawdd iawn ydi cael y cwbl yn dod hefo eu gilydd wythnos cyn y sioe neu yn dod rhy hwyr ac yn aeddfedu wythnos ar ei hol. Er mwyn cynyddu'r siawns o gael planhigon yn dod ar yr amser cywir mae hi'n holl bwysig hau nifer o weithiau wythnos ar ol y llall.

Eleni mi wnes i hau y hadau cyntaf ar Fai 11 sydd oddeutu 15 wythnos cyn y sioe fawr yn Llangollen, wedyn mi blannais eto wythnos yn ddiweddarach, dylai hyn roi digon o amser iddynt flodeuo ar yr adeg cywir iddynt dyfu yn ddi-dor tan y sioe. Dyma'r gyfrinach hefo tyfu blodfresych, gwneud yn siwr eu bod yn tyfu drwy'r adeg. Mae unrhyw gyfnod o sychder yn siwr o atal y tyfiant felly yn siwr o olygu methiant gan gael blodyn sy'n ffurfio yn rhy gynnar neu yn flodyn sy'n llawer rhy fach i arddangos.
 
Y peth cyntaf dwi'n ei wneud ydi tyllu trench tua 8" da o ddyfnder ac yna ei lenwi hefo tua 6" o dail, tro hwn am y tro cyntaf erioed dwi wedi penderfynnu defnyddio tail ceffyl.
Yn wahanol i nifer o arddwyr eraill dwi ddim yn cymysgu'r tail hwn i'r gwely ond yn hytrach yn ei adael yn y trench dim ond yn ei orchuddio hefo pridd gan adio dipyn o Perlka a Tev4 iddo.
Os ydi amser yn caniatau dwi'n gadael i'r rhes setlo yn naturiol am tua wythnos cyn plannu'r planhigion ynddo. Yna pan mae'r planhigion yn barod i'w trawsblannu, fel arfer maen't hefo tua 4 deilen erbyn hyn dwi'n eu plannu tua 20" rhwng bob un a tua 30" rhwng y rhesi.
Dyma'r ddwy res o Cornell wnes i blannu dydd Mawrth diwethaf felly bydd dwy res arall yn mund lawr dydd Mawrth yma gobeithio.

Mae gweddill yr ardd erbyn hyn yn dod yn ei flaen yn dda iawn. Er gwaethaf y rhew a gawsom pythefnos yn ol mae'r tatws wedi rasio ymlaen enwedig y rhes gyntaf wnes i blannu o NVS Sherine sydd yn daten gynnar.
Dwi'n gobeithio cael codi rhain o ddiwedd Gorffennaf ymlaen gan adael digon amser imi gael eu sortio cyn y sioeau.

Mae'r beetroot hir yn y pibau i'w gweld yn tyfu reit gryf erbyn hyn, ond mwe'r moron byr sy'n tyfu yn y twnel yn edrych yn eithriadol o addawol hyd yma gyda'r dail yn ymestyn 18". Gwybod yn union faint o ddwr i roi iddynt ydi'r gamp hefo rhain oherwydd eu bod dan do. Hawdd ydi peidio rhoi digon felly canlyniad hynny fuasai cael moron wedi fforchio, ond mae hi'n amhosib gwbod yn iawn tan y diwrnod cyn y dioe pan byddaf yn tynnu y rhai cyntaf gan weld yn union os ydi fy nhechneg dyfrio i wedi gweithio.
Mae'r nionod 250g sy'n tyfu yn y twnel yn erdych yn iach iawn ac yn mesur oddeutu 6" o amgylch erbyn hyn, bydd rhaid cadw llygad craff iawn arnynt cannol mis gorffennaf oherwydd byddaf yn eu codi pan maent yn mesur oddeutu 10" ermyn eu cadw dan 250g.
Er imi golli nifer o'r nionod mawr, mae'r rhai sydd yn weddill yn edrych yn addawol hyd yma ac y mwyaf yn mesur 10" o amgylch.
Dylai rhain ddechrau clapio o ddifri mis nesa 'ma gan gyraedd 20" nue fwy gobeithio erbyn diwedd Gorffennaf pryd bydd rhaid eu codi i aeddfedu.

Tan tro nesa...

Thursday, 16 June 2011

RHEW!

Mai'n anodd credu ond mi rewodd hi yma nos wener/bore sadwrn er ei bod hi'n fis mehefin i fod, a'r diwrnod hira nepell pythefnos i ffwrdd! Yn ffodus roedd fy nhad wedi rhagweld y digwyddiad ac roeddynt wedi gorchuddio'r tatws hefo fleece.
Yn syfrdannol roedd y dail oedd yn cyffwrdd y fleece wedi cael eu difrodi gan y rhew er gwaethaf y gorchydd. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn rew caled oherwydd roedd y themomedr yn y twnel yn dangos ei bod hi wedi disgyn i 0C tu mewn i'r twnel felly beth a wyr beth oedd hi tu allan?
Berig os na faswn wedi eu gorchuddio mi fuasai'n ta ta ar ddangos tatws o safon yn sioeau ha' ma'. Dylent ddod drwyddi ond bydd rhaid au gadael yn y tir am rhyw bythefnos yn ychwanegol nac oeddwn yn bwriadu er mwyn rhoi cyfle iddynt ddod dros y cam yn ol maent wedi ei gael.

Mi benderfynnais godi'r shallots i gyd wythnos diwethaf oherwydd sylwais fod rhai wedi cychwyn ar eu hail gyfnod o dyfiant felly roedd y bylbiau yn paratoi i dorri'n ddau eto. Mae hi'n bwysig eu codi cyn i hyn ddigwydd neu mae'r bylbiau yn mynd i fod yn ddiwerth ar gyfer sioe gan fynd allan o siap.
Y peth cyntaf wnes i oedd rhoi fforch o dan pob clwstwr er mwyn gwneud yn siwr fod y planhigion ddim yn cael unrhyw fath o fwyd na glaw tra roeddwn yn paratoi safle iddynt gael sychu. Tra roeddynt yn sychu ar wyneb y pridd mi es ati i wneud ffram hefo coed a 'chicken wire' i'r shallots gael gorwedd arni i gael sychu'n drylwyr er mwyn iddynt gadw at pob sioe ond yn bwysicach iddynt gadw at flwyddyn nesa er mwyn eu hail blannu.
Mae yna dros gant ohonynt ar y ffram yn sychu. Dwi wedi eu gosod allan fel fod y dail yn gwynebu ychydig ar i lawr fel fod y glaw neu unrhyw leithder yn llifo i ffwrdd o'r shallots felly yn lleihau y siawns o'r bylbiau yn troi yn ddrwg felly yn anhebygol o gadw at flwyddyn nesa. Er fod yna nifer fawr ohonynt yma a'r mwyafrif yn mesur rhwng 40mm a 50mm, anodd iawn fydd cael 12 yr un fath ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen.

Dros yr wythnosau diwethaf mae yna gryn dipyn wedi cael ei gyflawni ar y patch a phob dim bron iawn wedi ei blannu erbyn hyn. Wrthi'n plannu'r blodfresych dwi ar hyn o bryd gan blannu un rhes ar ol y llall gan adael chydig ddiwrnodau rhwng bob rhes dros gyfnod o bythefnos. Wrth wneud hyn dwi'n gobeithio cael planhigion fydd yn cyraedd eu gorau dros ddyddiadau y sioeau ac ddim yn dod hefo eu gilydd ar unwaith yn un haid fawr.
Mae batri'r camera'n fflat ar hyn o bryd ond mi roi luniau yma dros y penwythnos i ddangos sut mae pob dim yn dod yn ei flaen.