Sunday 19 June 2011

SUL Y TADAU

Heddiw mi gefais ddiwrnod reit llewyrchus yn yr ardd gan dacluso dipyn ar y lle a chael gorffen paratoi rhesi y blodfresych. Dwi eisioes wedi plannu pedair rhes ohonynt, 2 res o Cornell a rhes yr un o Beauty a Trail Coli gan Medwyn. Gan blannu dwy res arall o Cornell wythnoss nesa 'ma dylai hyn alluogi imi gael nifer o blanhigion yn aeddfedu dros ddyddiadau y sioeau tua diwedd Awst. Dyma beth sy'n gwneud tyfu blodfresych mor anodd. Hawdd iawn ydi cael y cwbl yn dod hefo eu gilydd wythnos cyn y sioe neu yn dod rhy hwyr ac yn aeddfedu wythnos ar ei hol. Er mwyn cynyddu'r siawns o gael planhigon yn dod ar yr amser cywir mae hi'n holl bwysig hau nifer o weithiau wythnos ar ol y llall.

Eleni mi wnes i hau y hadau cyntaf ar Fai 11 sydd oddeutu 15 wythnos cyn y sioe fawr yn Llangollen, wedyn mi blannais eto wythnos yn ddiweddarach, dylai hyn roi digon o amser iddynt flodeuo ar yr adeg cywir iddynt dyfu yn ddi-dor tan y sioe. Dyma'r gyfrinach hefo tyfu blodfresych, gwneud yn siwr eu bod yn tyfu drwy'r adeg. Mae unrhyw gyfnod o sychder yn siwr o atal y tyfiant felly yn siwr o olygu methiant gan gael blodyn sy'n ffurfio yn rhy gynnar neu yn flodyn sy'n llawer rhy fach i arddangos.
 
Y peth cyntaf dwi'n ei wneud ydi tyllu trench tua 8" da o ddyfnder ac yna ei lenwi hefo tua 6" o dail, tro hwn am y tro cyntaf erioed dwi wedi penderfynnu defnyddio tail ceffyl.
Yn wahanol i nifer o arddwyr eraill dwi ddim yn cymysgu'r tail hwn i'r gwely ond yn hytrach yn ei adael yn y trench dim ond yn ei orchuddio hefo pridd gan adio dipyn o Perlka a Tev4 iddo.
Os ydi amser yn caniatau dwi'n gadael i'r rhes setlo yn naturiol am tua wythnos cyn plannu'r planhigion ynddo. Yna pan mae'r planhigion yn barod i'w trawsblannu, fel arfer maen't hefo tua 4 deilen erbyn hyn dwi'n eu plannu tua 20" rhwng bob un a tua 30" rhwng y rhesi.
Dyma'r ddwy res o Cornell wnes i blannu dydd Mawrth diwethaf felly bydd dwy res arall yn mund lawr dydd Mawrth yma gobeithio.

Mae gweddill yr ardd erbyn hyn yn dod yn ei flaen yn dda iawn. Er gwaethaf y rhew a gawsom pythefnos yn ol mae'r tatws wedi rasio ymlaen enwedig y rhes gyntaf wnes i blannu o NVS Sherine sydd yn daten gynnar.
Dwi'n gobeithio cael codi rhain o ddiwedd Gorffennaf ymlaen gan adael digon amser imi gael eu sortio cyn y sioeau.

Mae'r beetroot hir yn y pibau i'w gweld yn tyfu reit gryf erbyn hyn, ond mwe'r moron byr sy'n tyfu yn y twnel yn edrych yn eithriadol o addawol hyd yma gyda'r dail yn ymestyn 18". Gwybod yn union faint o ddwr i roi iddynt ydi'r gamp hefo rhain oherwydd eu bod dan do. Hawdd ydi peidio rhoi digon felly canlyniad hynny fuasai cael moron wedi fforchio, ond mae hi'n amhosib gwbod yn iawn tan y diwrnod cyn y dioe pan byddaf yn tynnu y rhai cyntaf gan weld yn union os ydi fy nhechneg dyfrio i wedi gweithio.
Mae'r nionod 250g sy'n tyfu yn y twnel yn erdych yn iach iawn ac yn mesur oddeutu 6" o amgylch erbyn hyn, bydd rhaid cadw llygad craff iawn arnynt cannol mis gorffennaf oherwydd byddaf yn eu codi pan maent yn mesur oddeutu 10" ermyn eu cadw dan 250g.
Er imi golli nifer o'r nionod mawr, mae'r rhai sydd yn weddill yn edrych yn addawol hyd yma ac y mwyaf yn mesur 10" o amgylch.
Dylai rhain ddechrau clapio o ddifri mis nesa 'ma gan gyraedd 20" nue fwy gobeithio erbyn diwedd Gorffennaf pryd bydd rhaid eu codi i aeddfedu.

Tan tro nesa...

No comments:

Post a Comment