Saturday 26 March 2011

ANGEN DIWRNODAU 26 AWR!

Mae'r tywydd wedi bod yn hynod ffafriol yn yr wythnosau diwethaf ond fy amser i yn hynod brin i gael mynd i'r ardd. Rwyf yn hynod lwcus fy mod yn gweithio mor agos i adre ac fod gen i ardd mor fawr hefo'r ty, duw a wyr sut mae'r garddwyr gyda allotment yn i gwneud hi! Mae'r penwythnos nesa 'ma yn rhywfath o drobwynt yn yr ardd gan fod y clociau'n troi. Mae hyn yn galluogi imi gael amser i wneud pethau min nos ar ol dod adre o'r gwaith.
 
Er gwaethaf yr amser prin dwi wedi ei gael yn yr ardd dwi wedi gallu cyflawni dipyn o dasgau, gan gynnwys potio'r nionod mawr ymlaen i botiau 4" tua 9 or gloch nos Fercher gyda golau lamp!

Roeddwn yn hynod o hapus hefo datblygiad strwythr y gwreiddiau ac roedd hi'n hen bryd eu potio ymlaen.





Y moron byr dwi wedi bod yn canolbwyntio arno yn ddiweddar, gan baratoi y cymysgedd. Mae'r moron byr dwi'n ei blannu eleni sef Sweet Candle angen oddeutu 22 wythnos i gyraedd eu llawn potensial a dangos 'stump end' sy'n angenrheidiol ar gyfer y bwrdd arddangos. Mae'r broses o greu'r cymysgedd compost yn waith llafurus iawn gan fod angen rhoi'r compost drwy ridyll man i gael gwared o unrhyw lympiau a darnau o goed sy'n bresenol ynddo. Wrth wneud hyn rwyf yn fwy tebygol o gael gwreiddiau glan heb unrhyw farc arnynt.

Gan fy mod angen rhoi 6 bag trwy ridyll wnes i wneud un fy hun oedd digon mawr i gymryd traean o fag compost ar y tro felly yn gwneud y gwaith llawr cynt. Roeddwn yn hongian y rhidyll ac yn ei ysgwyd nol a mlaen fel bod y compost yn disgyn i'r llawr gan adael y darnau mawr yn y rhidyll, wrth wneud hyn roeddwn yn gwneud bag bob chwarter awr.

Ar ol gwneud hyn roeddwn yn ei roi mewn micsar concrit er mwyn adio dipyn o gynhwysion  i'r cymysgedd.









Dyma'r cymysgedd dwi am ddefnyddio eleni:

75ltr o Levington F2S
25ltr o Vermiculite gradd canolig
12oz o Seeweed Meal
12oz o TEV4 (mae o'r un fath a Vitax Q4 ond yn rhatach)
40ml o Nutrimate Powder
10ltr o Ddwr yn cynnwys Nutrimate Liquid




I gyd sydd angen ei wneud wedyn ydi paratoi y tyllau. Dwin'n gwneud hyn gyda template pren sydd wedi ei fesur fel fod cannol pob twll 7" oddi wrth eu gilydd. Peipen 3" dwi'n ddefnyddio i gael y tywod allan, ac mae hyn yn hawdd iawn trwy wthio'r beipen lawr i'r tywod yna ei dynnu yn ol i fynnu yn cynnwys y tywod.






Mae yna 48 o foron yn mynd i'r gwely hwn yn y pollytunnel ac roedd un cymysgedd yn ddigon iw lenwi. Mi blannais yr hadau ynddo ddydd Gwener union 22 wythnos cyn y sioe yn Llangollen, gan drio eu rhoi union yng nghannol y tyllau tue 1/2 modfedd o dan y wyneb ac gyda 5 hadyn ym mhob twll. Pan fydd y dail tua modfedd o uchder byddaf yn tynnu y gwanaf ohonynt ac yn gadael i'r cryfa dyfu ymlaen.

Bydd y ffordd yma o dyfu moron byr yn brofiad newydd imi eleni oherwydd eu bod dan do felly bydd rhaid imi wneud yn siwr fod ganddynt ddigon o ddwr yn y gwely trwy gydol y tymor felly bydd rhaid eu dyfrio yn aml dwi'n siwr. Ond dwi reit ffyddiog mai dyma'r ffordd ymlaen i wella fy nghynnyrch.





Monday 14 March 2011

TRAWSBLANNU'R TOMATOS

Wnes i drawsblannu'r tomatos ddydd sadwrn tra roedd Cymru yn rhoi grybins i'r Iwerddon! Roedd hi'n hen bryd eu symud ymlaen i ddweud y gwir. Oeddwn i'n bwriadu eu potio nhw pan oedd y dail tua modfedd o hyd ar draws, ond roedd yna rai dipyn mwy na hynny erbyn p'nawn sadwrn.

Allan o 11 o hadau Cedrico roedd yna 9 wedi egino ac allan o 10 hadyn Meccano roedd yna 8 wedi dod i'r wyneb.
Daeth y Cedrico i'r wyneb gyntaf ac mae'r rhain wedi saethu i fynnu llawer cynt na'r Meccano, ond braidd yn gynnar eu cymharu nawr. Gawn ni weld sut maent yn datbygu yn yr wythnosau nesaf.






Y peth pwysicaf i'w gofio wrth drawsblannu tomatos ydi peidio a chyffwrdd yng nghoesyn y planhigyn pan maent mor fach a hyn. Maent yn dueddol o ddioddef  o 'damping off'. Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifo pan mae planhigyn yn cael afiechyd yn sydyn ar ol egino. Does neb yn siwr iawn beth ydi achos yr afiechyd ond rhyw fath o glefyd ffwng ydi o. Pan mea'r planhigyn wedi tyfu cryn dipyn ac wedi cryfhau mae'r siawns o ddioddef o'r afiechyd hwn yn lleihau.





Fel y gwelwch mae yna wreiddyn reit gryf wedi datblygu ac os sylwch mae'r coesyn yn flew man ar ei hyd. Y gyfrinach ydi plannu'r tomato mor ddyfn ac y gallwch nes mae'r dail cyntaf mwy ne lai yn gorwedd ar wyneb y compost.
Mae pob un or blew bychain ar y coesyn nawr am ffurfio yn wreiddiau newydd i'r planhigyn ac yn sicr o greu planhigyn fydd llawer cryfach.






Roeddwn wedi bwriadu eu potio nhw mewn compost growbag sef yr un compost fydd yn y gwlau terfynnol yn y ty gwydyr, ond doeddwn heb gael dim yn barod felly wnes i eu rhoi mewn Levington M3 sydd yn uchel mewn mwynau ac ddylai fod yn ddigon nes eu potio nhw ymlaen.








Dylswn ni fod yn plannu rhain yn eu safle terfynnol o ddeutu mis Mai ac yn cael fy nhomato cyntaf gannol mis Gorffennaf gyda lwc.

Thursday 10 March 2011

CENIN

Daeth y cenin drwy'r post heddiw gan Medwyn Williams. Mae safon y planhigion yn uchel iawn, maen't yn edrych yn iach eithriadol i ddweud eu bod wedi mynd drwy'r system bost!
Penderfynnais eleni drio dau fath sef y 'Welsh Seedling' ac y 'Pendle Improved'. Mae'r Pendle Improved i fod yn gryfach planhigyn yc i fod i fynd yn fwy na'r Welsh Seedling ac yn llai tebygol o ffurfio bwlb ar walod y barel, rhywbeth mae'r Welsh Seedling yn dueddol o'i wneud. Y gyfrinach ydi cadw'r gwely yn llaith a gwneud yn siwr fod gan y planhigion ddigon o ddwr a'r adegau poeth yn ystod y tymor. Mae unrhyw fath o straen ar y cenin yn dueddol o amlygu ei hun fel siap bwlb a'r waelod y barel.
Y Welsh Seedling yw'r rhain ac maen't wedi dod yn eu blaenau dipyn mwy eleni oherwydd dwi wedi eu potio nhw mewn potiau 5". Llynedd wnes i ddefnyddio potiau 3" i gychwyn yna ymlaen i 4" ac wedyn tua mis yn ddiweddarach i'r potiau 5" felly mae rhain yn edrych yn addawol iawn.
Mae'r Pendle Improved rhai wythnosau o ran tyfiant y tu ol i'r Welsh ond dwi'n siwr bydd y Pendle yn dal i fynu oherwydd dwi wedi penderfynnu mai'r Pendle sy'n mynd i'r gwely yn y twnel a'r welsh i'r un gwely a llynedd y tu allan. Y rheswm am hyn ydi fy mod yn gwybod o brofiad canlyniadau y llynedd fod y Welsh wedi rhagori yn y gwely tu allan felly pam newid.
Mae system gwreiddiau'r Welsh yn hynnod drawiadol ac yn sicr o gydio reit sydyn yn eu cymysgedd newydd.
Mae'r cymysgedd dwi wedi ei ddefnyddio yn debyg iawn i'r cymysgedd wnes i ar gyfer y nionod mawr sef 3 rhan o Levington M2, 1 rhan Top Soil, 1 rhan o Vermiculite ac ychydig o Nutrimate Powder.
Byddaf yn cynyddu lefel y pridd bob tro byddaf yn eu potio ymlaen yn barod ar gyfer eu plannu yn y gwely terfynnol.



Dyma'r Welsh Seedling ar ol eu potio. Dwi wedi rhoi cymorth i'r dail hefo'r clipiau gwyrdd plastig sy'n help hefyd i dynnu'r cenin ar i fynnu gan roi y clip reit uchel. Dwi ddim am ddechrau coleru eto, wnes i ddim dechrau tan oeddynt reit fawr llynedd felly dwi am wneud yr un fath eleni.
Mae'r planhigion yn fwy tebygol o ddioddef o afiechyd neu phlau os rydych yn coleru yn rhy gynnar felly dwi am aros tan fydd y planhigyn llawer cryfach tan dechrau coleru. Wrth gadw'r clipiau gwyrdd yn reit uchel i fynnu'r planhigyn mae hyn yn rhyw fath o blanshio'r cenin beth bynnag gan gadw'r dail reit dyn at eu gilydd.

Dyma'r holl blanhigion wedi eu potio. Mae hi reit amlwg fod y Welsh Seedling syn fwy ar hyn o bryd ar y chwith a'r Pendle Improved ar y dde, 10 o'r Welsh a 11 o'r Pendle.
Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn brysur yn sythu nifer o'r Welsh oherwydd mae barel rhai wedi tyfu braidd yn gam. Byddaf yn gwneud hyn yn raddol trwy roi ychydig o bwysau hefo fy mysedd ar y planhigyn a'i sythu yn araf deg.

Sunday 6 March 2011

PENWYTHNOS BRYSUR

Mae'r penwythnos hwn wedi bod yn braf iawn felly mi ges i gyfle i wneud dipyn yn yr ardd a'r polytunnel. Un peth dwi'n hynnod o falch hefo ydi'r tomatos, oherwydd mae'r Cedrico wedi dechrau egino yn barod.
Doeddwn ddim yn disgwyl iddynt ddod allan mor sydyn, ond mae hi'n amlwg fod y tywydd mwyn rydym wedi ei gael dros yr wythnos diwethaf wedi helpu cryn dipyn.
Tydi'r  hadau eraill sef Meccano heb ddechrau codi eu pennau eto ond rwyf yn reit ffyddiog daw'r dail cyntaf i golwg yn y diwrnodau nesaf.







Mae hi'n amlwg fod y tywydd mwyn wedi bod yn ffafriol i'r shallots. Rwyf wedi symud y cwbl i'r polytunnel erbyn hyn oherwydd mae'r ty gwydyr yn brysur lenwi ac mae'r shallots yn gallu ymdopi reit hawdd hefo nosweithiau ble mae'r tymheredd yn mynd islaw pwynt rhewi.







Penderfynais hefyd drawsblannu 40 o nionod Vento mewn i botiau 3". Y cymysgedd oedd 3 rhan Levington M2, 1 rhan Top Soil wedi mynd trwy ridyll, 1 rhan Vermiculite gradd canolig ac ychydig o Nutrimate Powder.
Byddaf yn cynyddu lefel y pridd dwi'n ei roi yn y cymysgedd bob tro byddaf yn eu hail botio ermwyn iddynt ddod i arfer i'r gwely terfynnol byddant yn tyfu ynddo sef un gwely yn y polytunnel a gwely arall tu allan.
Dwi wedi gadael y gweddill yn y 40 cell tray tan i'r trydydd ddeilen ymddangos, teimlo fy mod wedi trawsblannu'r 40 cyntaf braidd yn fuan. Roedd yr ail ddeilen wedi ffurfio arnynt a'r gwreiddiau yn dechrau dod allan o waelod y tray, ond wrth eu trawsblannu sylwais fod strwythr y gwreiddiau ddim mor gryf ac yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld y gwahanieth rhyngddynt fel mae'r tymor yn mynd yn ei flaen.

Mae'r gwlau yn y polytunnel yn barod. Y gwely yn y cannol ydi gwely'r cennin, felly mi ros i tua 4" da o dail ceffyl yn ei waelod yna haen o bridd a chompost yna haen reit drwchus o Irish Moss Peat ar ei wyneb. Pwrpas hyn ydi cadw lefel gwlybaniaeth y gwely reit gyson ar hyd y tymor. Mae'r mawn yn hynnod o dda am gadw dwr yn y pridd, ac mae hi'n holl bwysig fod y cennin ddim yn cael ynrhyw adeg heb ddwr yn y gwely neu mae gwaelod y cennin yn dueddol o ffurfio siap bwlb, rhywbeth syn cael ei weld yn nam gan y beirniaid.







  Mae'r gwely ar y chwith ar gyfer y nionod felly dwi wedi trio creu haenau o dail a pridd, naill ar ol y llall tan imi lenwi'r gwely. Yr unig wrtaith arall dwi wedi ai adio i'r ddau wely ydi Chempak BTD sy'n cynnwys nifer o 'trace elements' yn ogystal a Nitrogen, Phosfforws a Photash. Dylai hyn fod yn ddigon trwy gydol y tymor oherwydd ni fyddaf yn rhoi unrhyw fwyd arall i'r planhigion. Maent yn dweud mai bwydo'r pridd sy'n bwysig nid y planhigyn.




Dyma finnau a fy merch Lleucu ar ol yr holl waith caled yn teimlo reit bodlon hefo'n hunain!