Wednesday 17 November 2010

Manteisio ar ddiwrnod braf


Ges i gyfle penwythnos yma i godi gweddill y moron cyn i'r malwod fynd iddynt dros y gaeaf. Wnes i orfod taflu dipyn i ffwrdd i ddweud y gwir oherwydd roeddynt wedi hollti. Ond ar y cyfan roeddynt yn iach ac nifer wedi tyfu'n fawr iawn. Tydyn nhw ddim digon da i'w harddangos ond yn sicr digon da i'r gegin, does dim byd gwell na moron yn syth o'r ardd!
Mae yna ddau fath yn y llun; Sweet Candle sy'n ennill ym mhob sioe fawr ar hyn o bryd, a Flyaway sydd yn dangos potensial o fod yn foron arddangos.


Mi gymerais i'r cyfle hefyd i balu dipyn ar yr ardd, er fod y tir reit wlyb. Dyma'r gwely fydd y tatws yn tyfu ynddo flwyddyn nesa. Y Cabej a'r Colis oedd yn y gwely eleni ac mai'n bwysig fod y llysiau yn newid eu safle bob blwyddyn, rhywbeth ma nhw'n ei alw'n 'crop rotation'. Pwrpas hyn ydi gwneud yn siwr fod yna ddim afiechydon a phlau yn croni yn y pridd.


Y gwely nionod ydi hwn ar y chwith wedi ei droi drosodd. Roedd gwreiddiau'r nionod yn parhau i fod yn y pridd, ac roeddwn wedi synnu pa mor ddyfn roeddynt yn mynd. Dwi ddim yn siwr eto pa nionod dwi am blannu yn y gwely hwn tro nesa oherwydd dwi'n gobeithio symud y nionod mawr oleiaf i'r polytunnel newydd. Y dasg nesaf i'r gwely hwn fydd adio Potash.

Thursday 4 November 2010

CANLYNIADAU'R PRAWF PRIDD

Daeth canlyniadau'r prawf pridd o'r gwlau Cennin a'r Nionod drwy'r post rhai dyddiau yn ol:

LEEK BED

Analysis                   Result      Guideline     Interpretation           Comments

pH                               6.9              6.5              Normal                 Adequate level
Phosphorous                87               26                 High                   High level. No
                                                                                                      treatment necessary.
Potassium                    204            241             Slightly Low           100-150kg/ha K20
Magnesium                  165            100               Normal                 Adequate level

ONION BED

Analysis                   Result      Guideline     Interpretation           Comments

pH                               6.6              6.5              Normal                 Adequate level
Phosphorous               109               46                 High                   Possible interference
                                                                                                       on availability of  Fe,
                                                                                                       Cu, Zn
Potassium                    154            241             Slightly Low           100-150kg/ha K20.
Magnesium                  270            100               Normal                 Adequate level


Tydi'r canlyniadau ddim rhy ddrwg i ddweud y gwir, ond bydd rhaid ychwnegu rhywfaint o Potash i'r gwlau dros y gaeaf. Yr unig beth sy'n ymddangos braidd allan oi le ydy'r lefel uchel o Phosphorous yn y gwely nionod. Dwi ddim am golli cwsg dros y peth oherwydd dwin gobeithio creu gwely newydd i'r nionod yn y Polytunnel  fydd yn cael ei godi cyn y Dolig gobeithio.