Wednesday 17 November 2010

Manteisio ar ddiwrnod braf


Ges i gyfle penwythnos yma i godi gweddill y moron cyn i'r malwod fynd iddynt dros y gaeaf. Wnes i orfod taflu dipyn i ffwrdd i ddweud y gwir oherwydd roeddynt wedi hollti. Ond ar y cyfan roeddynt yn iach ac nifer wedi tyfu'n fawr iawn. Tydyn nhw ddim digon da i'w harddangos ond yn sicr digon da i'r gegin, does dim byd gwell na moron yn syth o'r ardd!
Mae yna ddau fath yn y llun; Sweet Candle sy'n ennill ym mhob sioe fawr ar hyn o bryd, a Flyaway sydd yn dangos potensial o fod yn foron arddangos.


Mi gymerais i'r cyfle hefyd i balu dipyn ar yr ardd, er fod y tir reit wlyb. Dyma'r gwely fydd y tatws yn tyfu ynddo flwyddyn nesa. Y Cabej a'r Colis oedd yn y gwely eleni ac mai'n bwysig fod y llysiau yn newid eu safle bob blwyddyn, rhywbeth ma nhw'n ei alw'n 'crop rotation'. Pwrpas hyn ydi gwneud yn siwr fod yna ddim afiechydon a phlau yn croni yn y pridd.


Y gwely nionod ydi hwn ar y chwith wedi ei droi drosodd. Roedd gwreiddiau'r nionod yn parhau i fod yn y pridd, ac roeddwn wedi synnu pa mor ddyfn roeddynt yn mynd. Dwi ddim yn siwr eto pa nionod dwi am blannu yn y gwely hwn tro nesa oherwydd dwi'n gobeithio symud y nionod mawr oleiaf i'r polytunnel newydd. Y dasg nesaf i'r gwely hwn fydd adio Potash.

No comments:

Post a Comment