Sunday 27 February 2011

TOMATOS

Es ati ddydd sadwrn i blannu hadau tomato. Mae hi'n hynod o gynnar imi ddechrau rhain i ddweud y gwir, wnes i ddim plannu llynedd tan 6ed o Ebrill, ond trwy blannu yn gynnar dwi'n gobeithio bydd gen i mwy o domatos wedi aeddfedu pan ddaw hi'n adeg y sioeau ganol mis Awst.

Dwi wedi pendefynnu plannu dau fath eleni sef 'cedrico' a 'meccano'. Mae cedrico yn ennill yn gyson ers rhai blynyddoedd ar y byrddau arddangos felly mae'n rhaid tyfu rhain, ond mae hi'n holl bwysig trio math arall i weld os oes modd gwella ar yr math sy'n ennill bob tro. Yn ol Medwyn gall y math hwn herio goruchafiaeth cedrico.

Y peth cyntaf dwin wneud ydi llenwi tray bychan hefo compost, y math dwin ddefnyddio ydi Levington F2+S sy'n cynnig draeniad da i'r planhigion gael cychwyn.
Yn hytrach na dyfrio'r compost uwchben sy'n gwasgu'r aer allan o'r compost, beth dwi fel arfer yn ei wneud ydi rhoi'r tray mewn tray mwy sy'n hanner llawn o ddwr. Mar'r compost yn amsugno'r dwr i fynnu trwy'r tyllau yn walod y tray ac mae hi reit amlwg ar y newid lliw sy'n digwydd i'r compost pryd mae o'n barod ar gyfer rhoi'r hadau ynddo.


I gyd dwi'n ei wneud wedyn ydi hau tua 10 hadyn ym mhob tray ar wyneb y compost wedyn eu gorchuddio gyda vermiculite yn ysgafn, yna yn ei dro ei wlychu gyda chwistrellydd ysgafn sydd dim yn effeithio dim ar y hadau.
Dwin rhoi'r ddau dray yn y propogator trydan sy'n rhoi gwres oddeutu 15C - 20C felly yn creu'r awyrgylch gorau posib i'r hadau egino.

Gawn ni weld o fewn pythefnos gobeithio os fydd yna unrhyw beth wedi codi ei ben.

Y MORON BYR

Eleni dwi'n benderfynnol o gael moron byr o'r safon gorau posib, felly dwi wedi penderfynnu tyfu rhai yn y polytunnel. Dylai hyn alluogi iddynt dyfu i'w llawn potensial oherwydd y gallu i blannu tua 4 i 6 wythnos yn gynt na fuaswn i'n gallu tu allan, enwedig gyda tywydd anghyson Cerrig!

Dwi wedi bod yn brysur yn paratoi tu mewn i'r polytunnel ers rhai wythnosau ac erbyn hyn mae gwely y moron byr yn barod ac dwi ar fin llenwi gwely y cennin a'r nionod hefo cymysgedd o dail ceffyl a top soil sydd wedi ei sterileiddio.
Aeth yna oddeutu 2 dunnell o dywod i'r gwely sy'n 18" o ddyfnder ac tua 3medr o hyd sy'n golygu gai 48 o foron i'r gwely, ond coeliwch chi fi mi gai ufflon o job cael 5 i gyd fynd a'i gilydd ar gyfer sioe.

Wnes i staplo plastig du ochr mewn i'r gwely ermwyn atal unrhyw wlybaniaeth rhag dianc o'r tywod drwy'r coed.










Wrth wneud hyn mae'r tywod yn setlo yn rhwyddach gan lithro heibio cronfachau'r coed.











Dyma'r gwely ar ol imi gario'r tywod iddo hefo berfa!
Dwi'n gobeithio hau'r hadau tua diwedd mis Mawrth gan roi oddeutu 22 wythnos tan sioe yr NVS yn Llangollen.

Y job nesaf ydi sortio'r cymysgedd dwi am dyfu'r moron ynddo. Mae'r gwaith yma wedi bod ar y go ers 'dolig! Y rheswm am hyn ydi'r gwaith hir o roi y compost trwy ridyll. Mae hyn yn anghenrheidiol os am gystadlu ar y lefel uchaf.

Thursday 24 February 2011

TYWOD A MWY O DYWOD

Dwi wedi bod ers tua pythefnos erbyn hyn yn paratoi y gwlau moron, rhywbeth sydd rhaid ei wneud pob blwyddyn er mwyn gwneud yn siwr fod y tywod yn rhydd o unrhyw afiechyd. Mae o'n waith caled, enwedig gwagu gwely y moron hir.

Wnes i adeiladu'r gwely hwn llynedd drwy ddefnyddio blocs 4". Mae o'n 5 troedfedd o ddyfnder sy'n golygu fod gan y gwraidd ddigon o le i ymestyn ar i lawr ond sy'n golygu hefyd ei fod yn waith torcalonus! Mae yna 5 tunnell o dywod yn mynd iddo a dim dewis ond defnyddio rhaw a bon braich.
Yr unig beth dwi'n ei wneud i'w sterileiddio ydi rhoi dos o 'Armillatox' wrth ail lenwi'r gwely, gan roi 10lltr o gymysgedd i bob 6" o dywod. Mewn gwirionnedd cymysgedd golchi a sterileiddio'r ty gwydyr ydi armillatox, ond mae'n gwneud yr un peth i tywod hefyd.
Mae hi'n holl bwysig gwneud hyn oherwydd y bwgan mwyaf rydym yn gwynebu wrth dyfu moron ydi'r 'pry moron'. Mae'r pry yn dodwy ei wyau wrth fon y gwriddyn ac yn eu tro ar ol deor maent yn bwydo ar y moron gan eu gwneud yn ddiwerth ar gyfer y bwrdd arddangos yn ogystal a'r bwrdd bwyta. Gall y wyau dreulio cryn amser yn tir ond dylai'r cymysgedd dwi wedi ei roi i'r tywod fod yn ddigon i'w lladd.
 Bydd rhaid rhoi amser i't tywod setlo nawr yn barod at amser creu'r 'bore holes' ac amser hau'r hadau. Dwi'n gobeithio gwneud hyn oddeutu diwedd mis mawrth iddynt gael tua 22 wythnos o dyfu cyn y sioe fawr yn Llangollen.









Un o'r pethau pwysicaf ar ol gorffen ydi rhoi'r gawell hwn dros y gwely i atal unrhyw gathod rhag mynd i'r tywod i gachu! 



Friday 18 February 2011

NIONOD MAWR

Daeth y nionod mawr drwy'r  post bore ma gan Medwyn Williams. Rhaid imi ddweud, maen't yn edrych yn dda iawn gyda gwreiddiau cryf. Mae yna rai yn fwy nac eraill ond mae hynny i'w ddisgwyl gan mai dim ond dau fis o dyfiant maent wedi eu gael erbyn hyn. Y peth pwysicaf i'w wneud heddiw ydi eu potio'n syth er mwyn iddynt gael tyfu ymlaen yn ddi-dor o nawr tan amser eu plannu yn y twnel.

Y cymysgedd dwi'n ddefnyddio tro yma ydi:

4 rhan Levington M2 compost
1 rhan Vermiculite (gradd canolig)
Ychydig o Nutrimate Powder

Roeddwn wedi bwriadu rhoi un rhan o top soil wedi ei sterileiddio hefyd, ond dwi di anghofio prynnu rhywbeth ac doeddwn ddim yn disgwyl cael y nionod tan ddydd Llun. Tydio ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth tro yma ond bob tro byddaf yn eu hail botio bydd cynnwys y top soil yn cynnyddu er mwyn iddynt ddod i arfer yn gynt i'w safle olaf yn y twnel.

 Dwi'n hoffi gwlychu'r cymysged cyn ei roi yn y potiau, drwy wneud hyn tydw i ddim yn gorfod dyfrio'r planhigion ar ol eu potio fynu felly maent yn cael y cychwyn gorau posib. Mae'r planhigion yn cael cyfle i wreiddio cyn cael eu dyfrio uwchben.









Dwi'n eu potio nhw mewn potiau 3" i gychwyn wedyn yn symud i rhai mwy fel bod angen.











 Mae on holl bwysig fod y nionod yn cael cymorth i sefyll i fynu yn syth. Trwy wneud hyn mae'r planhigyn yn fwy tebygol o dyfu i'w orau posib ac nifer fwy yn mynd i dyfu i'r un siap, rhywbeth sy'n holl bwysig ar gyfer y bwrdd arddangos.

Dwi'n defnyddio split canes a'r clipiau gwyrdd yma i roi cymorth i'r nionod. Mae'r clipiau yn syml ofnadwy ond yn hynnod o effeithiol fel y gwelwch o'r lluniau.










Dyma'r nionod i gyd wedi eu potio fynu, 21 ohonynt i gyd. (Wedi cael 1 am ddim mae'n debyg!)

Yr oll dwi angen ei wneud rwan yw croesi bysedd a cadw'r tymheredd yn y ty gwydyr dim is na 10C/50F, beth bynnag yw'r gost!

Sunday 13 February 2011

DECHRAU TYFU

Mae pethau yn dechrau symud yn y ty gwydyr erbyn hyn . Mae'r shallots cyntaf nes i blannu sef y Hative de Niort wedi cychwyn tyfu yn ogystal a'r nionod 250g. Ers trawsblannu'r nionod maent wedi rasio ymlaen gyda nifer yn dechrau dangos y dail cyntaf, rhywbeth sy'n cael ei alw'n 'first true leaf' yn saesneg.


Er gwathaf fy mhryderon ynglyn a lefel a safon egino'r hadau, dwi wedi gallu trawsblannu 94 ohonynt erbyn hyn sy'n golygu fydd genai ddewis reit dda o nionod ar gyfer eu tyfu ymlaen yn twnel.

Mae'r  diwrnodau yn brysur ymestyn o hyn ymlaen a'r  gwaith dwi angen ei wneud yn dwyshau. Gyda gymaint i'w wneud mae hi'n anodd gwybod lle i droi nesa. Fy mai i ydi dechrau nifer o bethau ar unwaith gan adael gormod i'w wneud mewn byr o amser, felly dwi'n benderfynnol eleni fy mod yn mynd i gyflawni pob tasg mewn da bryd. Gawn ni weld!

Dwi'n gobeithio symud y shallots i'r twnel yn y pythefnos nesa oherwydd mi fyddaf angen y lle yn y ty gwydyr i'r nionod mawr sy'n cyrraedd drwy'r post gan Medwyn. Bydd angen potio rheini yn syth mewn i botiau 3".

Friday 4 February 2011

TRAWSBLANNU'R VENTO

Es ati ddoe i drawsblannu rhai o'r nionod 250g sef y Vento.

 Dyma'r adeg gorau i'w trawsblannu, pan maent yn y 'crook stage'. Beth mae hyn yn ei olygu ydi, fy mod yn eu trawsblannu cyn i'r ddeilen cyntaf (true leaf) ddod allan.
Tydw i ddim yn hapus iawn hefo safon yr hadau i dweud y gwir, oherwydd mae'r haen gwyrdd oedd yn gorchuddio'r hadau i'w weld yn amharu mwy ar y broses o egino yn hytrach nai helpu. Mae'r hadau yn ymddangos i chael hi'n anodd ymestyn allan ar ol torri allan o'r belen bach gwyrdd.
Hefyd dim ond 47 ohonynt dwi di gallu trawsblannu hyd yma, sydd ddim yn ddigon o bron i 150 o hadau nes i blannu.

 

Mae hyd y gwraidd jest yn 3" mewn cwta pythefnos ers eu plannu sy'n golygu gobeithio wnawn nhw dyfu ymlaen yn sydyn ar ol eu trawsblannu mewn compost ychydig yn gryfach mewn mwynau.



Y compost dwi wedi ei ddefnyddio ydi Levington F2+S sy'n rhoi draeniad da a digon o ocsigen i'r gwreiddiau gael creu rhwydwaith cryf. Mae yna 40 yn mynd i bob tray. Dwi'n gobeithio eu plannu ymlaen i botiau 3" pan fydd yna 2 i 3 deilen cryf wedi ffurfio.

Thursday 3 February 2011

DAL I DDODWY

Dwi di plannu mwy o shallots ddoe. Jermor ydi'r cyltifar yma, mae hwn hefyd i'w weld ar byrddau arddangos ond mae hefyd yn ffefryn gan y cogyddion enwog am ei flas.
Y bwriad ydi arbrofi hefo rhain gan eu tyfu mewn ffyrdd gwahanol i'r Hative de Niort.
 Dwi di plannu 14 yn yr un cymysgedd a'r Hative de Niort mawr gan obeithio yr awn mor fawr a rheini.

 Dwi di plannu 10 mewn potiau 3" gyda compost sy'n isel mewn mwynau a gwrtaith er mwyn eu dal yn ol. Y bwriad ydi cadw rhain i'r dosbarth y 'pickling shallots'.
 Rhaid i'r pickling shallots fod dim mwy na 30mm o led a phasio drwy modrwy sydd union 30mm.
Tydi 10 ohonynt ddim yn hanner digon i gael casgliad fydd yn ddigon da ar gyfer y sioe fawr yn Llangollen ond gobeithio fydd yna rai digon da i'r sioeau lleol.



Mae siap y Jermor yn hollol wahanol i'r Hative de Niort. Fel a welwch ar y chwith mae'r Jermor yn fwy hirgrwn ac yn cael ei alw gan y cogyddion yn "banana shallot".
Amser a ddengys os fydd hwn yn gallu herio'r Hative de Niort!