Saturday 26 March 2011

ANGEN DIWRNODAU 26 AWR!

Mae'r tywydd wedi bod yn hynod ffafriol yn yr wythnosau diwethaf ond fy amser i yn hynod brin i gael mynd i'r ardd. Rwyf yn hynod lwcus fy mod yn gweithio mor agos i adre ac fod gen i ardd mor fawr hefo'r ty, duw a wyr sut mae'r garddwyr gyda allotment yn i gwneud hi! Mae'r penwythnos nesa 'ma yn rhywfath o drobwynt yn yr ardd gan fod y clociau'n troi. Mae hyn yn galluogi imi gael amser i wneud pethau min nos ar ol dod adre o'r gwaith.
 
Er gwaethaf yr amser prin dwi wedi ei gael yn yr ardd dwi wedi gallu cyflawni dipyn o dasgau, gan gynnwys potio'r nionod mawr ymlaen i botiau 4" tua 9 or gloch nos Fercher gyda golau lamp!

Roeddwn yn hynod o hapus hefo datblygiad strwythr y gwreiddiau ac roedd hi'n hen bryd eu potio ymlaen.





Y moron byr dwi wedi bod yn canolbwyntio arno yn ddiweddar, gan baratoi y cymysgedd. Mae'r moron byr dwi'n ei blannu eleni sef Sweet Candle angen oddeutu 22 wythnos i gyraedd eu llawn potensial a dangos 'stump end' sy'n angenrheidiol ar gyfer y bwrdd arddangos. Mae'r broses o greu'r cymysgedd compost yn waith llafurus iawn gan fod angen rhoi'r compost drwy ridyll man i gael gwared o unrhyw lympiau a darnau o goed sy'n bresenol ynddo. Wrth wneud hyn rwyf yn fwy tebygol o gael gwreiddiau glan heb unrhyw farc arnynt.

Gan fy mod angen rhoi 6 bag trwy ridyll wnes i wneud un fy hun oedd digon mawr i gymryd traean o fag compost ar y tro felly yn gwneud y gwaith llawr cynt. Roeddwn yn hongian y rhidyll ac yn ei ysgwyd nol a mlaen fel bod y compost yn disgyn i'r llawr gan adael y darnau mawr yn y rhidyll, wrth wneud hyn roeddwn yn gwneud bag bob chwarter awr.

Ar ol gwneud hyn roeddwn yn ei roi mewn micsar concrit er mwyn adio dipyn o gynhwysion  i'r cymysgedd.









Dyma'r cymysgedd dwi am ddefnyddio eleni:

75ltr o Levington F2S
25ltr o Vermiculite gradd canolig
12oz o Seeweed Meal
12oz o TEV4 (mae o'r un fath a Vitax Q4 ond yn rhatach)
40ml o Nutrimate Powder
10ltr o Ddwr yn cynnwys Nutrimate Liquid




I gyd sydd angen ei wneud wedyn ydi paratoi y tyllau. Dwin'n gwneud hyn gyda template pren sydd wedi ei fesur fel fod cannol pob twll 7" oddi wrth eu gilydd. Peipen 3" dwi'n ddefnyddio i gael y tywod allan, ac mae hyn yn hawdd iawn trwy wthio'r beipen lawr i'r tywod yna ei dynnu yn ol i fynnu yn cynnwys y tywod.






Mae yna 48 o foron yn mynd i'r gwely hwn yn y pollytunnel ac roedd un cymysgedd yn ddigon iw lenwi. Mi blannais yr hadau ynddo ddydd Gwener union 22 wythnos cyn y sioe yn Llangollen, gan drio eu rhoi union yng nghannol y tyllau tue 1/2 modfedd o dan y wyneb ac gyda 5 hadyn ym mhob twll. Pan fydd y dail tua modfedd o uchder byddaf yn tynnu y gwanaf ohonynt ac yn gadael i'r cryfa dyfu ymlaen.

Bydd y ffordd yma o dyfu moron byr yn brofiad newydd imi eleni oherwydd eu bod dan do felly bydd rhaid imi wneud yn siwr fod ganddynt ddigon o ddwr yn y gwely trwy gydol y tymor felly bydd rhaid eu dyfrio yn aml dwi'n siwr. Ond dwi reit ffyddiog mai dyma'r ffordd ymlaen i wella fy nghynnyrch.





No comments:

Post a Comment