Friday 15 October 2010

TESTIO'R PRIDD

Mae'r ardd yn edrych braidd yn druenus ar hyn o bryd. Mae yna ychydig o foron ar ol mewn un gwely ymysg y chwyn! Ac mai'n hen bryd tynnu gweddill y pys oherwydd mae hi di bod yn rhewi nosweithiau diwethaf.
Y dasg dwi angen wneud cyn dechrau gwneud unrhyw beth i'r tir yw gyrru samplau pridd i ffwrdd or gwahanol wlau er mwyn gwybod yn union beth dwi angen ychwanegu i'r pridd ar gyfer y tymor nesa.
Lancrop Laboratories dwin ei ddefnyddio oherwydd maent yn gwneud y dasg yn hynod o syml.

Bydd rhaid imi wneud dipyn o waith yn y ty gwydyr cyn rhoi unrhyw blanhigion ynddo. Mae'r tomatos wedi dioddef o 'botritis' trwy gydol y ddau dymor diwethaf, felly bydd rhaid imi lanhau'r gwydr a'r bubble wrap yn drylwyr hefo 'armillatox'. Dwi hefyd am newid y gwlau compost hefo pridd sydd heb ei arddio ers blynyddoedd gan obeithio cael ty gwydyr syn rhydd o unrhyw afiechydon neu phla. Y rheswm pennaf dwi'n credu fy mod wedi cael 'botritis' ydi'r diffyg aer ffres yn dod i mewn o amgylch y planhigion, yn sicr tydi'r bubble wrap ddim yn help dros yr haf ond ni allaf wneud hebddo trwyr gwanwyn oherwydd y nosweithiau rhwellyd mae gardd sydd 1000 o droedfeddi uwchben y mor yn dueddol o'i gael!
Dwi am osod ffenestr 'louvre' i'r talcen pellaf y ty gwydyr gan obeithio wnaiff hyn ddatrys y broblem. Amser a ddengys!

No comments:

Post a Comment