Blwyddyn arall o'm blaenau a dwi methu aros i gael cychwyn arni ar ol dau fis o seibiant o'r ardd. Dros y gaeaf dwi wedi bod yn brysur yn gwneud planiau am y flwyddyn sydd i ddod ond hefyd am 2014! Y peth mwyaf dwi wedi ei wneud dros y gaeaf ydi prynu twnel arall, yr unig beth ydi bod rhaid iddo fynd ar dir fy Nhad yng Nghyfraith gan ei fod rhy fawr i'r ardd (i ddweud y gwir fe fyddai yn gorchuddio'r ardd gefn yn gyfan gwbl!). Fy mwriad ydi ei godi yn y gwanwyn ai baratoi yn barod i dymor 2014 gan symud y mwyafrif o'r llysiau arddangos iddo er mwyn cael tyfu mwy o lysiau i'r gegin yn yr ardd gefn.
Another growing year in front of us and I cant wait to get started on the plot. I haven't done much over the winter period because of the wet weather but I've been busy planning this year and the next in my diary. The main thing I've been able to do is buy myself another polytunnel, the only thing is it will have to be erected on my Father in Law's land because it's too big for our back garden (truthfully it would cover the entire garden!). My intension is to erect it in the spring and have all year to prepare it for the 2014 season. I hope to move most of the exhibition veg to this tunnel and concentrate on growing veg for the kitchen in the back garden.
Dwi wedi plannu rhai llysiau yn barod gan gynnwys 20 o shallots Jermor, tydi rhain ddim y rhai gorau i arddangos ond maen't i fod yn ardderchog i gogino, er dwi'n gobeithio cael set ar gyfer fy sioeau lleol. Wnes i eu cychwyn mewn potiau 5" mewn cymysgedd o Levinton M2, pridd o'r ardd hefo ychydig o Nutrimate Powder. Yn ogystal i hyn wnes i ddefnyddio rhywbeth newydd mae nifer o arddangoswyr wedi cychwyn ei ddefnyddio sef Root+. Fwngi ydi mewn gwirionedd sydd yn iachusol iawn i dyfiant y gwreiddiau. Maen't yn y twnel ar hyn o bryd, dyle rhywfaint o nosweithiau rhewllyd wneud dim drwg iddynt ond mi wnai ei gorchuddio hefo fleece os edi hi'n gaddoi'n oer iawn.
I've already started planting a few things including 20 Jermor shallots, these are not the best for exhibition but are thought to be one of the best for the kitchen, although I'm hoping to have a set for my local shows. I potted them up in 5" pots in a mixture of Levington M2, top soil from the garden which I added a sprinkling of Nutrimate Powder. One other ingredient I added was Root+ which is a fungi that promotes a secondary root system, many top growers are testing its capabilities at the moment so I thought I'd give it a try. At the moment they are sitting in the tunnel and should be able to take a bit of frosty nights no problem but I will cover them with fleece if the forecast is very cold.
Mae'r ty gwydyr yn cael ei gadw ar dymheredd o 10C bellach gan fy mod wedi plannu 80 o hadau nionod Toughball. Eto eleni dwi wedi creu partisiwn er mwyn cwtogi ar gostau trydan yn ogystal a insiwleiddio'r ochrau hefo bubble wrap. Eleni daeth y hadau heb orchudd gwyrdd oherwydd fod nifer yn cwyno fod egino'r hadau yn anoddach oherwydd y gorchudd. Wnes i fy hun rioed gael trafferth, dwi jest yn gobeithio wnaiff rhain egino yr un mor lwyddiannus ac arfer!
The heat is finally on in the greenhouse as I have already planted 80 Toughball onion seeds. Again this year i have erected a partition and insulated the sides with bubble wrap to minimise the cost of electricity. This year after complaints the seed came with out the usual green covering as many had found it difficult to germinate the seed. Luckily I had not had the problem, I just hope they will germinate as well as usual!
Un arbrawf dwi am drio eleni ydi trio tyfu moron hir, Betys hir a panas hir mewn 'wheely bins'! Dwi wedi cychwyn llenwi rhai hefo tywod ond dwi am drio rhai yn llawn o gompost hefyd. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld y canlyniadau.
One experiment I'm going to try this year is try to grow long carrots, long beetroot and parsnips in 'wheely bins'! I've alreadt started to fill a few with sand but I'm going to try a few filled with only compost to see how they turn out, it should be interesting.
Rhywbeth newydd arall dwi am drio eleni ydi tyfu cabej enfawr ar gyfer sioe Cerrig, felly dwi wedi plannr hadau yn barod yn y ty gwydyr gan obeithio cael llysieuyn go enfawr erbyn mis Medi!
Another first for me is that I'm going to attempt to grow a Giant Cabbage for my local show, so I have set the seed down already in the greenhouse therefore giving it plenty of time by the beginning of September!
garddiadur
Dwi wedi bod yn tyfu llysiau ers 2008, yn bennaf ar gyfer arddangos mewn sioeau. Pwrpas y blog hwn yw dangos sut mae mynd ati i dyfu cynnyrch sydd yn haeddu ei le nid yn unig ar y bwrdd arddangos ond hefyd ar y bwrdd bwyta.
Wednesday 9 January 2013
Friday 9 November 2012
MEDWYNS MASTERCLASS WEEKEND
Dwi'n cael penwythnos o ddarlithoedd o heno ymlaen am dyfu llysiau sy'n cael ei gynnal gan Medwyn Williams yn y Queen Vic yn Llanberis. Bydd yna griw rei da yno gobeithio yn cael cyngor a chymorth gan nifer o arbenigwyr yn cynnwys Ian Stocks, Jim Thompson a David Metcalffe. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i gael dysgu mwy am dyfu moron a beetroot hir yn enwedig.
I'm off to Llanberis for the weekend for Medwyn's masterclass being held at the Queen Vic. There will be talks by top growers including Ian Stocks, Jim Thompson and David Metclaffe. Should be a very informative and enjoyable weekend. I'm really looking forward to the talks on long carrots and beetroot.

Tuesday 6 November 2012
MALVERN 2012 LATE REPORT!
Dwi heb gael amser tan rwan i son am y sioe yn Malvern. Roedd y safon yn anhygoel cysidro y flwyddyn yr ydym wedi ei gael ac roedd y byrddau arddangos yn orlawn. Braidd yn siomedig oeddwn i fy hun o safon y cynnyrch wnes i roi ar y byrddau, er gwaethaf hyn roeddwn yn lwcus i ennill yn y dosbarth tatws 'NVS Amour'.
Doedd yna ddim cymaint wedi trio eleni yn y dosbarth hwn gan gynnwys Sherie Plumb sydd yn gyson yn ennill pob dosbarth arall yn y dosbarthiadau tatws. Amour oedd yr unig daten o safon oeddwn wedi gallu ei thyfu i'r pwysau ar maint priodol i gystadlu am y cardiau.
Malvern was an eye opener in terms of the quantity of exhibits but also for the quality considering such a bad year it's been for the veg grower. I was a bit disappointed in my own exhibits but still managed to win the class for 5 'NVS Amour' potatoes. I was lucky that Sherie Plumb had not entered this class as she won all the other potato classes. Amour was the only potato I had been able to grow to the ideal size and weight this year, hopefully next year will be better ( I keep saying this every year!)

Dosbarth arall wnes i drio oedd '5 o Foron Byr' hefo set o Sweet Candle ac roedd y bwrdd arddangos yn y dosbarth hwn yn anhygoel. Roedd pob un o'r 32 set oedd ar y bwrdd wedi cyrraedd safon uchel iawn ac doeddwn ddim yn genfigenus o'r beirniaid, ni ddaethant i benderfyniad ar y 5 uchaf tan tua 11.30 er i'r dent garddwriaeth fod ar agor i'r cyhoedd ers awr a mwy. Roedd pob un set yn debyg iawn i'w gilydd gan fod y mwyafrif o arddangoswyr yn tyfu Sweet Candle erbyn hyn.
The class for '5 Stump Carrots' was a well contested affair with 32 sets entered which was a sight to behold. The judges took till 11.30 to come to a decision on the top 5 even though the marquee had been open for an hour or so and the general public wandering around them. I did not envy their job as all exhibit looked very similar as most of them were Sweet Candle.
Roedd gen i obeithion uchel iawn ar gyfer y dosbarth hwn eleni gan fod gen i wely newydd o 60 o foron mewn tywod bras iawn yn y twnel. Yn sicr roedd y moron yn y gwely hwn wedi pefformio dipyn gwell na'r hen wely oedd yn llawn o dywod coch, mai'n amlwg fod y draeniad yn y gwely newydd llawer gwell ac y gobaith oedd fod hyn am wella ar y safon yr oeddwn wedi gyrraedd or blaen. Roeddwn yn hynod o hapus i gael 5ed yn y dosbarth caled hwn hefo'r moron gorau imi erioed eu tyfu.
I had very high hopes for this class this year because I had constructed a new bed for 60 carrots with corse sand. The hope was that the new bed would perform better because the old bed had contained red sand, so hopefully the extra drainage in the coarse sand will improve the quality of the skin finish which makes all the difference. I was extremely happy to get 5th in this highly contested class with the best set of carrots i have ever grown.
Dosbarth arall wnes i gystadlu ynddo oedd y 'Millenium Class' sef 4 taten, 4 beetroot, 4 o foron byr, 4 nionyn 250g a 4 tomato. Mae hwn yn ddosbarth anodd iawn oherwydd mae cal pob un o'r setiau ar eu gorau ar gyfer y sioe yn dalcen caled a dweud y lleiaf. Er gwaethaf hyn roeddwn yn o fewn 2 bwynt o gael 5ed a dim ond 4 pwynt o gael cerdyn coch.
Another class I entered was the 'Millenium Class' which is a tall order because you need sets of four potatoes, globe beetroot, stump carrots, 250g onions and tomatoes, and to get all of them to their optimum for show day. I was pleasantly surprised to be within 2 points of getting 5th and only 4 points from making it red!
Thursday 20 September 2012
MALVERN YN AGOSAU
This will be my first bilingual! Many people have informed me that my blog gets "lost in translation" through Google translate, so I ought to do it personally!
Next week will be a busy one leading up to traveling down at god knows when in the morning to Malvern to stage my exhibits. I'm quite hopeful of staging in quite a few classes including 4 classes of potatoes, although they have not reached the quality I achieved last year but we live in hope that every one else is in the same boat!
Dwi'n teimlo reit nerfus yn barod wrth edrych ymlaen at y sioe fawr yn Malvern wythnos i ddydd Sadwrn. Er fod safon fy llysiau yn is na llynedd dwi jest yn gobeithio fod pawb arall yn yr un gwch! Dwi wedi storio fy nhatws mewn mawn sych ers ta 4 wythnos felly dwi jest yn gobeitho fod safon y croen heb ddirywio ar ol cyn hired o amser ers eu codi.
One class I'm very keen to have a go at is 3 cauliflowers. My father used to be quite an expert at growing them, but timing them to mature at the right time is easier said than done. The cultivar that I've grown this year is Cornell and last year it took between 15 and 16 weeks from sowing to maturity, but this year they have taken nearly 18 weeks! Despite this I'm hopeful of tabling a set as I have 5 which have started to develop a flower head last weekend. I've given them a high potash feed to help them develop a good solid curd but as a reserve I've all ready cut 4, although on the small side are a good even set.
I've wrapped them in cling film and foil to keep them from any light and put them in the fridge, hopefully they will keep in good shape for Malvern as a spare set in case the others dont make it.
Dwi wedi codi 4 blodfresych yn barod gan eu storio nhw yn yr oergell ar ol eu gorchuddio mewn cling film a foil. Mae hyn yn atal unrhyw olau andwyo lliw y blodyn ac felly yn eu cadw yn glaer wyn, y gobaith ydi eu cadw mewn cyflwr ffres tan y sioe yn Malvern. Gobeithio na fydd raid imi eu defnyddio oherwydd ma genai 5 dal yn tyfu yn y gwlau ac wedi cychwyn ffurfio blodyn penwythnos diwethaf felly maent wedi cael eu dyfrio hefo lefel uchel o potash yn y dwr er mwyn sicrhau fod y planhigyn yn fffurfio pen mawr a chaled.
I've had the best crop ever of tomatoes this year after suffering from botritis for the last few years. I've grown a new veriety this year called Zenith, and I'm very happy with it's vigour as I've been able to train it across the roof and get about 12 trusses to each plant. The problem is getting enough fruits as I need 12 for the National from 7 plants, I may well start to hang a few ripe bananas under the this weekend to speed up the ripening process.
Rhain ydi'r tomatos gorau imi eu tyfu ar ol blynyddoedd o fethiant oherwydd afiechyd. Dwi'n gobeithio cael 12 ar gyfer y gystadleuaeth yn Malvern ond bydd hi'n anodd oherwydd dim ond 7 planhigyn sydd genai felly bydd rhaid imi glymu hen fananas o dan y tomatos gwyrdd penwythnos 'ma er mwyn cyflymu y broses o gochi.
Another class I'm hoping to enter is with stump carrots. I have a bed of 60 Sweet Candle growing in the polytunnel and are hopefull of getting a set of 5. They will have had 22 weeks by next friday so hopefully the stump end will have formed.
Dyma gwely y moron byr yn y twnel sydd wedi bod yn tyfu ers bron i 22 wythnos erbyn hyn felly gobeithio fod y 'stump end' wedi ffurfio! Bydd rhaid trio cael set o 5 allan o 60 o'r gwely hwn, rhywbeth sy'n swnion hawdd ar bapur ond fydd yn anodd iawn man siwr braidd.

Monday 3 September 2012
PENCAMPWRIAETH CANGEN CYMRU 2012
Mae'r penwythnos diwethaf ma wedi bod yn un hynnod o brysur. Nid yn unig oeddwn yn cystadlu yn fy sioe lleol sef Sioe Cerrig roeddwn hefyd yn mentro lawr i dde Cymru i Bencampwriaeth yr NVS Cangen Cymru ynm Mharc Bryngarw, Penybont.
Wnes i gychwyn lawr i'r de am 1.30 yn y bore gan obeithio buasai'r llysiau yn ymddangos fwy ffres ar y byrddau arddangos, roedd y wraig yn meddwl mod i'n nyts yn gwneud ffasiwn beth, ond dwi o'r farn os de chi isio llwyddo ar y lefel uwch o arddangos mae'n rhaid trio cael pob mantais posib i guro'r gystadleuaeth, os ydi hynny yn golygu cael dim cwsg am noson dwi'n meddwl ei fod o werth y poen.
Roeddwn wedi fy syfrdanu ar cynifer o gystadleuwyr oedd wedi mentro i'r sioe ac i ddweud y gwir roeddwn yn teimlo fod y siwrne yn mynd i fod yn un gwag o weld safon y cynnyrch ar y byrddau.
Er gwaethaf fy mhryderon roeddwn yn hynod o falch o weld fy mod wedi ennill hefo tatws yn y dosbarth lliw yn ogystal ar 'Best Exibit in the Potato Classes'
Cafais drydydd yn y dosbarth tatws gwyn ac hefyd yn y dosbarth 'casgliad o datws'.
Yn mwy na dim y pleser mwyaf o ran y canlyniadau oedd y cenin yn y gystadleuaeth Prydeiniglle cefais drydydd.
Hoffwn ddiolch yn ofnadwy i Emlyn, Arwyn, Colin ac Andrew am y croeso a'r gwmniaeth gefais dros y dau ddiwrnod, dyma sy'n gwneud cystadlu yn y sioeau yma yn unigryw.

Thursday 23 August 2012
SIOE SIR MEIRIONYDD 2012
Er gwathaf y flwyddyn gwaethaf erioed imi yn yr ardd mi wnes i allu llwyfanu mewn 7 dosbarth i gyd yn Nhywyn. Yn syfrdanol er fod y llysiau dipyn yn is o ran safon eleni mi wnes i gael 7 cyntaf!
Mae'r tatws yn bell o safon rhai llynedd ond dwi reit ffyddiog y caf ddigon o rai o weddill y bagiau ar gyfer y Welsh Branch a'r National oherwydd dim ond 4 bag o bob un wnes i orfod gwagu i gael y setiau yma.
Dwi braidd yn siomedig yn y moron byr ac bu'n rhaid imi godi mwy nac oeddwn wedi fwriadu er mwyn cael set dda o 3.
Mae'r nionod 250g wedi troi allan yn dda iawn eleni ac yn dangos fod modd eu tyfu heb lawer o ffwdan mewn potiau 10ltr yn cynnwys dim ond compost Levington M3. Yr unig fai sydd arnynt ydi eu bod braidd yn ysgafn ac dim ond yn pwyso tua 220g.
Heb os nac oni bai rhain ydi'r tomatos gorau imi eu tyfu erioed er fod yna nifer o farciau arnynt. Tydi'r marciau ddim i'w gweld ar y lluniau yma ond maent ar y mwyafrif yn y ty gwydyr ac dwn i ddim beth yw'r rheswm hyd yma, dwi'n gobeithio cael holi Charles Maisey yn dwll wythnos i ddydd sadwrn yn Mhen y Bont.
Hwn oedd y casgliad bychan o lysiau ac roeddwn yn hynod o falch o sgorio 13 a 1/2 allan o 15 am y nionod 250g, sy'n dangos er eu bod braidd yn ysgafn na fyddant yn edrych allan o le ar y bwrdd yn y National diwedd mis nesa.

Sunday 22 July 2012
Y sioeau yn agosau!
Ers dechrau tyfu llysiau hon ydi'r flwyddyn anoddaf dwi wedi ei gael. Mae'r tywydd wedi bod mor ansefydlog dechrau'r flwyddyn yna cyfnod poeth iawn mis Mai wedyn mehefin gwlypaf erioed i ddilyn! Oherwydd gwahaniaeth mawr rhwng tymheredd dydd a nos mae nifer o lysiau wedi chael hi'n anodd eleni ond dwi wedi bod yn lwcus fod nifer o lysiau erbyn hyn yn cael eu tyfu dan do.
Mae'r ansefydlogrwydd mewn tymheredd dydd a nos yn sicr wedi effeithio'r moron hir a'r panas hir. Er iddynt egino yn weddol gynnar a dechrau ar eu taith yn weddol gryf cafodd oerni nosweithiau mis Mai effaith andwyol arnynt ac eu dal yn ol. Tydynt heb ddod dros hynny ac i wneud pethau'n waeth maent ymddangos eu bod wedi cael rhyw fath o afiechyd, berig bydd rhaid anghofio rhain am eleni.
Mae'r tatws wedi bod yn ymdopi yn weddol dda hefo'r tywydd gwlyb a gwyntog ond yn sicr tu ol i lle'r oeddynt llynedd.
Ar ol y llwyddiant ges i llynedd hefo'r tatws dwi wedi penderfynnu canolbwynio dipyn mwy arnynt eleni gan blannu 6 gwahanol fath, 3 lliw a 3 gwyn.
Winston
Casablanca
Sherine
Amour
Kestrel
Purple Eyed Seedling
I gyd dwi wedi defnyddio 150 o polypots gan obeithio cael digon o ddewis ar gyfer yr holl sioeau dwi'n anelu atynt eleni. Oherwydd yr holl wynt rydym wedi bod yn ei gael eleni dwi wedi gosod llinynau ar hyd y rhesi i roi cymorth i'r dail rhag plygu drosodd, rhywbeth wnes i ddim orfod gwneud llynedd. Maent wedi cael chwistrelliad o dithane rhag blight pob pythefnos ers tua dau fis bellach gan fy mod wedi bod yn cael text gan y potato council fod yna berig ohono yn yr ardal bob un ail ddiwrnod jest. Dwi'n weddol hapus hefo'r tatws hyd yma oherwydd maent yn edrych yn iach iawn ac mae yna olion y bagiau yn dechrau bolio sydd yn dangos fod yna datws yn bresenol.
Byddaf yn codi bag neu ddau yn y pythefnos nesaf i weld lle maent arni ac wedyn yn gwneud penderfyniad pryd dwi am dorri'r gwlydd i ffwrdd i ddechrau ar y broses o sychu'r bagiau allan.
Beth mae eleni wedi brofi imi ydi'r mai'r ffordd ymlaen yn y dyfodol ydi tyfu pob dim dan do, oherwydd mae safon y cynnyrch yn y twnel llawer gwell na'r llysiau tu allan. Mae'r moron yn profi hyn hefo'r stumps yn egino llawer gwell ac yn tyfu yn ddi dor wedyn. Mae'r llun cyntaf yn dangos y rhai cyntaf imi blannu, bydd rhain gobeithio yn barod ar gyfer sioe yr NVS Welsh Branch yn Mhen y Bont dechrau mis Medi a sioe Sir Meirionydd cannol mis Awst.
Mae'r ail lun yn dangos y rhai dwi wedi blannu ar gyfer y National yn Malvern diwedd mis Medi. Hyd yma maent yn edrych yn addawol iawnac rhai yn dechrau dangos ar y wyneb sydd yn arwydd fod y 'stump end' yn dechrau ffurfio.
I lawr cannol y twnel dwi'n tyfu 9 (ar ol colli 1!) cenin Pendle Improved sydd yn edrych yn iach iawn hyd yma ond braidd yn araf yn lledu allan. Dwi wedi chael hi'n anodd eu tynnu ar i fynu felly dim ond tua 12" i'r button ydynt erbyn hyn ond dwi wedi gosod coler 18" arnynt gan obeithio eu tynnu ar i fynnu i'r lefel hwn erbyn diwedd mis Medi.
Dwi wedi plannu 3 gwely o flodfresych, y gwely cyntaf ar gyfer sioe Sir, yr ail ar gyfer y Welsh Branch a'r trydydd ar gyfer y National. Mae'r dau wely cyntaf yn llawn o Cornell sydd i weld yn ennill yn aml ar y byrddau arddangos ond mae'r gwely olaf yn llawn o Tetris sydd yn weddol newydd, gawn ni weld beth fydd y canlyniadau mewn rhyw ddau fis!
Ers cychwyn tyfu llysiau dwi wedi methu tyfu tomatos yn llwyddianus iawn er i Nhad fod yn giamstar arni. Ar ol nifer o flynyddoedd o ddioddef o botritis mae eleni wedi troi allan i fod yn hollol wahanol i'r blynyddoedd blaenorol. Rhain heb os nac oni bai ydi'r planhigion tomato gorau imi eu tyfu, er iddi fod yn flwyddyn llaith dwi wedi gallu osgoi unrhyw afiechyd.
Zenith ydi'r tomatos yn tyfu yn gwely ar y chwith a Goldstar ydi'r rhai ar y dde. Mae'r Zenith yn edrych dipyn cryfach planhigyn na'r Goldstar felly dwi wedi gadael iddo dyfu ymlaen i grib y to gan alluogi imi gael tua 10 neu 12 o drusses yn hytrach na'r 6 nau 7 gai o'r Goldstar byddaf yn stopio pan gyrhaeddith top y cane.

Subscribe to:
Posts (Atom)