Thursday, 23 August 2012

SIOE SIR MEIRIONYDD 2012

Er gwathaf y flwyddyn gwaethaf erioed imi yn yr ardd mi wnes i allu llwyfanu mewn 7 dosbarth i gyd yn Nhywyn. Yn syfrdanol er fod y llysiau dipyn yn is o ran safon eleni mi wnes i gael 7 cyntaf!


Mae'r tatws yn bell o safon rhai llynedd ond dwi reit ffyddiog y caf ddigon o rai o weddill y bagiau ar gyfer y Welsh Branch a'r National oherwydd dim ond 4 bag o bob un wnes i orfod gwagu i gael y setiau yma.

Dwi braidd yn siomedig yn y moron byr ac bu'n rhaid imi godi mwy nac oeddwn wedi fwriadu er mwyn cael set dda o 3.

Mae'r nionod 250g wedi troi allan yn dda iawn eleni ac yn dangos fod modd eu tyfu heb lawer o ffwdan mewn potiau 10ltr yn cynnwys dim ond compost Levington M3. Yr unig fai sydd arnynt ydi eu bod braidd yn ysgafn ac dim ond yn pwyso tua 220g.


Heb os nac oni bai rhain ydi'r tomatos gorau imi eu tyfu erioed er fod yna nifer o farciau arnynt. Tydi'r marciau ddim i'w gweld ar y lluniau yma ond maent ar y mwyafrif yn y ty gwydyr ac dwn i ddim beth yw'r rheswm hyd yma, dwi'n gobeithio cael holi Charles Maisey yn dwll wythnos i ddydd sadwrn yn Mhen y Bont.

Hwn oedd y casgliad bychan o lysiau ac roeddwn yn hynod o falch o sgorio 13 a 1/2 allan o 15 am y nionod 250g, sy'n dangos er eu bod braidd yn ysgafn na fyddant yn edrych allan o le ar y bwrdd yn y National diwedd mis nesa.

Sunday, 22 July 2012

Y sioeau yn agosau!

Ers dechrau tyfu llysiau hon ydi'r flwyddyn anoddaf dwi wedi ei gael. Mae'r tywydd wedi bod mor ansefydlog dechrau'r flwyddyn yna cyfnod poeth iawn mis Mai wedyn mehefin gwlypaf erioed i ddilyn! Oherwydd gwahaniaeth mawr rhwng tymheredd dydd a nos mae nifer o lysiau wedi chael hi'n anodd eleni ond dwi wedi bod yn lwcus fod nifer o lysiau erbyn hyn yn cael eu tyfu dan do.


Mae'r ansefydlogrwydd mewn tymheredd dydd a nos yn sicr wedi effeithio'r moron hir a'r panas hir. Er iddynt egino yn weddol gynnar a dechrau ar eu taith yn weddol gryf cafodd oerni nosweithiau mis Mai effaith andwyol arnynt ac eu dal yn ol. Tydynt heb ddod dros hynny ac i wneud pethau'n waeth maent ymddangos eu bod wedi cael rhyw fath o afiechyd, berig bydd rhaid anghofio rhain am eleni.

Mae'r tatws wedi bod yn ymdopi yn weddol dda hefo'r tywydd gwlyb a gwyntog ond yn sicr tu ol i lle'r oeddynt llynedd.



Ar ol y llwyddiant ges i llynedd hefo'r tatws dwi wedi penderfynnu canolbwynio dipyn mwy arnynt eleni gan blannu 6 gwahanol fath, 3 lliw a 3 gwyn.

Winston
Casablanca
Sherine
Amour
Kestrel
Purple Eyed Seedling

I  gyd dwi wedi defnyddio 150 o polypots gan obeithio cael digon o ddewis ar gyfer yr holl sioeau dwi'n anelu atynt eleni. Oherwydd yr holl wynt rydym wedi bod yn ei gael eleni dwi wedi gosod llinynau ar hyd y rhesi i roi cymorth i'r dail rhag plygu drosodd, rhywbeth wnes i ddim orfod gwneud llynedd. Maent wedi cael chwistrelliad o dithane rhag blight pob pythefnos ers tua dau fis bellach gan fy mod wedi bod yn cael text gan y potato council fod yna berig ohono yn yr ardal bob un ail ddiwrnod jest. Dwi'n weddol hapus hefo'r tatws hyd yma oherwydd maent yn edrych yn iach iawn ac mae yna olion y bagiau yn dechrau bolio sydd yn dangos fod yna datws yn bresenol.

Byddaf yn codi bag neu ddau yn y pythefnos nesaf i weld lle maent arni ac wedyn  yn gwneud penderfyniad pryd dwi am dorri'r gwlydd i ffwrdd i ddechrau ar y broses o sychu'r bagiau allan.


Beth mae eleni wedi brofi imi ydi'r mai'r ffordd ymlaen yn y dyfodol ydi tyfu pob dim dan do, oherwydd mae safon y cynnyrch yn y twnel llawer gwell na'r llysiau tu allan. Mae'r moron yn profi hyn     hefo'r stumps yn egino llawer gwell ac yn tyfu yn ddi dor wedyn. Mae'r llun cyntaf yn dangos y rhai cyntaf imi blannu, bydd rhain gobeithio yn barod ar gyfer sioe yr NVS Welsh Branch yn Mhen y Bont dechrau mis Medi a sioe Sir Meirionydd cannol mis Awst.
Mae'r ail lun yn dangos y rhai dwi wedi blannu ar gyfer y National yn Malvern diwedd mis Medi. Hyd yma maent yn edrych yn addawol iawnac rhai yn dechrau dangos ar y wyneb sydd yn arwydd fod y 'stump end' yn dechrau ffurfio.

I lawr cannol y twnel dwi'n tyfu 9 (ar ol colli 1!) cenin Pendle Improved sydd yn edrych yn iach iawn hyd yma ond braidd yn araf yn lledu allan. Dwi wedi chael hi'n anodd eu tynnu ar i fynu felly dim ond tua 12" i'r button ydynt erbyn hyn ond dwi wedi gosod coler 18" arnynt gan obeithio eu tynnu ar i fynnu i'r lefel hwn erbyn diwedd mis Medi.

Dwi wedi plannu 3 gwely o flodfresych, y gwely cyntaf ar gyfer sioe Sir, yr ail ar gyfer y Welsh Branch a'r trydydd ar gyfer y National. Mae'r dau wely cyntaf yn llawn o Cornell sydd i weld yn ennill yn aml ar y byrddau arddangos ond mae'r gwely olaf yn llawn o Tetris sydd yn weddol newydd, gawn ni weld beth fydd y canlyniadau mewn rhyw ddau fis!

Ers cychwyn tyfu llysiau dwi wedi methu tyfu tomatos yn llwyddianus iawn er i Nhad fod yn giamstar arni. Ar ol nifer o flynyddoedd o ddioddef o botritis mae eleni wedi troi allan i fod yn hollol wahanol i'r  blynyddoedd blaenorol. Rhain heb os nac oni bai ydi'r planhigion tomato gorau imi eu tyfu, er iddi fod yn flwyddyn llaith dwi wedi gallu osgoi unrhyw afiechyd.


Zenith ydi'r tomatos yn tyfu yn gwely ar y chwith a Goldstar ydi'r rhai ar y dde. Mae'r Zenith yn edrych dipyn cryfach planhigyn na'r Goldstar felly dwi wedi gadael iddo dyfu ymlaen i grib y to gan alluogi imi gael tua 10 neu 12 o drusses yn hytrach na'r 6 nau 7 gai o'r Goldstar byddaf yn stopio pan gyrhaeddith top y cane.


Tuesday, 1 May 2012

MAI RHY BLYDI OER!

Dwi di bod yn poeni dros yr wythnosau diwethaf fod y moron hir ar moron byr ddim am egino oherwydd y tywydd oer rydym wedi ei gael dros y mis diwethaf ond ar ol 17 diwrnod maent wedi penderfynnu dod i'r wyneb. Adeg yma llynedd roeddwn wedi gorffen plannu fy nhatws ac yn paratoi y ty gwydyr yn barod i blannu'r tomatos yn y borderi ond eleni mae'r tywydd shit 'ma rydym yn ei gael yn gohirio pob cyfle o ddal i fynnu!

Er gwaethaf hyn mae yna lot wedi digwydd ers y tro diwethaf imi 'sgwennu 'ma.

Mae'r ffaith fod gan y ty gwydyr wres yn fantais mawr felly digon hawdd oedd cael y tomatos i egino. Eleni mae gen i ddau deip, Goldstar a Zenith ac yn ol bob son mae'r ail un 'ma yn berig o drechu Cedrico sy'n ennill ym mhob man ar hyn o bryd. Erbyn hyn mewn cwta mis ers egino maent wedi eu potio mewn potiau 4" ac yn sefyll o ddeutu troedfedd ac y trws cyntaf yn dechrau ffurfio!
Un dasg dwi wedi cael amser i'w orffen ydi plannu'r moron byr yn y gwely newydd. Mae'r moron yn yr hen wely wedi egino ac dyle rhain wneud imi i'r sioeau lleol.
Ond dwi wedi dal y gwely newydd yn ol ar gyfer y 'National' yn Malvern diwedd mis Medi. Yr un cymysgedd a llynedd dwi wedi ei ddefnyddio sef:

1 bag o Levington F2S wedi ei roi drwy ridyll
12oz o Calcified Seaweed Powder
12oz o gwrtaith Tev4
4 1/2oz o Nutrimate Powder
25ltr o Vermiculite (medium grade)
Dwr yn cynnwys Nutrimate Liquid

Sweet Candle ydi'r hadau dwi wedi ei ddefnyddio eto eleni ond dwi wedi llwyddo i gael hadau reit gyffrous i'r moron hir gan neb llai na Graeme Watson sydd wedi ennill y 'National' nifer o weithau. Mae gen i obeithion uchel hefo rhain oherwydd maent wedi egino erbyn hyn sy'n golygu fod ganddynt llawer mwy o amser i gyrraedd eu llawn potensial gan fod y 'National' mis yn hwyrach eleni.
Yr un cymysgedd ar moron byr dwi wedi ei ddefnyddio gawn ni weld os ydi hyn yn ddewis doeth.
 
Daw amser teneuo'r holl foron wythnos nesa 'ma ond mae hi'n hen bryd imi deneuo'r parsnips lawr i'r un cryfa.
Braidd yn araf ydi datblygiad y cenin dwi'n teimlo eleni. Er imi eu coleru yn gynt er mwyn eu tynnu ar i fynnu, siomedig ydw i ddweud y gwir oherwydd maent yn parhau i fod yn weddol fach hyd yma ac yn tyfu yn araf deg.

Mae hi'n hen bryd eu potio ymlaen oherwydd mae'r gwreiddiau wedi cychwyn dod allan o waelod y potiau 5".

Y pryder mwyaf sydd gen i ar hyn o bryd ydi trio cael amser i blannu'r tatws. erbyn hyn mae yna 108 o fagiau wedi cael eu llenwi ond mae'r tywydd yn fy atal rhag paratoi'r rhesi. Mae'r gwely yn hynnod o wlyb ar hyn o bryd ac mae'r bagiau o dan orchudd ar hyn o bryd.

Dwi'n gobeithio cael llenwi 150 o fagiau i gyd a'r bwriad ydi eu plannu i gyd erbyn y penwythnos nesa 'ma.

Y nionod 250g sydd edrych orau hyd yma. Mae gen i 40 wedi eu potio mewn potiau 10ltr a'r gobaith ydi eu cynaeafu cychwyn Gorffennaf.


Tuesday, 13 March 2012

DIM AMSER!

Dwi wedi bod yn brin uffernol o amser yn y misoedd diwethaf oherwydd gwahanol resymau gan gynnwys cymeryd drosodd y busnes teuluol sydd yn mynd i gwtogi yr amser dwi'n gallu ei roi i'r ardd. Er gwaethaf hyn dwi dal am drio tyfu ar gyfer y sioeau mwyaf and am ganolbwyntio ar llai o lysiau.

Ar hyn o bryd mae genai nionod 250g yn tyfu reit gryf yn y ty gwydyr ers mis Ionawr ac bellach wedi symud i botiau 4" sgwar. Mae'r potiau sgwar ma dipyn gwll na rhai crwn yn fy marn i gan fod na nifer mwy o blanhigion yn gallu ffitio ar y bench heb unrhyw wagle rhyngddynt, felly does yna ddim dwr yn cael ei wastraffu bob tro rmaent yn cael eu dyfrio.

Mae yna 60 wedi cael eu potio fynnu hyd yma hefo tua 40 arall yn barod i'w symud o'r 40cell. Dylwn i allu dewis a dethol y rhai gorau i'w tyfu ymlaen wedyn gwerthu y gwedddill gobeithio.

Penwythnos nesa ma dwi'n gobeithio cael plannu hadau parsnip, mae'r hadau wrthi'n chitio ar hyn o bryd ond mae'r gwely wedi cael ei baratoi yn barod gan sterileiddio 5 tunnell o dywod hefo armillatox, proses aru gymeryd drwy prynhawn imi.


Dim ond 12 parsnip dwi am blannu eleni oherwydd dim on 2 dwi angen i sioe Sir a 3 ar gyfer Sioe Cerrig felly dyle hyn fod yn ddigon. Am y rheswm hwn dwi heb fynd i drafferth mawr yn gwneud cymysgedd priodol, dim ond wedi defnyddio cymysgedd oedd gen i yn weddill ers llynedd, gawn ni weld os y gwnan nhw droi allan fel dwi'n obeithio!

Wythnos diwethaf daeth y cenin drwy'r post gan Medwyn aedi au pacio yn dda iawn rhaid dweud.
Llynedd mi wnes i uffen o gamgymeriad aru i raddau helaeth andwyo'r cenin ac eu hatal rhag cyrraedd au llawn potensial, felly eleni dwi ddim am wneud yr un camgymeriad.
Er fy mod wedi torri dipyn o'r gwreiddiau yn tynnu'r jiffy pellet dwi'n teimlo fod peidio a gwneud hyn wedi atal y cenin llynedd rhag tyfu ymlaen yn gywir. Y gobaith eleni ydi canolbwyntio ar dim ond 10 o genin Pendle Improved ac felly cyrraedd safon reit uchel.

Dwi heb eu coleru nhw eto, dim ond wedi defnyddio'r clipiau gwyrdd i ddal y dail reit uchel i fynnu hyd yma ond dwi'n gobeithio dechrau eu coleru yn y pythefnos nesa oherwydd mae'r Pendle angen ei dynnu ar i fynnu reit gynnar os ydych eisiau cyrraedd 18" o blanch.

Does gen i ddim lluniau eto ond mae'r tomatos wedi egino erbyn hyn. Dwi wedi trio math newydd eleni o'r enw Zenith ac mae pob un o'r hadau hyn wedi egino ond dim ond 6 allan o 10 o'r Goldstar sydd wedi egino hyd yma. Mae tyfu tomatos yn un o'r planhigion hynny dwi heb allu tyfu yn llwyddiannus iawn hyd yma ond gobeithio bydd eleni yn dro ar fyd!

Sunday, 19 February 2012

DISGWYL CNOC AR Y DRWS!


Dyma'r olygfa mae pawb yn ei gael wrth basio adre ar hyd yr A5 bob nos. I fod yn onest dwi wedi bod yn disgwyl cnoc ar y drws gan y 'glas' yn holi os oes yna blanhigion anghyfreithlon yn cael eu tyfu yn y ty gwydyr!

Dwi'n hynod o falch sut mae'r nionod yn dod yn eu blaenau, mae'r golau ychwanegol yn sicr yn cael effaith da iawn arnynt ac oherwydd hynny maent o leiaf mis o flaen rhai llynedd. Erbyn hyn mae'r ail ddeilen yn dechrau dod allan ac mae hi'n hen bryd eu symud i botiau mwy a chymysgedd ychydig yn gryfach mewn bwyd.                                                                                                                                    
                                                                                                                                                                           


Mai'n amlwg o'r llun sydd ar y chwith bydd rhaid imi godi lefel y golau yn y diwrnodau nesaf hefyd gan fod nifer o'r nionod jest a chyffwrdd y bylbiau.


Dwi am fynd ati i'w ail botio nhw heddiw os gai amser gan eu symud i 24 cell tray. Rheswm peidio mynd am botiau mwy ydi fy mod isio'r holl nionod gael strwythr gwreiddiau reit gryf cyn rhoi digonedd o gompost iddynt ledu iddo. Drwy wneud hyn dwi'n gobeithio na chaent gormod o fwyd sy'n gwneud iddynt gael gyddfau tew, rhywbeth dwi'n trio ei osgoi os yw'n bosib.

Monday, 30 January 2012

Y CYFFRO YN CYCHWYN

Braf ydi cael cychwyn arni go iawn. Ar ol rhai misoedd o lusgo traed oherwydd unai'r tywydd neu diffyg amser dwi wedi bod ar bigau drain isio bwrw iddi hefo'r hau a'r plannu. Y bwriad eleni ydi canolbwyntio ar ychydig o lysiau gan obeithio cyraedd safon uchel oherwydd hynny.

Erbyn hyn mae'r nionod 250g wedi egino ac wedi cael eu symud o dan y golau sydd arnodd o 6yb tan 6yh. Toughball ydi'r cyltifar dwi wedi penderfynnu tyfu eleni oherwydd mai dyma'r nionyn ddaeth i'r brig yn y 'National' llynedd.

Dwi'n hynod o falch sut maent wedi egino, pob un cell wedi dad allan gyda'r mwyafrif wedi dod i'r golwg mewn cwta 4 diwrnod!

Maent wedi bod o dan y golau am 3 diwrnod bellach ac mae rhywun yn gweld y gwahaniaeth yn eu tyfiant yn barod gyda'r coesyn cyntaf yn sefyll yn unionsyth ac yn gryf. Dwi'n cofio rhai llynedd ar draws eu gilydd ym mhob man!

Dydd Mercher daeth fy ordor tatws drwy'r post ond dwi heb gael cyfle i'w sortio ac eu glanhau eto, gobeithio caf gyfle wythnos yma ac mi roi luniau ohonynt yma pan gai gyfle. 

Friday, 6 January 2012

2012

Dwi heb 'sgwenu ar y blog ma ers cryn amser oherwydd nifer o wahanol resymau ond yn benaf oherwydd fy mod wedi dod yn dad eto ar 21 o Dachwedd 2011. Mae Ela Owain erbyn hyn yn dod yn ei blaen yn dda ac ei chwaer fawr wrth ei bodd.


Er gwaethaf yr amser hectic sydd wedi bod yn y misoedd diwethaf dwi wedi gallu gwneud rhywfaint yn yr ardd. Yn benaf dwi dim ond wedi gweithio ar y ty gwydr ar twnel oherwydd y tywydd rydym wedi ei gael dros y'r wythnosau diwethaf.

Ar ol trwsio dwy ffenestr oedd wedi torri mewn gwynt es i ati i greu partisiwn yn y ty gwydr er mwyn gwneud hi'n haws rheoli'r tymheredd.


Drwy wneud hyn dwi'n gobeithio cwtogi ar fy mil trydan yn ogystal a rhoi'r cychwyn gorau posib i'r planhigion. Y bwriad ydi cychwyn yr hadau nionod 250g yn y pythefnos nesa gan ddefnyddio golau ychwanegol dwi wedi ei brynnu i ddod a nhw yn eu blaenau yn gynt er mwyn gallu eu codi yn gynt hefyd i gychwyn ar y broses o sychu'r croen. Bydd genai lun o'r golau ichi tro nesa pan fyddai wedi ei osod.

Yn y twnel yr unig beth dwi wedi ei wneud ydi clirio gwely y nionod mawr allan I wneud lle i'r gwely moron newydd.